Ffynonellau gwybodaeth eraill
Estyn, sef arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru
This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.
Mae gennym gyfrifoldeb i asesu, neu wneud trefniadau i asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan neu ar ran darparwyr a reoleiddir. Gwnawn hyn drwy ein prosesau asesu ansawdd. Rydym hefyd yn gyfrifol am fonitro ansawdd addysg drydyddol a hybu gwelliant yn yr ansawdd hwnnw.
Mae gwelliant parhaus yn golygu bod darparwyr yn defnyddio hunanwerthusiadau, data, dadansoddiadau a gwybodaeth i anelu at ragoriaeth gyson. Mae’n broses barhaus, ac mae’n gallu cynnwys mynd i’r afael â diffygion a gwneud newidiadau cynyddrannol i ddeilliannau dysgwyr dros amser. Bydd darparwyr addysg uwch fel arfer yn cyfeirio at y gweithgarwch hwn fel cyfoethogi neu wella ansawdd.
Mae ansawdd yn elfen allweddol o reoleiddio, yn unol â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, a bydd yn amod cofrestru a chyllido.
Fframwaith Ansawdd
Mae Medr wedi datblygu Fframwaith Ansawdd sy’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
Rydym yn gweithio gydag Estyn a QAA i gysoni dulliau lle bo modd. Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu methodolegau asesu ansawdd allanol.
Nod y Fframwaith Ansawdd yw helpu darparwyr i sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn sector sy’n ymdrechu i wella’n barhaus.
Credwn mai ystyr addysg o ansawdd da yw addysg sy’n diwallu anghenion rhesymol dysgwyr. Caiff hyn ei ddangos drwy ddeilliannau cadarnhaol i ddysgwyr, yng nghyd-destun amrywiaeth y sector a’r corff dysgwyr.
Mae’r Fframwaith Ansawdd yn cynnwys saith conglfaen y credwn eu bod yn dangos bod darpariaeth o ansawdd da ac rydym yn disgwyl iddynt arwain at ddeilliannau da i ddysgwyr. Mae’r Gymraeg wedi’i gwreiddio ym mhob un o’r conglfeini.
Caiff dysgwyr gyfleoedd i fod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau darparwyr, a gall darparwyr ddangos effeithiolrwydd ac effaith hyn.
Ystyrir safbwyntiau dysgwyr ynglŷn ag ansawdd yr addysg drydyddol a roddir iddynt.
Mae corff llywodraethu darparwr yn gwneud cyfraniad allweddol at sicrhau addysg o ansawdd da. Mae’n goruchwylio ansawdd addysg drydyddol y darparwr, a’r ffordd y caiff yr addysg honno ei gwella’n barhaus, yn weithredol ac yn effeithiol.
Mae darparwyr yn hunanwerthuso, yn cynllunio ar gyfer gwelliant ac yn myfyrio’n rheolaidd ac yn drwyadl, a bydd hyn yn sail ar gyfer prosesau asesu ansawdd allanol a gwaith cynllunio ar gyfer gwelliant parhaus.
Bydd allanoldeb mewn prosesau asesu ansawdd a gwerthuso gwaith cynllunio ar gyfer gwelliant parhaus, a fydd yn digwydd yn rheolaidd ac yn cwmpasu holl ddarpariaeth darparwyr, gan gynnwys yr hyn a ddarperir ar eu rhan. Bydd darparwyr hefyd yn ceisio sicrhau allanoldeb drwy ddulliau eraill, gan gynnwys eu defnydd ehangach o feincnodi a phwyntiau cyfeirio allanol.
Caiff arferion da eu rhannu’n fewnol ac yn allanol er mwyn ysgogi arloesedd a rhagoriaeth o ran ansawdd y profiad dysgu ym mhob rhan o’r sector addysg drydyddol.
Mae darparwyr a Medr yn helpu aelodau o weithlu’r sector addysg drydyddol i ddysgu a datblygu’n broffesiynol.
Byddwn yn ystyried data er mwyn canfod unrhyw risgiau i ansawdd addysg drydyddol, gan ddefnyddio data sydd eisoes ar gael lle bynnag y bo modd. Bydd hyn yn cynnwys data o’r Casgliad Data Ôl-16, Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru a HESA.
Mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys data o archwiliadau mewnol ac allanol a gomisiynir gan ddarparwyr, ynghyd ag archwiliadau a gomisiynir gan Medr.
Mae’r data y byddwn yn eu hystyried yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
(a) recriwtio
(b) cynnydd
(c) cadw
(d) cwblhau (gan gynnwys ennill cymwysterau)
(e) cwynion i Medr (gan gynnwys niferoedd a phatrymau)
(f) arolygon dysgwyr
(g) cyrchfannau (cyflogaeth/addysg/hyfforddiant)
Rydym yn bwriadu ymgynghori ar ddangosyddion perfformiad i lywio’r ffordd y byddwn yn ymdrin â data.
Caiff cyfraddau cwblhau a chyrhaeddiad dysgwyr sy’n astudio mewn sefydliadau addysg bellach a’r chweched dosbarth mewn ysgolion eu cyhoeddi’n flynyddol.
Mae’r mesurau perfformiad cyson yn dangos cyfran y dysgwyr sy’n ennill y cymwysterau y maen nhw’n anelu atynt, fel cyfran o’r rhai sy’n dechrau rhaglen astudio.
Mae ystadegau cenedlaethol ar gyfer cyrhaeddiad dysgwyr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mesurau perfformiad ôl-16 cyson: trosolwgMae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau adroddiad sy’n mesur llwyddiant y canlynol:
Mae’r adroddiadau’n cynnwys gwybodaeth am:
Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio gwybodaeth o brosesau a gweithgareddau ymgysylltu eraill i lywio ein barn ynglŷn â ph’un a oes risg i ansawdd addysg ai peidio. Gall hyn gynnwys:
Bydd Medr yn gweithio gyda darparwyr a chyrff sy’n cynnal asesiadau ansawdd allanol er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau asesu’n gadarn, yn gymesur ac yn amserol; yn cynnig gwerth ychwanegol i ddarparwyr; ac yn cael effaith o ran ysgogi gwelliant. Yn achos chweched dosbarth ysgolion, rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda’u hysgolion i sicrhau y caiff hyn ei wneud.
Byddwn yn defnyddio canlyniadau arolygiadau Estyn ac adolygiadau QAA wrth asesu ansawdd darpariaeth. Ceir hyd i adroddiadau o arolygiadau Estyn a adolygiadau’r QAA ar wefannau’r cyrff hynny. Os bydd unrhyw ddarparwr yn cael canlyniad sy’n golygu bod angen ymgysylltu pellach, ystyrir nad yw’n dangos ansawdd da. Byddwn yn monitro’r ffordd y bydd darparwyr yn ymgysylltu ag Estyn a QAA er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo i fynd i’r afael â materion a nodir. Os na allant fynd i’r afael â’r materion, mae’n bosibl y byddwn yn rhoi ein Datganiad Ymyrraeth ar waith.
Yn rhan o’r Fframwaith Asesu Ansawdd i Gymru, mae’n rhaid i sefydliadau a reoleiddir dderbyn adolygiadau sicrhau ansawdd allanol rheolaidd. Cynhelir yr adolygiadau hyn drwy ddefnyddio’r Adolygiad Gwella Ansawdd a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch.
Mae’r cylchlythyr hwn yn amlinellu ein gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg, a etifeddwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg (cylchlythyr CCAUC W19/05HE)Mae’r Swyddfa Gartref yn pennu canllawiau ar y gofynion ar gyfer darparwyr addysg sy’n dymuno gwneud cais am drwydded i noddi myfyrwyr rhyngwladol i ddod i’r DU, ac i gadw’r drwydded honno. Rhaid i ddarparwyr addysg sy’n dymuno dod yn noddwyr ddangos bod eu holl safleoedd yn bodloni safonau addysgol derbyniol o ran ansawdd, cynaliadwyedd ariannol, rheolaeth a llywodraethu. Byddant yn gwneud hyn drwy eu corff Goruchwylio Addysgol. Medr yw’r corff Goruchwylio Addysg ar gyfer prifysgolion cofrestredig yng Nghymru, a darparwyr addysg uwch yng Nghymru â chyrsiau penodol nad ydynt yn derbyn goruchwyliaeth addysg gan Estyn na chorff goruchwylio arall. Estyn yw’r corff goruchwylio addysg ar gyfer y rhan fwyaf o ddarpariaeth arall o fewn cylch gwaith Medr.
Rhoddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gomisiwn i’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) gynnal Ymchwiliad i Bryderon ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (Prifysgol Wrecsam bellach) i ymchwilio i faterion a oedd yn ymwneud â systemau sicrhau ansawdd, diwallu anghenion myfyrwyr, partneriaethau a llywodraethu ansawdd. Fe ymwelodd tîm yr adolygiad â’r sefydliad ym mis Ionawr 2023. Casgliad yr adroddiad terfynol gan dîm ymchwilio QAA, a ddaeth i law CCAUC ym mis Mawrth 2023, oedd bod materion difrifol wedi’u canfod.
Adroddiad i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru am Ymchwiliad i Bryderon (Cymru): Prifysgol Wrecsam (Ionawr 2023)
Lle canfyddir materion difrifol mewn ymchwiliad i bryderon, mae’n ofynnol i’r darparwr ddatblygu cynllun gweithredu i gael ei gymeradwyo gan CCAUC. Roedd yn ofynnol bod y broses o roi’r cynllun gweithredu ar waith yn cael ei monitro’n barhaus fel rhan o fframwaith sicrhau ansawdd CCAUC.
Cynllun Gweithredu Adolygiad Sicrhau Ansawdd 2023 Prifysgol Wrecsam (Gorffennaf 2023)
Estyn, sef arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio