Data a dadansoddi

Byddwn yn derbyn gwybodaeth gan ddarparwyr addysg drydyddol drwy nifer o gasgliadau data a cheisiadau am wybodaeth. Defnyddir y rhain i gyfrifo dyraniadau cyllid, i fonitro cynnydd, i lywio polisi ac i gyhoeddi ystadegau ar gyfer y sector trydyddol yng Nghymru. 

Mae Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) yn sail i sawl agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys cyllido, monitro a sicrhau ansawdd darpariaeth ôl-16 (ac eithrio darpariaeth chweched dosbarth ac addysg uwch). Mae’r data hefyd yn darparu’r ffynhonnell swyddogol o ystadegau ar ddysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaid a dysgwyr yn y sector dysgu oedolion. 

Mae nifer o ddogfennau Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn berthnasol. 

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru: casglu ac adrodd ar ddata 

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru: ffurflenni cofrestru 

Defnyddir y ffurflenni cofrestru hyn i gasglu’r data sydd eu hangen gan ddysgwyr. 

Llawlyfr cymorth i ddefnyddwyr Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru 

Mae’r llawlyfr cymorth hwn yn rhoi arweiniad i’r darparwyr dysgu hynny sy’n dychwelyd data i Medr drwy’r LLWR, i’w cyflenwyr meddalwedd, ac i bartïon eraill â diddordeb.  

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru: hysbysiad preifatrwydd 

Yma rydym yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych ac am ba mor hir y byddwn yn ei chadw. Dyma ddogfen a etifeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a bydd Medr yn darparu ei ddiweddariad ei hun ymhen amser. 

Dyddiadau cau data LLWR

Mae’r ddogfen hon yn rhestru’r dyddiadau pan gymerir ciplun o ddata LLWR a sut y bydd Medr a Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r ciplun hwnnw.

Mae’r casgliad data ôl-16 yn ymdrin â dysgu a gwblheir yn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Fe’i defnyddir i gyllido, monitro a sicrhau ansawdd darpariaeth ôl-16, ac er mwyn cynhyrchu ystadegau swyddogol. 

Mae nifer o ddogfennau Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn berthnasol. 

Mesurau a chanlyniadau ôl-16 

Mesurau perfformiad cyson ôl-16 

Dyma’r mesurau perfformiad sydd ar waith ar gyfer colegau addysg bellach a’r chweched dosbarth mewn ysgolion.  

Adroddiadau ar ddeilliannau dysgwyr 

Mae’r rhain yn rhoi crynodebau o gyfraddau llwyddo dysgwyr a sicrheir gan ddarparwyr prentisiaeth a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned. Gellir eu gweld drwy ehangu’r adran ‘data’ ar dudalen y datganiad ystadegol. Mae adroddiadau ar ddeilliannau dysgwyr y blynyddoedd cynt ar gael ochr yn ochr â datganiadau ystadegol blaenorol. 

Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch: cofnodi a mesur deilliannau 

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dull a gynigir gan Lywodraeth Cymru o fesur deilliannau ôl-16 Bagloriaeth Cymru, a’r gofynion i gofnodi data er mwyn cefnogi’r dull hwn. 

Hunanasesu: darparwyr ôl-16 

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyngor manwl ynghylch sut y dylai darparwyr ôl-16 eu hasesu eu hunain ac adrodd ar hynny, a sut i ddefnyddio’r wybodaeth honno i gyflwyno gwelliannau.

Casglu data addysg uwch 

  • arolwg ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES) 
  • monitro diwedd blwyddyn (MDB) yr arolwg cofrestriadau addysg uwch 
  • y cylchlythyr rhagolygon 

Anfonir yr arolygon data at gysylltiadau data enwebedig o fewn y darparwr ac maent hefyd ar gael isod. 

Mae nifer o ddogfennau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn parhau i fod yn berthnasol nes i Medr ddarparu ei ddiweddariadau ei hun. 

Amserlen casglu data
	
Arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES)

Mae arolwg HESES yn casglu data cyfun myfyrwyr i’n galluogi i gael syniad cynnar o niferoedd myfyrwyr, monitro cyfraddau recriwtio myfyrwyr y mae cynlluniau ffioedd a mynediad yn berthnasol iddynt, a darparu gwybodaeth fonitro i Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd berthnasol. 

Arolwg Monitro Diwedd Blwyddyn (EYM) ar gyfer Cofrestriadau Addysg Uwch

Mae’r arolwg EYM yn rhoi diffiniadau ac arweiniad i ddarparwyr addysg uwch ynghylch data diwedd blwyddyn a gaiff eu hechdynnu o gofnod myfyrwyr HESA drwy Wasanaeth Rhyngwyneb Adrodd Gwybodaeth (IRIS) HESA. Defnyddir y data i gyfrifo cyllid addysgu seiliedig ar gredyd, cyfrifo unrhyw addasiadau i gyllid, monitro gwybodaeth am hyfforddiant cychwynnol athrawon a chyrsiau meddygol a deintyddiaeth a sefydlu’r niferoedd terfynol o fyfyrwyr a gwerthoedd credyd.  

Ceisiadau am Ragolygon

Dyma gais i sefydliadau addysg uwch gyflwyno rhagolygon o niferoedd y myfyrwyr. 

Ceir hyd i’r nodiadau arweiniad diwethaf a gyflwynwyd i archwilwyr allanol a benodwyd gan CCAUC yn Nodiadau arweiniad i Archwilwyr Allanol 2021 (Medi 2021) a Nodiadau arweiniad ar gyfer Archwilwyr Allanol 2021 (Tachwedd 2021)

Ers 2021/22, mae aelodau’r tîm ystadegau yn cyfarfod â chysylltiadau data ym mhob darparwr, i ymdrin ag agweddau fel canfyddiadau archwiliadau blaenorol ac ansawdd data. Caiff y broses hon ei hadolygu gan Medr.  

Mae’r trefniadau ar gyfer archwiliadau mewnol yn parhau yr un peth, a gofynnir am adroddiadau blynyddol. Ceir hyd i’r nodiadau cyfarwyddyd cyfredol i archwilwyr eu defnyddio yn eu harchwiliadau mewnol blynyddol yn Canllawiau i’w defnyddio gan Archwilwyr Mewnol wrth gynnal eu Harchwiliad Mewnol Blynyddol o Systemau a Phrosesau Data AU.

Mae’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn rhan o Jisc. Mae HESA yn casglu a rhoi sicrwydd ynghylch data addysg uwch yn y DU, ac yn dosbarthu’r data hynny.  

Mae HESA yn casglu data ar ein rhan yn gysylltiedig â: 

  • gweithgarwch myfyrwyr 
  • cyllid 
  • rheoli ystadau 
  • rhyngweithio rhwng addysg uwch â busnes a’r gymuned 
  • staff mewn darparwyr addysg uwch (DAUau) 

Byddwn yn defnyddio’r data hyn ym Medr er mwyn: 

  • cyfrifo dyraniadau cyllid 
  • monitro yn erbyn mesurau cenedlaethol a chyfle cyfartal 
  • cyhoeddi gwybodaeth 
  • llywio polisi. 

Mae angen i’r data a gyflwynir gan ddarparwyr addysg uwch fodloni safonau penodol, a rhaid paratoi’r data mewn modd gonest, di-duedd a manwl gywir. Mae Cod Ymarfer HESA yn cynorthwyo’r rhai sy’n paratoi ac yn rheoli casgliadau data. Mae’r Cod yn berthnasol i’r holl gasgliadau data a gyflwynir i HESA a’r pedwar corff cyllido AU yn y DU, gan gynnwys Medr.  

Cod ymarfer ar gyfer casglu data addysg uwch

Gofynion Data Addysg Uwch 

Mae’r ddogfen ganllaw gofynion data addysg uwch yn darparu gwybodaeth i ddarparwyr y data AU a ddefnyddir gennym i’r dibenion uchod. Mae’n amlinellu’r meysydd a’r meini prawf a ddefnyddir gennym i echdynnu data HESA, ac ym mha gyd-destun i’w defnyddio.

Gofynion data AU 2024/25

Cewch wybodaeth yma am y data a’r fethodoleg a ddefnyddir o fewn y dulliau grant cylchol sy’n seiliedig ar fformiwla.

Ceir hefyd isod algorithmau sy’n gysylltiedig ag echdynnu data o gofnod myfyrwyr HESA, sydd i’w defnyddio wrth gyfrifo mynediad a chyfraddau cadw, anabledd, pynciau drud a phremiymau cyfrwng Cymraeg, a dyraniadau cyllid fesul pen. Mae’r algorithmau yn seiliedig ar fersiwn symlach o’r cod SAS a ddefnyddir gennym i echdynnu’r data. 

Mae’r algorithmau canlynol yn berthnasol ar gyfer 2023/24. Bydd yr algorithmau ar gyfer echdynnu data a ddefnyddiwyd ar gyfer cyllid 2024/25 ar gael yn fuan.  

Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cyfrif yn gywir, gellir defnyddio meini prawf pellach yn ychwanegol at y rhai a ddisgrifir yn yr algorithmau. 

Isod ceir gwybodaeth am echdynnu a chyfrifo cyllid Ymchwil o Ansawdd (QR) a chyllid Ymchwil Ôl-radd (PGR). Mae’r dolenni isod yn rhoi gwybodaeth am y model ariannu QR, sydd wedi’i ddiweddaru i ddefnyddio data o’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021 ac sy’n gymwys ar gyfer cyllid o 2022/23 ymlaen. 

Mae’r algorithmau canlynol yn berthnasol ar gyfer 2023/24. Bydd yr algorithmau ar gyfer echdynnu data a ddefnyddiwyd ar gyfer cyllid 2024/25 ar gael yn fuan. 

Defnyddir y mesurau ar lefel sefydliadol a chenedlaethol i fonitro perfformiad a llywio asesiadau risg a chynlluniau ffioedd a mynediad sefydliadol. 

Monitro 2021/22 

Mae mesurau cenedlaethol yn monitro data o’r flwyddyn 2016/17 ymlaen. Ceir disgrifiad o’r ffynonellau data a ddefnyddi’r a’r dulliau echdynnu yn Atodiad I ein cylchlythyr gofynion data diweddaraf.

Rydym yn cynhyrchu data ystadegol ar berfformiad darparwyr addysg uwch o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Mae’r adroddiadau hyn a’r dadansoddiad cysylltiedig yn seiliedig ar yr adroddiadau a gyflwynwyd gan ddarparwyr addysg uwch Cymru i’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). 

Dadansoddiad o staff a myfyrwyr AU yng Nghymru yn 2015/16 i 2021/22: 

Ethnigrwydd ymgeiswyr, myfyrwyr a staff darparwyr Addysg Uwch Cymru ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2016/17 i 2021/22.

Rydym yn defnyddio data sy’n ymwneud â chodau post myfyrwyr i fonitro mynediad i addysg uwch o grwpiau cyfranogiad isel, ac i gyfrifo peth o’n cyllid. 

Y ffeiliau CSV sy’n cynnwys rhestrau o godau post a ddefnyddir i fonitro’r mesurau cenedlaethol ehangu mynediad a chyfranogiad ar gyfer cofnod myfyrwyr HESA 2023/24 yw: 

Mae’r ffeil ehangu mynediad yn cynnwys y cod post ac un maes chwilio, MALlC2014_q. Os yw MALlC2014_q=1 cyfrifir y cod post yn y cwintel isaf o ardaloedd a ddiffinnir gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 (MALlC2014). Os yw MALlC2014_q=2 cyfrifir y cod post yn y cwintel isaf ond un o ardaloedd a ddiffinnir gan MALlC2014.

Mae’r ffeil cyfranogiad yn cynnwys y cod post yn unig. Y codau post yng nghwintel isaf yr ardaloedd a ddiffinnir gan POLAR4 yw’r rhain.

Codau post cyfranogiad isel ac ehangu mynediad 

Mae’r ffeiliau csv hyn yn cynnwys rhestrau o godau post a ddefnyddir i gyfrifo’r premiwm mynediad a chadw (cyllid 2025/26) i’w ddefnyddio gyda data cofnod myfyrwyr 2023/24 HESA.

Mae’r ffeil cod post cyfranogiad isel yn cynnwys codau post a gyfrifir mewn ardaloedd cyfranogiad isel ar gyfer myfyrwyr rhan-amser. Ardaloedd cyfranogiad isel ar gyfer myfyrwyr rhan-amser yw’r ddau gwintel isaf o ardaloedd, fel y’u diffinnir yn ôl cyfran yr oedolion oed gwaith â chymwysterau lefel AU, yn ôl mesuriad data Cyfrifiad 2021. Ar hyn o bryd dim ond codau post yng Nghymru a Lloegr y mae’r rhestr hon yn eu cynnwys ond bydd yn cael ei diweddaru’n fuan i gynnwys codau post yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Mae’r ffeil codau post ehangu mynediad yn cynnwys codau post yng nghwintelau 1 neu 2 o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019.

Mae Dyraniadau cyllid ar gyfer darparwyr addysg uwch yn 2024/25 (Cylchlythyr CCAUC W24/13HE) yn dangos dyraniadau cyllid ar gyfer darparwyr addysg uwch, gan gynnwys y premiwm mynediad a chadw.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffynonellau data a ddefnyddir gennym a’r hyn rydym yn eu defnyddio ar ei gyfer yn y cyhoeddiad gofynion data diweddaraf. Ar gyfer codau post a ddefnyddir gyda data hŷn, anfonwch e-bost i [email protected].

Yn cynnwys data Ystadegau Gwladol © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata (2020) 

Yn cynnwys data’r Post Brenhinol © Hawlfraint y Post Brenhinol a hawl Cronfa Ddata (2020) Yn cynnwys data Ystadegau Gwladol © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata (2020) 

Ceir defnyddio OS OpenData yn rhad ac am ddim o dan Y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).

Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yw’r asiantaeth swyddogol ar gyfer casglu, dadansoddi a dosbarthu gwybodaeth feintiol am addysg uwch yn y DU. Ceir gwybodaeth am y trefniadau diweddaraf ar gyfer cyflwyno data myfyrwyr ar wefan HESA

Fel rhan o system casglu data HESA, mae data’n cael ei echdynnu trwy Wasanaeth Rhyngwyneb Cyflwyno Gwybodaeth (IRIS) HESA i’w ddefnyddio gan sefydliadau addysg uwch (AU), addysg bellach (AB) a gyllidir a thanysgrifwyr newydd i HESA yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu bod darparwyr AU a gyllidir yn cael gweld data a allai gael ei ddefnyddio i oleuo dyraniadau cyllid yn gynnar er mwyn eu galluogi i gywiro data ar adeg gynnar. Mae hyn hefyd yn rhan o’r broses er mwyn cymeradwyo data Monitro Diwedd Blwyddyn (MDB), ynghyd â nifer o ddatganiadau eraill, a restrir isod.  

Mae allbwn IRIS ar gyfer sefydliadau a gyllidir yng Nghymru’n cynnwys yr echdyniadau data canlynol y mae’n ofynnol eu cymeradwyo:

Roedd angen i allbynnau IRIS yr oedd angen eu cymeradwyo gael eu gwirio, eu llofnodi a’u hanfon yn ôl i Medr erbyn 10 Ionawr 2025

  • Monitro Diwedd Blwyddyn (EYM) 
  • Mesur cenedlaethol (NM) yn seiliedig ar fyfyrwyr  
  • Hepgor ffioedd rhan-amser (PTFW_monitoring a PTFW_allocation) 
  • Prentisiaethau gradd
    • Sylwer y bydd y ddalen ‘Cymeradwyo cofrestriadau’ (‘Enrolments sign off’) o fewn y ffeil hon yn cynnwys data unigoledig, felly bydd angen i’r daenlen gradd-brentisiaethau gael ei dychwelyd trwy ddull diogel. 
    • Byddwn yn anfon e-bost ar wahân at ddarparwyr gyda manylion sut i ddychwelyd y tablau hyn. 
  • Bwrsariaethau cyrsiau Meistr a addysgir (Masters_monitoring) 
  • Cyllid Mynediad a Llwyddiant ar sail Hil / Llesiant a iechyd meddwl (RAS_WBMH) 
  • Cyllid cymorth cyflogadwyedd wedi’i dargedu (TES) 
  • Cyllid hyfforddiant ymchwil ôl-radd (PGR) 
  • Cyllid fesul pen (PCHE) 
  • Premiwm pynciau drud (ESP) 
  • Premiwm anabledd (DSA) 
  • Premiwm mynediad a chadw (A+R) 
  • Gwerthoedd credydau a modiwlau cyfrwng Cymraeg (WM)
  • Cyllid Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil Cymru (WREC)
  • Myfyrwyr Cyfwerth ag Amser Llawn ar gyfer cyllid cyfalaf (StudentFTE)

Y termau mewn cromfachau yw’r label enw ffeil a welir yn ffeiliau allbwn IRIS a dderbynnir gan ddarparwyr AU Cymru.

Mae’r allbynnau hefyd yn cynnwys y darnau data canlynol nad oes angen eu cymeradwyo:

  • Crynodeb o ddata dadansoddi incwm (Income) 
  • Adroddiadau ansawdd data (DQA) 
  • Gwerthoedd credyd a modiwlau cyfrwng Cymraeg (WM_modules) 

Ceir gweithdrefnau cymeradwyo, ynghyd â mwy o fanylion am y defnydd o’r data a’r meini prawf echdynnu, yn y dogfennau canlynol: 

Ceir hyd uchod i’r ffeiliau cod post diweddaraf i’w defnyddio’n rhan o echdyniad y premiwm mynediad a chadw, ac yn y mesurau cenedlaethol.

Am arweiniad pellach, i roi gwybod am unrhyw broblemau a rhoi adborth am IRIS, anfonwch e-bost i [email protected].

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio