Newyddion a chyhoeddiadau

Y canllawiau, ymgynghoriadau, adroddiadau, newyddion a blogiau diweddaraf.

Beth rydym yn ei wneud

1 Awst 2024

Mae Medr yn fyw!

Mae heddiw’n nodi carreg filltir arwyddocaol i Medr: rydym bellach yn weithredol, a ninnau wedi ymgymryd â’r mwyafrif o’n cyfrifoldebau cyfreithiol.

Bu’n siwrne faith – o adolygiad Hazelkorn yn 2016, a argymhellodd sefydlu corff hyd braich i oruchwylio sector cyfunol ar gyfer addysg ôl-16 ac ymchwil, i lansio Medr heddiw – ac fe hoffwn i ddiolch i chi am eich cefnogaeth hyd yma. Bydd Medr yn parhau i esblygu dros y misoedd nesaf, ac rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chi i sicrhau proses bontio esmwyth.

Er bod Medr yn sefydliad newydd, rydym yn ffodus ein bod yn etifeddu cyfoeth o brofiad ac arbenigedd gan gydweithwyr sy’n trosglwyddo o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Llywodraeth Cymru, felly bydd enwau a wynebau cyfarwydd yn ein strwythur staff. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu cydweithwyr newydd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

I ryw raddau, serch hynny, mae pawb sy’n gweithio yn Medr yn ‘newydd’; bydd gan ein pobl i gyd gyfrifoldebau newydd, a byddant yn addasu i feddylfryd addysg drydyddol – ac mae arnom eisiau gweithio gyda chi wrth i ni wneud hynny. Mae’r wybodaeth a phrofiad cyfoethog yr ydym yn eu hennill yn golygu ein bod yn cychwyn ar sylfaen gref, nid dim ond i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau, ond hefyd i wneud y gorau o’r cyfleoedd y mae sector addysg drydyddol ac ymchwil cydgysylltiedig yn eu cynnig i ni. Ein lle ni i gyd fel sector fydd penderfynu beth yw’r cyfleoedd hynny, a sut i’w gwireddu.

Rydym yn y broses o ddatblygu ein cynllun strategol, a fydd yn amlinellu sut yr ydym yn mynd i gyflawni ein cyfrifoldebau deddfwriaethol a blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer ein sefydliad. Diolch i’r rhai sydd eisoes wedi ymgysylltu â ni ar y cynllun strategol; rydym yn edrych ymlaen at gasglu mwy o safbwyntiau trwy ymgynghoriad ffurfiol yn yr hydref cyn cyflwyno’r cynllun i weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr.

Cadwch olwg dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf wrth i ni ei diweddaru ein gwefan â newyddion a gwybodaeth, ac fe hoffwn eich annog i’w rhannu ymhlith eich rhwydweithiau. Os byddwch yn cael unrhyw drafferth cael mynediad at wybodaeth, cysylltwch ag aelod o’r tîm yn [email protected].

Rwyf wrth fy modd bod Medr bellach wedi’i sefydlu’n llawn, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda phobl ar draws y sector addysg drydyddol ac ymchwil yn ei gyfanrwydd i greu newid cadarnhaol a dyfodol gwell i bob dysgwr yng Nghymru.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio