Rheoleiddio 

Rydym yn rheoleiddio lefelau ffioedd sefydliadau addysg uwch, yn sicrhau bod fframwaith yn ei le ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch, ac yn craffu ar berfformiad darparwyr addysg drydyddol.  

Rydym yn datblygu system reoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol a disgwylir y bydd wedi’i sefydlu’n llawn erbyn mis Awst 2027. 

Mae’r rhain yn ymwneud â’r canlynol:

  • monitro cydymffurfiaeth sefydliadau a reoleiddir â chynlluniau ffioedd a mynediad
  • asesu ansawdd addysg
  • monitro cydymffurfiaeth sefydliadau â’r Cod Rheoli Ariannol
  • darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru.

Mae Medr hefyd yn cymryd drosodd cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â monitro cydymffurfiaeth darparwyr trydyddol eraill â Thelerau ac Amodau Cyllid.

Mae’n rhaid i sefydliad sydd yn dymuno i’w gyrsiau israddedig amser llawn gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gyflwyno cynllun ffioedd a mynediad inni. Bydd y broses hon ar waith hyd nes sefydlu’r system reoleiddio newydd.

Os caiff y cynllun ei dderbyn, gall y sefydliad godi tâl am y cwrs hyd at yr uchafswm ffi o £9,250, a gall myfyrwyr sy’n astudio’r cyrsiau hynny yn y sefydliad dan sylw wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu hyd at y swm hwnnw.

Mae’n rhaid i sefydliadau cymwys:

  • fod wedi’u lleoli yng Nghymru
  • darparu addysg uwch
  • bod yn elusen

Wrth ymgeisio  mae’n rhaid i sefydliad ddarparu gwybodaeth am ei hyfywedd ariannol, y trefniadau ar gyfer trefnu a rheoli ei faterion ariannol, ac ansawdd yr addysg a ddarperir ganddo neu a ddarperir ar ei ran.

Rhaid i gynllun ffioedd a mynediad nodi amcanion y sefydliad fel y maent yn berthnasol i gyfle cyfartal a hyrwyddo addysg uwch. Rydym yn disgwyl i sefydliadau gysylltu â ni cyn ymgeisio am y tro cyntaf.

Mae’r wybodaeth lawn am sut i wneud cais am gynllun ffioedd a mynediad ar gael yng nghanllawiau cynllun ffioedd a mynediad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy’n parhau i fod yn berthnasol nes y bydd Medr yn cyhoeddi ei fersiwn ei hun.

Seiliwyd y canllawiau hyn ar ganllawiau a gafodd CCAUC oddi wrth Lywodraeth Cymru. Am ragor o wyodaeth, cysylltwch â [email protected].

Mae rhagor o wybodaeth am ofynion ansawdd ar gyfer cynlluniau ffioedd a mynediad ar gael ar y dudalen ansawdd.

Dynodi cyrsiau yn awtomatig

Dim ond os yw’r sefydliad neu ddarparwr arall yn bodloni’r gofynion a nodir yn y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr y caiff cwrs ei ddynodi’n awtomatig (ac y bydd yn derbyn cymorth statudol i fyfyrwyr). Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth ar ei gwefan i esbonio’r amodau y mae’n rhaid i gwrs addysg uwch eu bodloni i ddenu cymorth i fyfyrwyr. Dim ond y sefydliadau hynny yng Nghymru â chynllun ffioedd a mynediad cymeradwy y mae eu cyrsiau addysg uwch amser llawn wedi’u dynodi’n awtomatig i dderbyn cymorth i fyfyrwyr.

Medr yw goruchwylydd statudol swyddogaeth y Cynllun Ffioedd a Mynediad. Am ragor o wybodaeth am gynlluniau ffioedd a mynediad, cysylltwch â cyngorrheoleiddio@medr.cymru.

Gan mai Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) oedd yn gweinyddu hyn hyd 31 Gorffennaf 2024, mae canllawiau diweddaraf CCAUC yn dal i fod yn berthnasol.

Dynodiad cwrs penodol

Rhaid i ddarparwyr yn y DU nad yw eu cyrsiau wedi’u dynodi’n awtomatig i dderbyn cymorth i fyfyrwyr Cymru drefnu i’w cyrsiau gael eu dynodi’n benodol i dderbyn cymorth i fyfyrwyr.

Mae Medr yn gweinyddu’r broses ar gyfer asesu ceisiadau am gyrsiau penodol, gan roi sicrwydd i Weinidogion Cymru, sy’n penderfynu a ellir dynodi cwrs neu gyrsiau.

Mae Polisi Llywodraeth Cymru a rhestr o’r cyrsiau hynny sydd wedi’u dynodi’n benodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ar hyn o bryd wedi’u cynnwys ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi trefnu o’r blaen i gael eu cyrsiau wedi’u dynodi’n benodol ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gysylltu â cyngorrheoleiddio@medr.cymru cyn cyflwyno cais.

Darparwyr â chynlluniau ffioedd a mynediad

Dyma’r darparwyr â chynlluniau ffioedd a mynediad cyfredol, sydd ar gael ar eu gwefan:

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Coleg Cambria

Grŵp Llandrillo Menai

Grŵp CNPT

Prifysgol Abertawe

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Prifysgol Wrecsam

Datganiad Ymyrraeth

Mae’r Datganiad Ymyrraeth yn disgrifio’r amrywiaeth o ffyrdd y gallem ymateb er mwyn helpu sefydliadau i ddatrys anawsterau a rheoli risgiau.

Mae’n bosibl y byddwn yn ymyrryd os oes angen diogelu buddiannau myfyrwyr, enw da’r sector addysg drydyddol ac ymchwil, neu’r sector addysg ehangach; neu i ddiogelu gwariant cyhoeddus.

Bydd yn ofynnol inni ymyrryd pan fo sefydliad wedi methu mynd i’r afael â phroblemau difrifol, er iddo gael amser a chefnogaeth resymol, neu lle bo problem o natur digon difrifol fel bod angen gweithredu ar fwy o frys.

Gan mai Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) oedd yn gweinyddu hyn hyd 31 Gorffennaf 2024, bydd canllawiau diweddaraf CCAUC yn dal i fod yn berthnasol

Canllawiau ar drefniadau partneriaeth ar gyfer darparwyr addysg uwch

Rydym yn rhoi canllawiau ar drefniadau partneriaeth freinio yng Nghymru, gan roi ystyriaeth i Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Medr bellach yw’r awdurdod rheoleiddio ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru. Mae’n cymryd drosodd dyletswyddau Cyngor Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) mewn perthynas ag addysg uwch, a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rhai agweddau ar addysg bellach.

Sefydlwyd Medr o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 o dan yr enw Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac mae’n anelu i gynnal safonau uchel a sicrhau mynediad teg at addysg ac ymchwil o ansawdd.  

Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn ymgynghori ar ddatblygu system reoleiddio newydd ar gyfer yr holl addysg drydyddol, yn unol â gofynion Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Mae ein fframwaith rheoleiddio, a ddatblygwyd yn unol â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, yn cyflwyno dull symlach ac effeithiol o reoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil. Mae’r system hon yn adeiladu ar y sylfaen a ddarparwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac yn cyflwyno arferion modern i wella ansawdd, tryloywder a chynhwysiant.

Y Prif Nodweddion

Rheoleiddio ar sail risg

  • Goruchwyliaeth wedi’i thargedu: Yn canolbwyntio ar sefydliadau yn ôl eu proffiliau risg wrth gyflawni gwaith rheoleiddio, gan sicrhau defnydd effeithlon ac effeithiol o adnoddau.
  • Lleihau’r baich: Yn lleihau beichiau cydymffurfio diangen ar sefydliadau sy’n perfformio’n dda.

Sicrhau ansawdd

  • Cynnal safonau: Yn parhau â’r ymrwymiad i gynnal safonau uchel mewn addysg ac ymchwil, gan hyrwyddo gwella ac addasu parhaus.
  • Asesiadau trwyadl: Bydd adolygiadau rheolaidd yn sicrhau bod sefydliadau’n bodloni’r meini prawf ansawdd a osodir gan Medr.

Goruchwyliaeth ariannol

  • Sicrhau sefydlogrwydd: Yn monitro iechyd ariannol i sicrhau bod sefydliadau’n parhau i fod yn hyfyw, ac i allu darparu addysg o ansawdd.
  • Arweiniad a chefnogaeth: Yn cynnig canllawiau arfer gorau ar gyfer rheoli a chynllunio ariannol.

Cyfle cyfartal

  • Ehangu mynediad: Yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r sefydliad fuddsoddi i wneud addysg yn hygyrch i bawb, yn enwedig y grwpiau hynny sydd wedi’u tangynrychioli mewn addysg drydyddol, gan gydweddu â pholisïau Llywodraeth Cymru.
  • Cael gwared ar rwystrau: Monitro a gwerthuso arfer effeithiol yn barhaus i leihau rhwystrau a sicrhau canlyniadau addysgol da i ddysgwyr.

Tryloywder

  • Adroddiadau clir: Yn ei gwneud hi’n ofynnol i sefydliadau barhau i fod yn dryloyw ac yn atebol
    wrth weithredu, gan feithrin ymddiriedaeth a hyder ymhlith rhanddeiliaid.

Bydd y Gofrestr yn elfen hollbwysig o system reoleiddio Medr, ac yn rhestru’r holl sefydliadau addysg drydyddol cymeradwy yng Nghymru sy’n darparu addysg uwch. Bydd y gofrestr hon yn sicrhau goruchwyliaeth dros Sefydliadau Cymru sy’n elwa ar gyllid cyhoeddus, gan greu adnodd dibynadwy i fyfyrwyr, cyflogwyr a’r cyhoedd.

Dim ond sefydliadau cofrestredig fydd yn gymwys i dderbyn cyllid cyhoeddus, a dim ond yn y sefydliadau hynny y bydd myfyrwyr yn gallu cael cymorth ariannol. Bydd hynny’n fodd i sicrhau bod adnoddau’n cefnogi sefydliadau hygred sy’n cydymffurfio â’r gofynion. Bydd angen iddynt hefyd fodloni safonau ansawdd trwyadl, gan sicrhau eu bod yn darparu addysg ddibynadwy o ansawdd uchel.

Rydym yn bwriadu ymgynghori ar ddatblygu’r amodau cofrestru, yn ogystal â’r broses ar gyfer cofrestru, trwy gydol 2025, gyda golwg ar roi’r trefniadau newydd ar waith ar 1 Awst 2026, gyda cheisiadau’n agor yng ngwanwyn 2026. Cyn gynted ag y bo’n weithredol, bydd y gofrestr ar gael i’r cyhoedd drwy ein gwefan.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio