Pwy ydym ni

Medr, Comisiwn Cymru dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yw’r corff hyd braich sy’n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil o 1 Awst 2024.

Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, y chweched dosbarth mewn ysgolion, dysgu oedolion yn y gymuned, ac ymchwil ac arloesi a gyllidir gan y llywodraeth.

Ein gweledigaeth

Rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid i alluogi system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi, gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb, ac ymgysylltiad yn greiddiol iddi.

Ein gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn helpu i siapio diwylliant ein sefydliad:

Dysgu – mae dysgu’n greiddiol i bopeth a wnawn. Credwn fod chwilfrydedd yn hybu arloesi ac yn helpu i ehangu ein gorwelion.

Cydweithio – gallwn gyflawni llawer mwy gyda’n gilydd nag y gallem fyth ei wneud ar ein pen ein hunain.

Cynnwys Pawb – rydym yn frwd dros gynhwysiant, gan geisio creu’r amodau cywir i bawb wireddu eu llawn botensial.

Rhagori – mae gennym ddyheadau uchel ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru ac rydym felly’n gosod safonau uchel i ni ein hunain er mwyn inni fod ar ein gorau.

Gweithio gyda ni

Sefydliad Cymru gyfan yw Medr, gyda phencadlys yng Nghaerdydd a hwbiau rhanbarthol ledled Cymru.

Mae Medr yn sefydliad llawn pobl sydd wedi ymrwymo i newid pethau er gwell yng Nghymru. Mae’n fan lle rydym yn sicrhau bod pobl yn cael eu herio i dyfu, eu cefnogi i ddatblygu a’u galluogi i ffynnu.

Rydym yn cynnig:

  • 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (pro rata)
  • cyfraniad hael at eich pensiwn gwasanaeth sifil
  • a chymorth ariannol a llesiant, gan gynnwys gweithio hyblyg a hybrid, rhaglen cymorth i gyflogeion, mynediad at gynllun Beicio i’r Gwaith ac amser wedi’i neilltuo ar gyfer llesiant.

Ein pobl

Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr

James Owen, Prif Swyddog Gweithredu

Rhian Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol, Polisi

Bethan Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol, Rheoleiddio a Chyllido

Bwrdd

Yr Athro Fonesig Julie Lydon, Cadeirydd

Yr Athro David Sweeney, Dirprwy Gadeirydd

Aelodau’r Bwrdd

Y Bwrdd a llywodraethu

Mae ein Bwrdd yn sicrhau bod ein cyfrifoldebau, ein swyddogaethau a’n dyletswyddau’n cael eu cyflawni hyd at y safonau uchaf, ac yn arwain, yn llywodraethu ac yn pennu cyfeiriad strategol Medr.  

Y Bwrdd a llywodraethu

Gwybodaeth sefydliadol

Gwybodaeth ymarferol ar gyfer ein darparwyr, ein cyflenwyr a’n rhanddeiliaid pan fyddant yn gweithio gyda ni. 

Gwybodaeth sefydliadol

Deddf Addysg
Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022

Pasiwyd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 gan y Senedd ar 28 Mehefin 2022 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 08 Medi 2022.

Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio