Ar gyfer darparwyr dysgu

Yn ogystal â chyllido a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil, rydym yn datblygu polisïau mewn ystod o feysydd ac yn annog darparwyr i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn. 


Byddwn yn ehangu ein gwefan dros y misoedd nesaf i dynnu sylw at ragor o’n meysydd gwaith.


Yn y cyfamser, nes i Medr ddatblygu ei ddogfennau ei hun, mae llawer o’n dogfennau cyfeiriol ac arweiniol yn rhai a etifeddwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) neu Lywodraeth Cymru.

Mae Medr yn gweithio i hybu a gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Gall ‘cenhadaeth ddinesig’ y darparwyr drafod sut maent yn rhyngweithio â’u cymunedau ac yn gweithredu er budd ehangach y cyhoedd.

Rydym am i’r sector addysg drydyddol allu helpu dysgwyr i gyflawni eu huchelgeisiau addysg a hyfforddiant, waeth beth fo lefel eu cymhwyster, mewn lleoliad sy’n gweddu iddynt, pryd bynnag y byddant yn penderfynu cychwyn ar eu taith.

Rydym yn cefnogi darparwyr addysg drydyddol i arfogi eu holl ddysgwyr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r rhinweddau angenrheidiol i gyflawni eu huchelgeisiau, mewn cyflogaeth a thrwy gydol eu hoes

Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr a sefydliadau cyflogwyr i ddeall eu hanghenion o ran sgiliau yn y presennol a’r dyfodol, i sicrhau bod y system addysg drydyddol yn darparu unigolion medrus a gwybodus, sy’n gallu bodloni anghenion esblygol busnesau.

Mae Medr yn gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys addysg bellach ac addysg uwch, prentisiaethau, dysgu oedolion yn y gymuned a’r chweched dosbarth mewn ysgolion. Mae’r sector addysg drydyddol yn greiddiol i uchelgeisiau cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru. Mae rhai rhaglenni hyfforddiant cyflogadwyedd yn parhau i gael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, fel Twf Swyddi Cymru Plws

Gweithio yn y sector ôl-16

Rydym yn annog dysgu proffesiynol i roi cefnogaeth well i’r gweithlu addysg drydyddol allu wynebu’r heriau o flaen y sector, gan gynnwys drwy gefnogi dysgu proffesiynol a chynnal safonau proffesiynol.

Dysgu digidol

Mae dysgu digidol yn helpu i wella profiadau dysgwyr a rhoi hyder iddynt ddefnyddio technoleg yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

Digidol 2030 yw ein fframwaith strategol ar gyfer cefnogi dysgu digidol mewn addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yn y gymuned.

Digodol 2030

Gweithio mewn partneriaeth â’r undebau
llafur

Mae hi’n ddyletswydd ar Medr i hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol rhwng darparwyr addysg drydyddol a’u hundebau llafur cydnabyddedig, gan gefnogi prosesu penderfynu gwell yn rhan o ymrwymiad partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mae ehangu mynediad, cynhwysiant, cadw, dilyniant a llwyddiant mewn addysg drydyddol yn flaenoriaeth i Medr.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, darparwyr dysgu a phartneriaid eraill i gefnogi a hyrwyddo cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir sydd â’r potensial i elwa ar addysg drydyddol a hyfforddiant.

Nod y Rhaglen Ymgyrraedd yn Ehangach yw cynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch ymhlith grwpiau â blaenoriaeth yng Nghymru, drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio a llwybrau dysgu arloesol i addysg uwch.  

Derbyniadau teg mewn addysg uwch: derbyniadau cyd-destunol

Addysg uwch yn cefnogi profiadau dysgu mewn ysgolion a cholegau [

Cydraddoldeb ac amrywiaeth: adrodd ar wahaniaethau cyflog

Rydym yn cyllido, yn cefnogi ac yn herio sefydliadau addysg bellach ac uwch i gefnogi iechyd a llesiant eu staff a’u dysgwyr, gan gynnwys iechyd meddwl.

Iechyd a llesiant: cyllid strategaeth iechyd a llesiant 2022/23 a gofynion monitro ar gyfer 2021/22 a 2022/23

Cyhoeddodd CCAUC ganllawiau ar fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) mewn addysg uwch ym mis Tachwedd 2020 a 2023.  

Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi addysg cydraddoldeb ac amrywiaeth

Er nad ni yw’r corff rheoleiddio ar gyfer cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn addysg drydyddol, ein rôl yw cefnogi, hyrwyddo a herio darparwyr i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth staff a dysgwyr.

Mae’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cynnwys ystod eang o nodau a chamau i ddatblygu diwylliannau ac arferion gwrth-hiliol ym mhob maes addysg

Comisiynwyd AU Ymlaen i ddarparu rhaglen hyfforddi ac ymgynghori ar gyfer sector addysg uwch Cymru i gefnogi dealltwriaeth sefydliadau o’u hymagwedd gyfredol at gydraddoldeb hiliol, a datblygu cynlluniau clir ar gyfer cynnydd ac i gefnogi sefydliadau wrth ymateb i ymchwiliad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i aflonyddwch hiliol mewn addysg uwch yn y DU.

Mewn addysg bellach, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Black Leadership Group, i gefnogi gwrth-hiliaeth ym mhob sefydliad.

Cefnogi gwrth-hiliaeth mewn addysg uwch: canllawiau a dyraniadau 2023/2

Cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid mewn addysg uwch yng Nghymru: archwiliadau ac astudiaethau achos ymarfer

Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi staff a myfyrwyr LHDTC+

Cydraddoldeb ac amrywiaeth: adrodd ar wahaniaethau cyflog

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio