Mae Medr yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.
Am y tro cyntaf, mae’r sector addysg drydyddol ac ymchwil yn cael ei reoli a’i gydgysylltu gan un corff hyd braich o dan Lywodraeth Cymru.
Beth rydym yn ei wneudErs 1 Awst 2024, rydym wedi bod yn rheoleiddio
sefydliadau, a chyllido:
- addysg bellach
- addysg uwch gan gynnwys ymchwil ac arloesi
- prentisiaethau
- dysgu oedolion yn y gymuned
- chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Ein gweledigaeth
Rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid i alluogi system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi, gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb, ac ymgysylltiad yn greiddiol iddi.
Newyddion a chyhoeddiadau
Cyhoeddiadau
Medr/2026/15: Cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn 2026-27
14 Apr 2026
Read
Cyhoeddiadau
Medr/2026/14: Cyllid ychwanegol ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn 2026-27
14 Apr 2026
Read
Cynllun Strategol 2025-2030
Mae’r Cynllun Strategol yn amlinellu ein hymateb i flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil.
Cynllun Strategol 2025-2030Rheoleiddio
Rydym yn rheoleiddio lefelau ffioedd, yn sicrhau bod fframwaith yn ei le ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch, ac yn craffu ar berfformiad darparwyr addysg drydyddol.
RheoleiddioCyllido
Rydym yn cyllido addysg drydyddol ac ymchwil, gan gynnwys y chweched dosbarth mewn ysgolion, prentisiaethau, addysg bellach, addysg uwch ac ymchwil ac arloesi.
Cyllid i ddarparwyrPrentisiaethau
Mae prentisiaethau’n galluogi dysgwyr ar bob lefel i ennill cymwysterau wrth ennill cyflog, ac fel arfer mae’n cymryd 1 – 4 blynedd i’w cwblhau.
PrentisiaethauData a dadansoddi
Defnyddir gwybodaeth gan ddarparwyr addysg drydyddol i gyfrifo dyraniadau cyllid, i fonitro cynnydd, i lywio polisi ac i gyhoeddi ystadegau ar gyfer y sector trydyddol.
Data a dadansoddiY Bwrdd a llywodraethu
Mae ein Bwrdd yn sicrhau bod ein cyfrifoldebau, ein swyddogaethau a’n dyletswyddau’n cael eu cyflawni hyd at y safonau uchaf, ac yn arwain, yn llywodraethu ac yn pennu cyfeiriad strategol Medr.
Y Bwrdd a llywodraethuGwybodaeth sefydliadol
Gwybodaeth ymarferol ar gyfer ein darparwyr, ein cyflenwyr a’n rhanddeiliaid pan fyddant yn gweithio gyda ni.
Gwybodaeth sefydliadolDeddf Addysg
Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022
Pasiwyd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 gan y Senedd ar 28 Mehefin 2022 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 08 Medi 2022.
Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio