Y Gymraeg
Un o brif flaenoriaethau Medr yw hyrwyddo addysg drydyddol cyfrwng Cymraeg.
Rydym yn bartner â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda darparwyr i hyrwyddo, datblygu a chynnal cyfleoedd cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg drydyddol. Mae hyn yn cynnwys cynyddu gallu darparwyr i gyflwyno darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a darparu ystod o ysgoloriaethau i annog dysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Coleg wedi’i ddynodi gan Weinidogion Cymru i roi cyngor i Medr i’n helpu i gyflawni ein dyletswydd i hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym wedi cyd-lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth, gan ffurfioli’r berthynas hon a nodi sut y byddwn yn cydweithio i gyflawni ein nodau cyffredin.
Yn ogystal â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd Medr yn gweithio gyda phartneriaid eraill, gan gynnwys y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a darparwyr addysg drydyddol, i sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gael ac i gynyddu nifer y dysgwyr addysg drydyddol sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio