Ein blaenoriaethau

Fel corff hyd braich i Lywodraeth Cymru, mae gennym un ddyletswydd strategol ar ddeg sydd wedi’u nodi yn Neddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), 2022.

Yn ychwanegol at y rhain, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Datganiad o Flaenoriaethau Strategol rheolaidd ar gyfer Addysg Drydyddol, Ymchwil ac Arloesi.

Mae’r rhain yn llywio ein cynllun strategol ar gyfer y sector trydyddol yng Nghymru.

Ar 28 Chwefror 2024, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Medr. Mae’r rhain wedi’u rhannu i bum maes:

  • Datblygu system drydyddol sy’n paratoi dysgwyr am economi ddynamig a newidiol, lle gall pawb ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd ac mewn gwaith.
  • Cynnal a gwella ansawdd y system drydyddol; gan barhau â’r gwaith i ehangu cyfranogiad, a’i ddwysáu; a chymryd camau i sicrhau system decach ac ardderchog i bawb.
  • Rhoi’r dysgwr wrth galon y system drwy ganolbwyntio ar brofiad dysgwyr yn y system drydyddol a’u llesiant.
  • Sicrhau bod y system addysg drydyddol yn cyfrannu at yr economi a chymdeithas.
  • Sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr bellach) fel sefydliad hynod effeithiol gan roi sefydlogrwydd ac arweinyddiaeth yn ystod y cyfnod pontio.

Mae’r Cynllun Strategol 2025-2030 yn nodi ein hymateb i’r dyletswyddau deddfwriaethol a’r datganiad o flaenoriaethau strategol.

Cafodd y Cynllun ei lywio drwy ein hymgysylltiad â dysgwyr, rhanddeiliaid a darparwyr. Cafodd ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru ym mis Chwefror 2025.

Mae ein Cynllun Gweithredol yn nodi’r gweithgarwch yr ydym yn mynd i’w flaenoriaethu yn y flwyddyn ariannol hon i wneud cynnydd tuag at yr ymrwymiadau sefydlu a’r ymrwymiadau twf yn ein Cynllun Strategol.

Datganiad llawn Llywodraeth Cymru o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio