Cyllid i ddarparwyr

Rydym yn cyllido addysg drydyddol ac ymchwil, gan gynnwys y chweched dosbarth mewn ysgolion, prentisiaethau, addysg bellach, addysg uwch ac ymchwil ac arloesi. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio’n unol â threfniadau a etifeddwyd gan y cyrff a’n rhagflaenodd – Llywodraeth Cymru  a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae’r rhain yn cynnwys trefniadau gwahanol ar gyfer gwahanol rannau o’r sector trydyddol, o ddyraniadau cyllid mawr blynyddol yn seiliedig ar fformiwla i gronfeydd llai o gyllid ar gyfer prosiectau mwy byrdymor. Byddwn yn dechrau ymgynghori ar ein trefniadau ein hunain, a’u datblygu, yn ystod ein blwyddyn gyntaf o weithredu.  

Bydd gwaith cyllido, cynllunio, cyflwyno a monitro o dan y Fframwaith Cynllunio a Chyllido Ôl-16 yn cael ei wneud yn bennaf drwy raglenni, gyda’r rhan fwyaf o ddarpariaeth yn amrywio rhwng Lefel Mynediad a Lefel 3. Pecyn dysgu yw rhaglen sy’n anelu at ganlyniad i ddysgwyr, fel symud ymlaen i gyflogaeth neu i addysg bellach neu uwch.

Mae’r Cyfeiriadur Rhaglenni yn rhestru’r holl raglenni amser llawn a rhan-amser, o Lefel Mynediad i Lefel 4; gan gynnwys rhaglenni mynediad i addysg bellach neu uwch.

Cyfeiriadur rhaglenni 2024-25

Mae’r telerau ac amodau cyllid interim yn berthnasol i’r holl grantiau newydd a ddyfernir gan Medr o 1 Awst 2024. Bydd yr amodau hyn yn berthnasol nes bod y System Gofrestru newydd yn cael ei sefydlu erbyn 1 Awst 2026. Bydd hon wedyn yn disodli’r holl delerau ac amodau presennol.

Telerau ac amodau cyllid Medr 2024/25

Ar gyfer grantiau sydd eisoes yn eu lle, neu amrywiadau i’r grantiau hynny, mae’r telerau ac amodau gwreiddiol naill ai gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) neu gan Lywodraeth Cymru yn dal i fod yn berthnasol.

Rhaid cwblhau unrhyw geisiadau am raglen amser llawn newydd neu i ddiwygio’r rhaglen bresennol ar ffurflen gais diwygio’r cyfeiriadur rhaglenni, a’i chyflwyno i Medr: [email protected]  

Fframwaith cynllunio a chyllido ôl-16: cyfeiriadur rhaglenni (cais i ddiwygio)

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyllido a chynllunio addysg ôl-16 yn parhau i fod yn berthnasol nes i Medr gyhoeddi ei ganllawiau ei hun ar hynny. 

Canllaw ar y fframwaith cyllido a chynllunio ôl-16
Cyllid prif ffrwd ar gyfer chweched dosbarth ysgolion

Bydd cyllid prif ffrwd ar gyfer chweched dosbarth ysgolion yn cael ei dalu gan Medr i awdurdodau lleol o fis Awst 2024.

Mae darpariaeth brif ffrwd ar gyfer chweched dosbarth ysgolion yn cynnwys addysg gyffredinol ar Lefel 3 (Safonau Uwch/UG) ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed yn bennaf, ochr yn ochr â rhywfaint o ddysgu galwedigaethol a darpariaeth ar Lefel 2. Cyflwynir y ddarpariaeth o fewn yr ysgolion.

Yn y gorffennol, Llywodraeth Cymru fyddai’n dyrannu’r cyllid, ac awdurdodau lleol yn cael gwybod beth fyddai’r symiau a ddyrennir ar gyfer y flwyddyn i ddod erbyn mis Ionawr ar yr hwyraf.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn ariannol, Ebrill i Fawrth. 

Proffil taliadau: misol. 

2023-24

Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr 

Mae Cyllid Adferiad a Chynnydd Dysgwyr yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol ei ddosbarthu i’r chweched dosbarth mewn ysgolion er mwyn darparu oriau dysgu ychwanegol ar gyfer dysgwyr amser llawn ym Mlynyddoedd 12, 13 ac uwch.  

Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn cydnabod y bydd dysgwyr wedi profi aflonyddwch o ganlyniad i bandemig Covid-19 ac y gallai fod arnynt angen cymorth ac arweiniad pellach yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25 er mwyn helpu i ddiogelu eu llesiant, datblygu eu gwytnwch a llwyddo i ennill eu cymwysterau. 

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: un taliad blynyddol ym mis Awst.

Adferiad a Chynnydd Dysgwyr Ôl-16: dyraniadau cyllid chweched dosbarth awdurdodau lleol 2023 i 2024

Cyllid pontio

Pwrpas y cyllid hwn yw rhoi cyfle i bob dysgwr ym Mlwyddyn 10 ac 11 gael ymweld â choleg addysg bellach a, lle bo modd, cymryd rhan mewn gweithgareddau pontio perthnasol, fel diwrnodiau blas ar y coleg, dosbarthiadau meistr, gweithdai rhyngweithiol a rhaglenni’r haf. 

Cyfnod cyllido: Ebrill i Awst. 

Proffil taliadau: un taliad yn hydref 2024.

Cyllid pontio ar gyfer dysgwyr ym Mlwyddyn 11 a dysgwyr ym Mlwyddyn 12 a 13 sy'n astudio safonau UG/U2

Bydd Medr yn rhoi cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned o fis Awst 2024.  

Mae darpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn cynnwys darpariaeth ran-amser ar bob lefel o Lefel Mynediad i Lefel 4, ac ar gael i bob oed o 16+. Yn gyffredinol, cyflwynir y cyfleoedd dysgu mewn canolfannau dysgu cymunedol.

Yn y gorffennol, gwnaed dyraniadau gan Lywodraeth Cymru. Caiff awdurdodau lleol wybod am y symiau a ddyrennir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod erbyn mis Ionawr ar yr hwyraf.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn ariannol, Ebrill i Fawrth. 

Proffil taliadau: tri rhandaliad blynyddol. 

Dyraniadau cyllid 2022-23

Awdurdod lleol ôl-16: dyraniadau cyllid dysgu oedolion 2023-24

Dyraniadau cyllid 2024-25 i ddod.

Cyllid ar gyfer prentisiaethau

Bydd Medr yn cyllido darparwyr contract arweiniol y Rhaglen Brentisiaeth o fis Awst 2024.

Rhaglen ddysgu ar sail cyflogaeth ar gyfer dysgwyr cyflogedig yw Prentisiaethau. Maent yn dilyn Fframwaith Prentisiaethau cydnabyddedig sydd wedi’i gymeradwyo i’w gyflwyno yng Nghymru. 

Mae darparwyr prentisiaethau’n derbyn cyllid ar sail blwyddyn academaidd i gefnogi darpariaeth cyrsiau dysgu galwedigaethol ar lefelau 2, 3, 4 a 5 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC). 

Yn y gorffennol, Llywodraeth Cymru oedd yn dyrannu’r cyllid, gyda darparwyr arweiniol yn cael gwybod beth fyddai eu dyraniadau ar gyfer y flwyddyn i ddod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.  

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: misol. 

Dyraniadau 2024/25: Oddeutu £134 miliwn. 

Bydd Medr yn darparu cyllid i ddarparwyr arweiniol y contract Prentisiaeth ar gyfer y Cynllun Rhannu Prentisiaeth o fis Awst 2024.  

Mae’r Cynllun Rhannu Prentisiaeth yn caniatáu i brentisiaid gwblhau rhaglen brentisiaeth lawn drwy weithio gyda nifer o wahanol gyflogwyr lleol, i ennill y setiau sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddod yn gymwys. 

Caiff prentisiaid sy’n dechrau Cynllun Rhannu Prentisiaeth eu dyrannu ar sail flynyddol i ddarparwyr arweiniol â diddordeb.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf.  

Proffil taliadau: ar sail chwarterol/fisol ar ôl derbyn tystiolaeth foddhaol.

Dyraniadau 2024/25: £1 miliwn.

Bydd Medr yn darparu cyllid i ddarparwyr arweiniol y contract Prentisiaeth ar gyfer y gronfa Cymorth Dysgu Ychwanegol o fis Awst 2024. 

Pwrpas y gronfa Cymorth Dysgu Ychwanegol yw helpu darparwyr i weithio’n hyblyg ac i sicrhau’r Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY) sydd ei hangen fel bo modd iddynt wneud eu darpariaeth yn hygyrch i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).  Mae Cyllid CDY hefyd yn cynorthwyo darparwyr gyda’r gost o wneud addasiadau rhesymol, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: taliadau chwarterol, ar ôl cyflwyno tystiolaeth foddhaol a gaiff ei gwerthuso’n foddhaol.

Bydd Medr yn darparu cyllid i ddarparwyr arweiniol y contract Prentisiaeth ar gyfer y Cynllun Cymhelliant Cyflogwyr (CCC) o fis Awst 2024.

Cynllun ydyw sy’n rhoi cymorth i gyflogwyr i’w helpu i gynnig cyfleoedd i brentisiaid anabl.

Cyfnod cyllido: blwyddyn ariannol, Ebrill i Fawrth. 

Proffil taliadau: taliadau misol, ar ôl cyflwyno tystiolaeth foddhaol. 

Dyraniadau 2024-25: £400k. 

Mae darparwyr addysg uwch yn derbyn cyllid yn flynyddol i gyflenwi prentisiaethau gradd yn erbyn y Fframweithiau Digidol, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch ac Adeiladu. 

Cyllid ar gyfer addysg bellach 

Bydd cyllid prif ffrwd ar gyfer colegau addysg bellach yn cael ei ddarparu gan Medr o fis Awst 2024

Mae darpariaeth addysg bellach brif ffrwd yn cynnwys addysg gyffredinol a dysgu galwedigaethol ar bob lefel o Lefel Mynediad i Lefel 4. Mae’r ddarpariaeth a gynigir ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed amser llawn yn bennaf, ond ar gael i bob oed ac yn cynnwys darpariaeth ran-amser i bob oed. Fel arfer cyflwynir y dysgu mewn colegau addysg bellach, ond mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddysgu yn y gymuned. 

Yn y gorffennol, Llywodraeth Cymru sydd wedi dyrannu’r cyllid, gyda cholegau addysg bellach yn cael gwybod beth yw’r symiau a ddyrennir ar gyfer y flwyddyn i ddod yn hwyr ym mis Ionawr. 

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: misol.

Dyrannwyd y cyllid hwn er mwyn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu oriau dysgu ychwanegol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd Coleg 1, 2 ac uwch.

Mae’r cyllid ychwanegol hwn wedi’i ddarparu i gydnabod y bydd dysgwyr wedi profi aflonyddwch yn sgil pandemig Covid-19, ac y gallai fod arnynt angen cymorth ac arweiniad pellach yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25 er mwyn helpu i ddiogelu eu llesiant, datblygu eu gwytnwch a llwyddo i ennill eu cymwysterau. 

Cyllidir dyraniadau ar sail blwyddyn academaidd, gan redeg o fis Awst i fis Gorffennaf, gan wneud un taliad ym mis Awst. 

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf.  

Proffil taliadau: un taliad blynyddol ym mis Awst. 

Cyllid adferiad a chynnydd dysgwyr ôl-16 2023 i 2024

Mae cyllid pontio yn galluogi colegau addysg bellach, mewn cydweithrediad ag ysgolion, i roi arweiniad ar lwybrau ôl-16 i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11 i’w galluogi i wneud penderfyniad deallus ynghylch y cam nesaf ar eu llwybr addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. 

Gellid cyflawni hyn drwy weithgareddau fel diwrnodiau blas ar y coleg, dosbarthiadau meistr neu weithdai rhyngweithiol, neu raglenni haf. 

Cyllidir y dyraniadau o fis Ebrill i fis Awst, gan wneud un taliad yn y gwanwyn. 

Cyfnod cyllido: Ebrill i Fawrth. 

Proffil taliadau: misol. 

Mae’r cyllid hwn yn rhoi cymorth ariannol i’r dysgwyr cymwys hynny y gallai ystyriaethau ariannol gyfyngu ar eu mynediad at addysg, neu sy’n wynebu anawsterau ariannol, waeth beth fo’r rheswm am hynny, gan gynnwys anabledd.

Mae sefydliadau’n gweinyddu’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn i’w dysgwyr yn ôl disgresiwn, ac maent yn gyfrifol am ddosbarthu’r cyllid i sicrhau y gellir teilwra cymorth i anghenion y myfyrwyr.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: tri thaliad blynyddol. 

Mae’r cyllid hwn yn sicrhau mynediad at gynnyrch mislif yn rhad ac am ddim. Defnyddir y cyllid i gefnogi

  • pob dysgwr; a  
  • phobl yng nghymuned y coleg sydd angen mynediad at gynnyrch mislif, gan roi’r flaenoriaeth i rai o aelwydydd incwm isel.  

Cyfnod cyllido: yn symud i’r flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf, o 2024/25.

Mae’r cyllid hwn yn cynorthwyo sefydliadau i fodloni anghenion addysgol pobl ifanc, gan eu galluogi i wireddu eu potensial llawn a rhoi’r gefnogaeth gywir ar waith i gael gwared â rhwystrau sylweddol rhag gwireddu potensial yr unigolyn.

Mae sefydliadau’n defnyddio’r cyllid hwn i ymateb i anghenion dysgwyr unigol.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf.

Proffil taliadau: dau daliad blynyddol.

Amcanion allweddol y canolfannau yw cynnig gwasanaeth recriwtio i gyflogwyr lleol a chynyddu’r cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael i ddysgwyr mewn colegau. 

Mae’r cyllid yn cefnogi costau hyrwyddwr entrepreneuriaeth sydd: 

  • yn gweithio gyda’r dysgwyr (a’r ymadawyr) o’r sefydliad i hyrwyddo entrepreneuriaeth, a chefnogi staff i ymwreiddio entrepreneuriaeth yn y cwricwlwm, ac 
  • yn rhoi cymorth wedi’i deilwra’n arbennig i ddysgwyr ac ymadawyr i ddatblygu eu syniadau entrepreneuraidd a’u gwybodaeth am fusnes, a gwella llwybrau a’u cefnogi tuag at hunangyflogaeth a dechrau busnes.  

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf.

Proffil taliadau: dau daliad blynyddol.

Mae cyllid dysgu proffesiynol yn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu gweithgareddau dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol y sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ac ar yr anghenion a ganfuwyd ymhlith y staff.

Nod y gronfa yw adeiladu ar weithgareddau a    gynhaliwyd yn rhan o’r cyllid a ddarparwyd yn y blynyddoedd cynt, gan roi cefnogaeth a chyfleoedd i staff gymryd y camau nesaf yn eu dysg proffesiynol.

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: dau daliad blynyddol, ar ôl cyflwyno a gwerthuso adroddiad interim a therfynol yn foddhaol. 

Mae hyn yn galluogi colegau addysg bellach i feithrin gallu i gefnogi iechyd meddwl a llesiant dysgwyr a staff.  

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol y sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ac ar yr anghenion a ganfuwyd ymhlith ei ddysgwyr a’i staff.  

Cyfnod cyllido: y flwyddyn academaidd, Awst i Orffennaf. 

Proffil taliadau: dau daliad blynyddol, ar ôl cyflwyno a gwerthuso adroddiad interim a therfynol yn foddhaol.

Caiff y rhan fwyaf o’n cyllid ei ddosbarthu ar ffurf grantiau bloc i darparwyr addysg uwch, wedi’u dyrannu drwy fformiwlâu. Mae’r rhain yn ystyried amryw o ffactorau, gan gynnwys niferoedd a gaiff eu recriwtio i gategorïau pwnc academaidd, y modd a’r lefel astudio, a maint yr ymchwil o ansawdd a gyflawnwyd yn y sefydliad. 

Rydym yn rhoi gwybod i ddarparwyr addysg uwch a gyllidir beth fydd eu dyraniadau grant craidd cyn i’r flwyddyn academaidd ddechrau ym mis Awst. Gall sefydliadau ddyrannu’r grant fel y tybir ganddynt yn briodol, ar yr amod y’i defnyddir i gefnogi addysgu, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig.  

Roedd cyllid ar gyfer addysg uwch yn cael ei ddyrannu’n flynyddol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Mae Medr wedi etifeddu dulliau cyllido a dyraniadau cyllid CCAUC ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 (1 Awst – 31 Gorffennaf).

Os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol, neu os na allwch ddod o hyd i’r ddogfen rydych yn chwilio amdani, cysylltwch â

[email protected]

Rydym yn cyllido ymchwil ac arloesi 

  • Rydym yn darparu £82 miliwn y flwyddyn drwy ein prif ffrwd gyllido Ymchwil o Ansawdd (QR) sy’n seiliedig ar fformiwla, yn seiliedig ar ganlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar gyfer y DU gyfan. 
  • Rydym yn cefnogi arloesi ac ymgysylltu, gan gynnwys cenhadaeth ddinesig, drwy ein Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru gwerth £15 miliwn. 
  • Rydym hefyd yn darparu £6.2 miliwn i sefydliadau ar gyfer hyfforddi myfyrwyr ymchwil ôl-radd.  

Caiff cyllid cyhoeddus ar gyfer ymchwil mewn addysg uwch ei weinyddu o dan system gymorth ddeuol.  

O dan y system hon, mae’r cyllid a ddarperir gennym i sefydliadau yng Nghymru yn helpu i gefnogi eu seilwaith ymchwil, ac yn rhoi’r hyblygrwydd iddynt bennu cyfeiriad strategol eu hymchwil.  

Ar ochr arall y system gymorth ddeuol, darperir grantiau ar gyfer prosiectau a rhaglenni penodol gan y Cynghorau Ymchwil, elusennau, yr UE ac adrannau’r llywodraeth. 

Dyraniadau cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25

Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC)

Rydym yn darparucyllid blynyddoli sefydliadau addysg uwch Cymru i hyrwyddo’u gweithgarwch cyfnewid gwybodaeth a’u galluogi i weithio gyda diwydiant a busnesau, i gefnogi entrepreneuriaeth a sgiliau, ac i gefnogi eu huchelgeisiau o ran y genhadaeth ddinesig ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae strategaethau pum mlynedd yn amlinellu meysydd ffocws allweddol a fydd yn cefnogi ffyniant cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru. 

Caiff y strategaethau eu monitro’n flynyddol a’u diweddaru i adlewyrchu heriau a chyfleoedd newydd.

Gweler y strategaethau ar gyfer:

Cronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU (UKRPIF) 

Mae Cronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU (UKRPIF) yn darparu cyllid er mwyn buddsoddi cyfalaf mewn cyfleusterau ymchwil newydd o bwys mewn prifysgolion.  

Dyfernir y cyllid gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) drwy gystadlaethau a gynhelir drwy’r DU a reolir gan Ymchwil Lloegr, gan gydweithio â chyrff cyllido addysg uwch eraill y DU. Rhaid i geisiadau gynnwys cyllid ar y cyd o’r sector preifat. 

Mae Cymru wedi derbyn cyllid ar gyfer tair rhaglen fuddsoddi drwy gynllun UKRPIF. 

  • Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni, Prifysgol Abertawe (£11.65 miliwn).
  • Sefydliad Ymchwil Technoleg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Prifysgol Caerdydd (£17.30 miliwn). 
  • Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol, Prifysgol Abertawe (£29.92 miliwn). 

Cyfalaf Ymchwil Addysg Uwch (HERC) 

Caiff HERCei gyllido ar y cyd gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg a Llywodraeth Cymru, ac mae’n cefnogi datblygiad seilwaith ffisegol sy’n gysylltiedig ag ymchwil.  

Mae’n rhaid i sefydliadau fodloni trothwy sy’n seiliedig ar ragoriaeth i fod yn gymwys i dderbyn cymorth.  

Darparwyd £8.4 miliwn yn 2023-24. 

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio