Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio’r sector addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys: addysg bellach, addysg uwch, gan gynnwys ymchwil ac arloesi, prentisiaethau, dysgu oedolion yn y gymuned, a’r chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol.

  • Cyllido.
  • Monitro perfformiad a threfniadau llywodraethu darparwyr addysg drydyddol.
  • Hyrwyddo gwelliant mewn addysg drydyddol.
  • Galluogi rhagoriaeth ac effaith gynaliadwy ym maes ymchwil ac arloesi.
  • Sicrhau bod buddiannau dysgwyr yn greiddiol i brosesau penderfynu
  • Ystyried ac ymateb i anghenion cyflogwyr a’r economi.
  • Gweithio gyda phartneriaid i gynyddu’r cyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael mewn addysg drydyddol, ac annog y galw am gyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dydyn ni ddim yn darparu grantiau na chyllid yn uniongyrchol i fyfyrwyr nac ymchwilwyr unigol.

Cyllid Myfyrwyr Cymru Cyllid myfyrwyr mewn addysg bellach

Ein blaenoriaethau

Mae gennym un ddyletswydd strategol ar ddeg a rydym yn datblygu cynllun strategol cyntaf Medr.

Ein blaenoriaethau

Rheoleiddio

Rydym yn rheoleiddio lefelau ffioedd, yn sicrhau bod fframwaith yn ei le ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch, ac yn craffu ar berfformiad darparwyr addysg drydyddol. 

Rheoleiddio 

Y Gymraeg

Un o brif flaenoriaethau Medr yw hyrwyddo addysg drydyddol trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Y Gymraeg

Ansawdd

Rhaid inni asesu, neu wneud trefniadau i asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran ddarparwyr a reoleiddir. Rhaid inni hefyd fonitro, a hyrwyddo gwelliant i ansawdd addysg drydyddol.

Ansawdd

Ymchwil ac arloesi

Ein nod yw hyrwyddo sylfaen ymchwil ddeinamig a chynaliadwy o fewn sefydliadau addysg uwch.

Ymchwil ac arloesi

Ar gyfer darparwyr dysgu

Rydym yn datblygu polisïau mewn ystod o feysydd ac yn annog darparwyr i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn.

Ar gyfer darparwyr dysgu

Cyllid i ddarparwyr

Rydym yn cyllido addysg drydyddol ac ymchwil, gan gynnwys y chweched dosbarth mewn ysgolion, prentisiaethau, addysg bellach, addysg uwch ac ymchwil ac arloesi. 

Cyllid i ddarparwyr

Monitro a chydymffurfio

Mae angen inni fod yn hyderus bod y darparwyr a gyllidir gennym yn cael eu cynnal mor effeithlon ac effeithiol ag sy’n bosibl i ddiogelu cyllid cyhoeddus.

Monitro a chydymffurfio

Data a dadansoddi

Defnyddir gwybodaeth gan ddarparwyr addysg drydyddol i gyfrifo dyraniadau cyllid, i fonitro cynnydd, i lywio polisi ac i gyhoeddi ystadegau ar gyfer y sector trydyddol. 

Data a dadansoddi
Tanysgrifio