Uwch Reolwr (amryw o rolau)
Mae nifer o swyddi Uwch Reolwr ar gael yn y Tîm Prentisiaethau a’r Gyfarwyddiaeth Datblygu, Buddsoddi a Pherfformiad.
Prentisiaethau
Mae prentisiaethau’n elfen hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn offeryn hollbwysig i greu Cymru gryfach, decach a mwy cyfartal. Fel uwch reolwr yn Medr, bydd gennych rôl allweddol o ran dylunio, datblygu a chyflawni’r rhaglen brentisiaethau i ddiwallu anghenion cyflogwyr a chynnig llwybrau dysgwyr cydgysylltiedig ar bob lefel sgiliau.
Datblygu, Buddsoddi a Monitro
Mae’r tîm Datblygu, Buddsoddi a Monitro’n gyfrifol am fuddsoddi a monitro cyllideb o fwy na £750 miliwn. Dyrennir yr arian ar gyfer addysg mewn colegau addysg bellach, darparwyr chweched Dosbarth mewn ysgolion, a Dysgu Cymunedol a Phrentisiaethau Awdurdodau Lleol; yn ogystal â chyllido a monitro prentisiaethau gradd a ffrydiau cyllido eraill mewn addysg uwch ar gyfer addysgu, ymchwil ac arloesi.
Cyflog: £47,519 – £55,019
Sesiwn wybodaeth i ymgeiswyr: 14.00, dydd Mawrth, 7 Ionawr (ar-lein)
Dyddiad cau: dydd Iau, 16 Ionawr 2025
Mwy ar wefan Swyddi Gwasanaeth Sifil