Profiadau myfyrwyr addysg uwch

Mae addysg uwch yn cynnwys myfyrwyr sy’n astudio gradd mewn prifysgol neu goleg. Gall hyn olygu cwrs gradd, neu gwrs ôl-radd fel Doethuriaeth neu Radd Meistr.

Hyd fis Awst 2024, roedd addysg uwch yng Nghymru yn cael ei rheoleiddio a’i chyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Ym mis Awst 2024 daeth Medr yn weithredol a chymryd drosodd swyddogaethau CCAUC. Cafodd rhai o’n canllawiau a’n cyhoeddiadau cyfredol eu hysgrifennu neu eu cyllido gan CCAUC, a byddant yn parhau i arddel enw CCAUC nes cael eu diweddaru yn y dyfodol.

Dylai sefydliadau addysg uwch weithio gyda’r corff o fyfyrwyr i baratoi Siarteri Myfyrwyr, sy’n nodi disgwyliadau, hawliau a chyfrifoldebau sefydliadau a’u myfyrwyr, y naill i’r llall. Dylai’r rheiny fod wedi’u cynllunio i gefnogi profiad dysgu’r myfyriwr, a chynnwys dolenni priodol i wybodaeth bellach. Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ganllawiau ar sut y dylai darparwyr addysg uwch fynd ati i ddatblygu siarteri myfyrwyr ac mae’r disgwyliadau hyn wedi’u cynnwys yn y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.

Cyhoeddodd CCAUC gyfarwyddyd ar arfer da o ran cyllido undebau myfyrwyr effeithiol a democrataidd, a chynrychiolaeth myfyrwyr.

Yn 2022, cyhoeddodd CCAUC adroddiad gan AU Ymlaen, a gomisiynwyd gan CCAUC, ar adolygu polisi ac arfer yn gysylltiedig â chefnogi myfyrwyr ôl-radd sy’n addysgu.

Yn 2023, cyhoeddodd CCAUC adroddiad gan Ymchwil Arad, a luniwyd ar ran CCAUC, ar brofiadau ehangach myfyrwyr ymchwil ôl-radd.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn casglu adborth ar foddhad myfyrwyr israddedig blwyddyn olaf â’u cwrs. Mae’n ffynhonnell allweddol o dystiolaeth er mwyn i Medr ddeall safbwyntiau myfyrwyr ynglŷn â’u profiad dysgu.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn eiddo i Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon, ac fe’i rheolir gan y Swyddfa Fyfyrwyr ar ran yr holl sefydliadau hyn. Ipsos yw’r cwmni sy’n gweinyddu’r arolwg, ac mae CACI Ltd yn lledaenu’r canlyniadau i ddarparwyr a sefydliadau.

Mae rhagor o wybodaeth a data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gael ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Gall pob myfyriwr israddedig blwyddyn olaf lenwi’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Gall myfyrwyr gael rhagor o wybodaeth amdano ar wefan yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr neu drwy ofyn i’w darparwr.

Mae’n ofynnol i’r holl ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru sy’n cael eu rheoleiddio a’u cyllido gymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a hyrwyddo’r arolwg i’r holl fyfyrwyr sy’n gymwys. Mae Medr yn ariannu cyfranogiad yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gyfer darparwyr yng Nghymru.

Bydd y cwestiynau a ofynnir yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027 yr un fath â’r rhai yn 2026. Gall darparwyr ofyn cwestiynau dewisol hefyd nad ydynt yn rhan o’r data cyhoeddus a rennir.

Er mwyn ceisio lleihau’r baich ar ddarparwyr, mae’r broses ychwanegu a dileu wedi cael ei hadolygu a’i diweddaru ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027. Mae’r arweiniad gan y Swyddfa Fyfyrwyr a’r canllaw sefydlu ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027 a ddarparwyd gan Ipsos yn rhoi rhagor o fanylion am y broses hon.

Dyddiad Cam Gweithredu
21 Hydref 2026 Ipsos i gyhoeddi canllaw sefydlu a chanllaw arfer da ynglŷn ag Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027 i ddarparwyr
06 Ionawr 2027 Lansio’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
07 Ionawr 2027 Gwaith maes yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn dechrau
30 Ebrill 2027 Gwaith maes yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn gorffen
07 Gorffennaf 2027 Dyddiad dros dro ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr
Dyddiad Cam Gweithredu
27 Tachwedd 2026 Adolygu a diweddaru manylion cyswllt yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
27 Tachwedd 2026 Llenwi’r ffurflen opsiynau ‘fy arolwg’
27 Tachwedd 2026 Cyflwyno templedi sampl Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027 gyda manylion cyswllt myfyrwyr cymwys

Mae cyfarwyddiadau ar sut i gyflenwi’r wybodaeth hon wedi’u cynnwys yng nghanllaw sefydlu Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027, a roddir i gysylltiadau darparwyr gan Ipsos. Mae’r canllawiau hefyd ar gael ar allrwyd Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr Ipsos ac maen nhw’n cynnwys gwybodaeth am weinyddu’r arolwg, cyfrifoldebau allweddol a dyddiadau.

Mae’r wefan Darganfod Prifysgol yn eiddo ar y cyd i Medr, Cyngor Cyllido’r Alban, y Swyddfa Fyfyrwyr, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon. Mae Darganfod Prifysgol yn rhestru pob cwrs gradd gyda darparwyr AU y DU

Mae Darganfod Prifysgol yn eiddo i Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr, Cyngor Cyllido’r Alban ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon. Y Swyddfa Fyfyrwyr sy’n rheoli ochr weinyddol y wefan.

Mae Darganfod Prifysgol yn wefan y gall darpar fyfyrwyr ei defnyddio i gymharu cyrsiau gradd ar draws y DU. Mae’n amlygu data am y darparydd a’r cwrs gan gynnwys canlyniadau’r NSS a Deilliannau Graddedigion.

Mae’n ofynnol i bob darparydd addysg uwch yng Nghymru uwchlwytho data i Darganfod Prifysgol. Ar gyfer Coleg, gall peth o’r data hyn gael eu huwchlwytho gan Brifysgol, yn dibynnu ar drefniadau breinio.

Mae HESA wedi cyhoeddi’r amserlen ar gyfer cofnod Darganfod Prifysgol 2026/27. Os oes problemau wrth fodloni unrhyw derfynau amser, cysylltwch â [email protected].

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio