Monitro a chydymffurfio

Mae angen inni fod yn hyderus bod y darparwyr a gyllidir gennym yn cael eu cynnal mor effeithlon ac effeithiol ag sy’n bosibl i ddiogelu cyllid cyhoeddus, a chael sicrwydd eu bod yn y sefyllfa orau i sicrhau eu cynaliadwyedd yn y tymor hir.

Mae cyfrifoldebau’r Corff Llywodraethu wedi’u nodi yn y Cod Rheoli Ariannol a’r Telerau ac Amodau Cyllido blynyddol (cylchlythyr CCAUC W17/16HE).

Mae sefydliadau addysg bellach sydd â Chynllun Mynediad a Ffioedd cymeradwy ar gyfer eu darpariaeth addysg uwch hefyd yn cael eu cynnwys yn y Cod Rheoli Ariannol.

Mae cyfrifoldebau’r Corff Llywodraethu wedi’u nodi yn y Memorandwm Ariannol ac yn y Telerau ac Amodau Cyllido.

Cod Llywodraethu Da Colegau Cymru ar gyfer Colegau yng Nghymru.

Yn 2019, darparodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gyllid i Brifysgolion Cymru gomisiynu adroddiad ar drefniadau llywodraethu sefydliadau addysg uwch.

Roedd yr adroddiad o gymorth i lywodraethwyr weithredu ar flaen y gad o ran llywodraethu corfforaethol, o ran cydymffurfiaeth a diwylliant yr ystafell fwrdd.

I gyd-fynd â’r adroddiad cafwyd Siarter, sy’n nodi’r camau ar gyfer newid i wella’r trefniadau llywodraethu presennol ymhellach.

Datblygodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru becyn gwybodaeth i lywodraethwyr darparwyr addysg uwch.

Mae tîm sicrwydd sefydliadol Medr yn awyddus i dderbyn awgrymiadau gan gyrff llywodraethu ynghylch yr hyn i’w gynnwys yn y pecyn wrth inni fwrw ymlaen i’w ddatblygu.

Os hoffech gael gwybodaeth fwy penodol am eich sefydliad, cysylltwch â’ch tîm cynllunio eich hun.

Pecyn Gwybodaeth i Lywodraethwyr

Mae’r dogfennau hyn, a etifeddwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yn parhau i fod yn berthnasol hyd nes y gall Medr ddatblygu ei brosesau a’i ganllawiau ei hun.

Adolygiadau risg sefydliadol mewn sefydliadau a reoleiddir

Mae system asesu risg Medr yn cynnwys pob sefydliad addysg uwch, a cholegau addysg bellach gyda Chynllun Ffioedd a Mynediad cymeradwy. Mae hon yn broses chwe-misol sy’n defnyddio’r wybodaeth a gesglir yn arferol, ac yn ein galluogi i fonitro agweddau o fewn darparwyr addysg uwch, gan gynnwys:

  • cyfeiriad strategol
  • cyllid
  • llywodraethu a rheoli
  • myfyrwyr ac ansawdd
  • ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth, ac
  • ystadau

Derbyniodd Medr gyfrifoldebau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar 1 Awst 2024. Yn unol â hynny, mae canllawiau diweddaraf CCAUC yn berthnasol ar hyn o bryd.

Cyllid sefydliadau addysg uwch

Mae’n rhaid i bob prifysgol gael systemau cadarn i reoli ei chyllid, a rhaid iddi anfon ei chyfrifon archwiliedig atom yn flynyddol. Dylid llunio’r cyfrifon yn unol â’r Datganiad o Ymarfer a Argymhellir: Cyfrifyddu ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch (SORP).

Yn ogystal â hynny, yn unol â’r Cod Rheoli Ariannol (cylchlythyr CCAUC W17/16HE), rydym yn cyhoeddi Cyfarwyddyd Cyfrifon Blynyddol (cylchlythyr CCAUC W24/08HE) yn manylu ar unrhyw wybodaeth ychwanegol rydym am i brifysgolion ei datgelu yn eu cyfrifon.

Rydym yn monitro iechyd ariannol prifysgolion er mwyn sicrhau nad yw cyllid cyhoeddus nac asedau a gyllidir yn gyhoeddus yn cael eu rhoi yn y fantol. Rydym yn gwneud hyn yn rhannol drwy adolygu’r cyfrifon blynyddol, ond rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i brifysgolion gyflwyno rhagolygon ariannol pum mlynedd inni. Mae’r gofynion manwl wedi’u nodi yn ein cais blynyddol am ragolygon (cylchlythyr CCAUC W24/09HE).

Yr Ymagwedd Dryloyw at Gostio (TRAC)   yw’r dull safonol o bennu costau prif weithgareddau sefydliadau addysg uwch. Mae’n cyflawni nifer o ddibenion, gan gynnwys cefnogi atebolrwydd sefydliadau am y cyllid cyhoeddus y maent yn ei dderbyn.

Telerau ac Amodau ar gyfer cyllido addysg uwch

Mae’r ddogfen Telerau ac Amodau Cyllido yn nodi’r telerau ac amodau y mae’n rhaid i sefydliadau addysg uwch, a sefydliadau addysg bellach sy’n derbyn cyllid addysg uwch, gadw atynt er mwyn derbyn grant oddi wrth Medr.

Mae’r Telerau ac Amodau Cyllido yn gweithredu ochr yn ochr â’r Cod Rheoli Ariannol, ac mae’n rhaid i sefydliadau addysg uwch, a sefydliadau addysg bellach sy’n derbyn cyllid addysg uwch, hefyd gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn y Cod Rheoli Ariannol.

Cod Ariannol ar gyfer sefydliadau a reoleiddir

Mae’r Cod Rheoli Ariannol yn trafod y trefniadau a’r rheolaeth ar faterion ariannol sefydliadau addysg uwch a reoleiddir, a cholegau addysg bellach gyda Chynllun Ffioedd a Mynediad cymeradwy.

Rydym yn monitro cydymffurfiaeth â’r Cod ac yn ymyrryd os bydd sefydliad a reoleiddir yn methu â chydymffurfio â’r Cod.

Drwy hyn, gellir sicrhau bod sefydliadau’n cael eu cynnal yn dda, bod ganddynt drefniadau rheoli ariannol effeithiol a’u bod yn gynaliadwy i’r dyfodol.

Mae hyn yn diogelu arian cyhoeddus ac yn gwarchod buddiannau myfyrwyr ac enw da addysg uwch .

Datganiad Ymyrraeth

Mae’r Datganiad Ymyrraeth yn disgrifio’r amrywiaeth o ffyrdd y gallem ymateb er mwyn helpu sefydliadau addysg uwch, a cholegau addysg bellach gyda Chynllun Ffioedd a Mynediad cymeradwy, i ddatrys anawsterau a rheoli risgiau.

Mae’n bosibl y byddwn yn ymyrryd os oes angen diogelu buddiannau myfyrwyr, enw da’r sector addysg uwch neu’r sector addysg ehangach; neu i ddiogelu gwariant cyhoeddus.

Bydd yn ofynnol inni ymyrryd pan fo sefydliad wedi methu mynd i’r afael â phroblemau difrifol, er iddo gael amser a chefnogaeth resymol, neu lle bo problem o natur digon difrifol fel bod angen gweithredu ar fwy o frys.

Gan mai Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) oedd yn gweinyddu hyn hyd 31 Awst 2024, mae canllawiau diweddaraf CCAUC yn dal i fod yn berthnasol.

Polisi ymyrraeth addysg bellach

Gall Medr ymyrryd yn y ffordd y mae sefydliad addysg bellach yn cael ei redeg os ydym yn fodlon bod unrhyw un o’r amodau canlynol wedi’u bodloni.

  • bod corff llywodraethu’r sefydliad yn camreoli materion y sefydliad, neu wedi gwneud hynny
  • bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi methu cyflawni dyletswyddau penodol
  • bod corff llywodraethu’r sefydliad wedi ymddwyn yn afresymol, neu’n cynnig ymddwyn yn afresymol, wrth arfer pwerau penodol.
  • bod y sefydliad yn perfformio’n llawer gwaelach na’r disgwyl, neu’n methu darparu safon dderbyniol o addysg neu hyfforddiant, neu’n debygol o fethu gwneud hynny.

Canllawiau’r ddyletswydd Prevent i ddarparwyr addysg drydyddol

Mae’n rhaid i gyrff addysg uwch perthnasol a sefydliadau addysg bellach a gyllidir gan Medr roi sylw priodol i’r angen i atal pobl rhag cael eu denu at derfysgaeth. Gelwir hyn yn Ddyletswydd Prevent.

Mae Medr yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth darparwyr addysg uwch perthnasol yng Nghymru â’r ddyletswydd Prevent, tra bo Estyn yn monitro cydymffurfiaeth mewn sefydliadau addysg bellach, ysgolion a darparwyr prentisiaeth.

Canllawiau ar y ddyletswydd Prevent i ddarparwyr addysg bellach

Canllawiau atodol Estyn ar arolygu trefniadau diogelu

Cwynion am sefydliadau  a reoleiddir

Gall Medr ymwneud â’r problemau canlynol yn gysylltiedig â sefydliadau a reoleiddir:

  • Codi ffioedd gormodol gan is-raddedigion llawnamser
  • Methu, neu debygolrwydd o fethu, cydymffurfio â gofynion cyffredinol y Cynllun Ffioedd a Mynediad (cylchlythyr CCAUC W22/19HE)
  • Addysg os afon annigonol, neu lle mae’r safon yn debygol o ddod yn annigonol, a
  • Methiant i gydymffurfio â’r Cod Rheoli Ariannol

Efallai y byddwn hefyd yn ymwneud â’r sefyllfaoedd canlynol:

  • Lle ceir problemau’n gysylltiedig â methiant gan sefydliad a gyllidir i gydymffurfio â’r Memorandwm Sicrwydd ac Atebolrwydd (cylchlythyr CCAUC W15/32HE) neu
  • Lle bo corff addysg uwch perthnasol (neu brifysgol neu ddarparydd AU arall penodol yng Nghymru) wedi methu cydymffurfio â’i ddyletswydd Atal.

Ni allwn adolygu unrhyw feysydd sydd y tu allan i’n cylch gwaith fel anghydfod rhwng myfyrwyr neu staff a’u sefydliadau addysg uwch.

Bydd gan bob sefydliad ei weithdrefnau cwyno ac apelio ei hun, gan gynnwys gweithdrefnau ar faterion fel perfformiad academaidd a chwynion staff.

Cwynion am ddarparwyr trydyddol eraill

Mae hi’n ddyletswydd ar Medr i sicrhau bod gan ddarparwyr addysg drydyddol weithdrefnau cwyno ar waith, a’u bod yn rhoi gwybod i ddysgwyr amdanynt.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio