Jisc
Elusen gofrestredig a sefydliad dielw yw Jisc sy’n cynorthwyo cymunedau addysg drydyddol ac ymchwil ledled y DU i ddefnyddio technolegau digidol a data. Fel un o gyllidwyr Jisc yn y DU, rydym yn darparu oddeutu £3.3 miliwn mewn cyllid grant i Jisc ym mhob blwyddyn academaidd ar gyfer gwasanaethau a chymorth i ddarparwyr dysgu cymwys yng Nghymru.
O dan ein cytundeb cyllido blynyddol, mae Jisc hefyd yn rhoi cyngor arbenigol a chymorth ymarferol ar gyfer Digidol 2030 a blaenoriaethau dysgu digidol strategol yng Nghymru.
Gall darparwyr dysgu yng Nghymru gael gwybod mwy trwy gysylltu â’u rheolwr perthynas yn Jisc.