Cynllun Strategol 2025-2030

Mae’r Cynllun yn disgrifio ein hymateb arfaethedig i’r datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn ystyried y gofynion deddfwriaethol a osodwyd arnom yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae’n amlinellu nodau ac ymrwymiadau strategol arfaethedig, ac yn disgrifio’r ffordd y mae arnom eisiau gweithio i’w cyflawni.

Cynllun Strategol drafft 2025-2030

Mae’r Cynllun drafft yn nodi ein hymateb arfaethedig i’r datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 28 Chwefror 2024. Mae hefyd yn ystyried y gofynion deddfwriaethol a osodir arnom yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn ogystal â deddfwriaeth arall sy’n gosod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’r Cynllun hefyd wedi’i osod yng nghyd-destun yr angen i ni daro cydbwysedd rhwng sefydlu corff newydd ac ateb gofynion deddfwriaethol newydd yn y byrdymor ar y naill law, a phennu ein huchelgais a’n dyheadau ar gyfer y tymor hwy ar y llaw arall.

Unwaith y bydd wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, bydd y Cynllun yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd ochr yn ochr â’n hymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Rydym yn ceisio adborth yn awr i gael gwybod a yw ein nodau ac ymrwymiadau strategol arfaethedig yn adlewyrchu’r hyn a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y sector addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru yn eich tyb chi. Mae arnom eisiau eich barn chi am yr effaith y byddant yn ei chael ar ein heconomi, diwylliant, amgylchedd a chymdeithas.

Rydym yn ceisio barn ynglŷn â’r Cynllun hwn gan bawb sydd â buddiant yn ein cynigion. Rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i geisio barn ystod eang o randdeiliaid, partneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a sefydliadau cymunedol fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Rydym hefyd yn ceisio barn dysgwyr gan bod arnom eisiau iddynt hwy fod yn ganolog i’n prosesau penderfynu. Bydd y farn hon a’r safbwyntiau hyn yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r fersiwn derfynol o’r Cynllun y byddwn yn ei chyflwyno i Weinidogion Cymru erbyn 15 Rhagfyr 2024.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio