Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, wedi ymrwymo i warchod eich gwybodaeth bersonol a pharchu eich preifatrwydd.

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwarchod a rheoli eich gwybodaeth bersonol. Rydym wedi sefydlu mesurau diogelwch ffisegol, technegol a sefydliadol i gynorthwyo gyda hyn. Dyma rai o’r mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith:

  • mabwysiadu mesurau diogelwch cyfrifiadurol fel waliau tân, amgryptio, protocolau trosglwyddo diogel, profion treiddio, manylion diogelwch cymhleth, protocolau dilysu aml-ffactor a rheoli mynediad, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad gan ddibynnu ar gyfrifoldebau swydd
  • ardystiad Cyber Essentials a chydymffurfio parhaus yn erbyn fframweithiau diogelwch a gydnabyddir gan y Llywodraeth a diwydiant
  • fframwaith cynhwysfawr o bolisïau perthnasol i ddiogelu data, diogelwch gwybodaeth a rheoli cofnodion
  • sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth rheolaidd i’n cyflogeion i sicrhau dealltwriaeth a chydymffurfiaeth ar draws y sefydliad
  • cadw cofrestr diogelu data sy’n nodi’r holl wybodaeth bersonol sy’n cael ei chadw ac sy’n cynnwys manylion fel sail gyfreithlon ar gyfer prosesu, lleoliad, mesurau diogelwch a chadw
  • trefniadau rhannu data a chymalau perthnasol mewn contractau sydd â goblygiadau data personol
  • hysbysiadau preifatrwydd fel bod unigolion yn ymwybodol o ba wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw a pham
  • cynnal asesiadau effaith diogelu data i adnabod risgiau ac i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data, a
  • data a gedwir yn y DU a heb eu trosglwyddo y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (AEE). Os oes gofyniad i drosglwyddo gwybodaeth bersonol y tu allan i AEE, dim ond i wledydd y mae eu deddfau diogelu data wedi’u hasesu fel rhai digonol gan y Comisiwn Ewropeaidd fyddai trosglwyddo’n cael ei ganiatáu, a lle mae mesurau diogelu digonol yn eu lle i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau diogelu data perthnasol.

Rydym yn ceisio bod mor agored â phosib o ran rhoi mynediad i chi at eich gwybodaeth bersonol. O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawliau penodol sydd wedi’u hesbonio yn yr adran ‘Mynediad at wybodaeth bersonol’.

Rydym hefyd am fod yn glir ynghylch yr hyn a allai fod wedi’i gynnwys yn y categorïau gwybodaeth bersonol, felly rydym wedi cynnwys disgrifiadau o’n categorïau o wybodaeth bersonol.

Hysbysiad Preifatrwydd

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio