Ymchwil ac arloesi

Ein nod yw hyrwyddo sylfaen ymchwil ddeinamig a chynaliadwy o fewn sefydliadau addysg uwch, sy’n cymharu’n dda â gweddill y DU o ran safon, ac sy’n gallu cyfrannu at lesiant economaidd a chymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.

Cyllid i ddarparwyr

Rydym yn gweithio i hyrwyddo a datblygu sylfaen ymchwil ragorol, ffyniannus ledled Cymru drwy gefnogi a hyrwyddo diwylliannau ymchwil ac arloesi lle mae parch, uniondeb a chynhwysiant yn ffynnu.

Rydym yn parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r modd y gallwn weithio gyda darparwyr i sicrhau diwylliannau ymchwil a all ddarparu amgylchedd anogol ac arloesol ar gyfer pobl ac ymchwil o safon fyd-eang.

Er mwyn cefnogi ymdrech y DU gyfan i hyrwyddo arfer ymchwil da, rydym wedi llofnodi nifer o gytundebau – a elwir yn Goncordatau – ac rydym yn aelod o grwpiau’r DU sy’n gweithio gyda chyrff eraill i sicrhau bod y nodau hyn yn cael eu cyflawni.

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r offeryn a ddefnyddir i asesu ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch ledled y DU.

Fe’i cynhelir ar y cyd gan bob un o’r pedwar corff cyllido addysg uwch yn y DU – Medr, Ymchwil Lloegr, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon – ac fe’i rheolir ar ein rhan gan Dîm y Fframwaith, sydd wedi’i leoli yn Ymchwil Lloegr.

Mae’r pedwar corff cyllido yn ffurfio grŵp llywio’r REF, sy’n goruchwylio’r broses o ddatblygu’r ymarfer asesu nesaf ar gyfer y DU gyfan.

Mae’r REF yn broses lle cynhelir adolygiad gan arbenigwyr. Bydd paneli o arbenigwyr mewn meysydd pwnc academaidd unigol yn asesu cyflwyniadau ymchwil sefydliadau o dan dri phrif bennawd:

  • Cyfraniadau at wybodaeth – safon cyhoeddiadau ymchwil a mathau eraill o allbynnau ymchwil, gan gynnwys perfformiadau ac arddangosfeydd.
  • Effaith ac Ymgysylltu – y buddion a ddarperir i’r economi, cymdeithas, diwylliant, polisi cyhoeddus neu wasanaethau, iechyd, yr amgylchedd neu ansawdd bywyd y tu hwnt i’r byd academaidd.
  • Pobl, diwylliant a’r amgylchedd – bywiogrwydd a chynaliadwyedd yr amgylchedd ymchwil, gan gynnwys y cyfraniad at y ddisgyblaeth ehangach neu’r sylfaen ymchwil sy’n cefnogi ymchwil.

Ceir adroddiad nesaf yr REF yn 2029.

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

Mae 83% o ymchwil mewn prifysgolion yng Nghymru o safon sydd yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, yn ôl asesiad 2021 o safon ymchwil.

Casglodd REF 2021 hefyd fod effaith 89% o ymchwil yng Nghymru y tu hwnt i’r byd academaidd yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.

Hybu datblygiad gyrfaoedd ymchwilwyr

Cytundeb rhwng sefydliadau yw’r Concordat i Hybu Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr sy’n amlinellu cyfrifoldebau a disgwyliadau gan ymchwilwyr, eu rheolwyr, eu cyflogwyr a’u noddwyr.

Cefnogi uniondeb ymchwil

Mae’r Concordat i Gefnogi Uniondeb Ymchwil yn fframwaith ar gyfer cynnal ymchwil a threfniadau llywodraethu ymchwil da. Fe’i lluniwyd yn seiliedig ar bedwar ymrwymiad clir i ymchwilwyr, cyflogwyr ymchwilwyr a noddwyr gwaith ymchwil gytuno arnynt.

Hyrwyddo mynediad agored ac ymchwil

Mae’r Concordat ar Ddata Ymchwil Agored yn gyfres o ddisgwyliadau ynghylch arfer gorau er mwyn helpu i sicrhau y darperir data ymchwil yn agored i’w defnyddio gan eraill lle bynnag y bo modd.

Mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu

Grŵp Rhyngwladol yw’r Fforwm ar gyfer Mynd i’r Afael â Bwlio ac Aflonyddu mewn Ymchwil ac Arloesi lle mae cyllidwyr ymchwil, cyrff cyllido addysg uwch, llunwyr polisi, sefydliadau rheoleiddio a chymdeithasau dysgedig yn dod ynghyd i weithio tuag at fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu ar draws y sector ymchwil ac arloesi, a’i atal.

Cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil

Cyfres o egwyddorion yw’r Concordat ar Ennyn Diddordeb y Cyhoedd mewn Ymchwil wedi’u llunio gan sefydliadau sy’n cyllido ymchwil yn y DU i annog ymgysylltu â’r cyhoedd i roi hwb i effaith gymdeithasol ac economaidd ymchwil.

Hyrwyddo arfer da wrth gyfnewid gwybodaeth

Cyfres o egwyddorion yw’r Concordat Cyfnewid Gwybodaeth i annog arfer gorau wrth arloesi a chynorthwyo sefydliadau i ddatblygu ymagweddau newydd a chymeradwy.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio