Newyddion
Cyhoeddi adolygiad annibynnol o’r rhaglen Dyfodol Data
29 Jan 2025
Heddiw mae Medr wedi croesawu cyhoeddiad Arolygiad Annibynnol y rhaglen Dyfodol Data.
Nod y rhaglen Dyfodol Data, y dechreuwyd ei chynnal yn 2017, oedd effeithloni’r broses o gasglu ac adrodd ar ddata mewn addysg uwch. Dyma’r newid mawr cyntaf i systemau data myfyrwyr ers dros dau ddegawd.
Bwriad y rhaglen yw darparu dull o gasglu un ffrwd o ddata ansawdd uchel gan y sector addysg uwch, gan alluogi myfyrwyr i wneud dewisiadau deallus ynghylch eu hastudiaethau, yn seiliedig ar wybodaeth amserol.
Ar ran y sefydliadau rheoleiddio a chyllido ym mhedair gwlad y DU, comisiynwyd Price Waterhouse Coopers (PwC) gan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) i gynnal adolygiad annibynnol o’r problemau hyn yn ystod haf 2024.
Yn rhan o’r gwaith hwn, bu PwC yn ymgysylltu â grwpiau’r sector a detholiad o sefydliadau o bob rhan o’r DU. Yna defnyddiodd PwC ei brofiadau i greu argymhellion i’r holl sefydliadau sy’n ymwneud â’r rhaglen.
Dywedodd Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr: “Rydym yn croesawu’r adroddiad a byddwn yn gweithio drwy’r argymhellion gyda Jisc a’r cwsmeriaid statudol eraill i ystyried pa mor ddichonol yw eu gweithredu. Byddwn yn ailedrych ar ein gofynion ar gyfer data yn ystod y flwyddyn yn sail ar gyfer diffinio cwmpas casgliadau data yn ystod y flwyddyn.”
Datganiad i’r wasg y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS) (Saesneg yn unig) Adolygiad annibynnol o'r rhaglen Dyfodol Data (Saesneg yn unig)Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio