This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Medr yn croesawu dau aelod newydd i’w uwch dîm

Penodwyd Francesca Hill yn Brif Swyddog Gweithredu ym mis Rhagfyr 2025. Daw Fran â 10 mlynedd o brofiad ym maes pobl, diwylliant a thrawsnewid, a hithau’n fwyaf diweddar wedi arwain proses o ddiwygio diwylliannol a diwygio trefniadau llywodraethu yn y gwasanaethau tân ac achub ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae Fran yn gyfreithiwr cymwysedig, a bu ganddi rôl sylfaenol yn y gwaith i sefydlu Medr, gan arwain ar drosglwyddo staff a sefydlu trefniadau llywodraethu.

Fe ymgymerodd Bethan Evans â rôl Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio a Dadansoddi ym mis Chwefror 2026.

Mae Bethan yn ymuno â Medr o KPMG, lle treuliodd 12 mlynedd ym maes ymgynghori ar gyfer y sector cyhoeddus, gan gynghori cleientiaid mewn diwydiannau a reoleiddir yn helaeth megis dŵr, gofal iechyd, trafnidiaeth, cyfiawnder ac amddiffyn. Mae’n Gyfrifydd Siartredig, ac fe wasanaethodd yn flaenorol fel Pennaeth Ofwat yng Nghymru a Swyddog Cymru’r Comisiwn Etholiadol.

Bydd Fran yn goruchwylio’r Cyfarwyddiaethau Cyllid, Digidol a Gwybodaeth, yn ogystal â’r tîm Pobl a Diwylliant, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd a’r tîm Cynllunio Corfforaethol.

Bydd Bethan yn gyfrifol am swyddogaethau rheoleiddio a dadansoddi Medr, gan sicrhau dull cymesur, seiliedig-ar-risg o fonitro cydymffurfedd, a darparu sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer cynllunio a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Meddai Fran:

“Rwyf wrth fy modd i fod wedi ymuno â Medr fel Prif Swyddog Gweithredu. Rwy’n credu’n angerddol bod addysg o bwys ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm talentog yn Medr i adeiladau ar yr hyn a gyflawnwyd ers iddo ddod yn weithredol ym mis Awst 2024. Ar adeg pan fo’r sector addysg yn wynebu heriau digynsail, rwy’n ymrwymedig i sicrhau bod gan Medr rôl allweddol i helpu i wella profiad a deilliannau dysgwyr ac ehangu cyfranogiad mewn addysg drydyddol, gan sicrhau yn y pen draw ei fod yn gwireddu’r uchelgeisiau yn ei gynllun strategol.”

Meddai Bethan:

“Rwy’n falch tu hwnt i fod wedi ymuno â Medr ac yn edrych ymlaen at feithrin perthnasoedd cryf ar draws y sector, yn seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth rhwng pawb. Rwy’n benderfynol o gyflawni dull rheoleiddio cymesur, seiliedig-ar-risg sy’n ei gwneud yn bosibl darparu llwybrau rhagorol i ddysgwyr yng Nghymru. Trwy gydweithio a bwrw’r maen i’r wal gam wrth gam, credaf fod gennym gyfle unigryw yn Medr i gyflawni newid ystyrlon er budd dysgwyr, darparwyr a phobl Cymru.”

Meddai James Owen, Prif Weithredwr Medr:

“Rwyf wrth fy modd i groesawu Fran a Bethan i Medr. Roedd hi’n wych ennyn y fath ddiddordeb a thalent aruthrol yn y rolau arwain hollbwysig hyn wrth i ni barhau i gryfhau ein tîm i gyflawni ein cynllun strategol ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil.

“Bydd Fran yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl ac mae hi wastad yn cyflawni ei gwaith yn egnïol, yn benderfynol ac yn hwyliog.

“Mae Bethan yn cyfuno sgiliau dadansoddi dwfn ag awch i rymuso eraill i wireddu eu potensial a meithrin timau effeithiol.

“Bydd eu harweinyddiaeth a’u harbenigedd yn hollbwysig i ategu ein nod sefydlu, sef sefydlu Medr fel sefydliad hynod effeithiol a rheoleiddiwr yr ymddiriedir ynddo.”

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio