Gwybodaeth sefydliadol

Gwybodaeth ymarferol ar gyfer ein darparwyr, ein cyflenwyr a’n rhanddeiliaid pan fyddant yn gweithio gyda ni.

Mae ein swyddogaeth gaffael yn sicrhau bod Medr yn cael gwerth am arian wrth brynu ein nwyddau, a’n gwasanaethau, a sicrhau ein bob amser yn cadw at arfer gorau a’r ddeddfwriaeth gyfredol o ran caffael.

Telerau ac amodau

Oni bai y cytunwyd ar delerau ac amodau eraill dan gytundeb fframwaith neu gontract mae ein Telerau ac Amodau Contract ar gyfer Archebion Prynu yn berthnasol bob tro y byddwn yn prynu pethau. I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at y tîm caffael.

Cysylltwch â'r tîm caffael Cysylltwch â'r tîm cyllid

Polisi a gweithdrefn rheoli datgelu data

Rydym yn cymhwyso rheolaethau data i ddata cyfanredol er mwyn atal y posibilrwydd o ddatgelu gwybodaeth am unigolion. Bydd pob un o’n cyhoeddiadau ystadegol yn esbonio’r fethodoleg rheoli datgelu data a ddefnyddiwyd.

Rhyddid gwybodaeth 

Fel mater o drefn, rydym yn darparu ystod eang o wybodaeth drwy ein gwefan. Os na allwch gael hyd i’r wybodaeth rydych chi’n chwilio amdani, cysylltwch â [email protected] i ddechrau.

Gofynnwch am wybodaeth

Rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan y sector addysg drydyddol ac ymchwil wrth gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru ddwyieithog. O dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, mae gennym ddyletswydd strategol i hyrwyddo astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fel corff, rydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ein busnes cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd yn cydnabod ein rôl o ran hwyluso amgylchedd gwaith dwyieithog i’n pobl.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd gohebu yn y Gymraeg yn achosi unrhyw oedi. 

Byddwn hefyd yn craffu ar ein polisïau a’n cynlluniau i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac yn ystyried effaith ein polisïau ar y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol ac yn allanol.  

Byddwn yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg ac yn derbyn Hysbysiad Cydymffurfio oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg maes o law. 

Wrth sefydlu Medr fel corff hyd braich newydd, rydym yn ymrwymedig i fod yn gyflogwr delfrydol ac yn batrwm o sefydliad. Rydym yn cydnabod yr angen am strwythur cyflog sy’n rhoi gwerth am arian; gwobrwyo staff Medr am y gwaith a wnânt, gan hefyd gydnabod bod ein cyllid yn dod o bwrs y wlad a bod rhaid ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae rhan o gyflawni trefniadau cyflog Medr yn y ffordd yma’n ei gwneud yn ofynnol i ni weithredu yn ôl egwyddorion cysondeb, tryloywder, hygyrchedd a fforddiadwyedd, felly rydym yn cyhoeddi ein datganiad cyflog, y polisi a’r gweithdrefnau a graddfeydd cyflog Medr i gyflawni hyn.

Mae ein gwerthoedd yn bwysig iawn i ni, ac maent yn helpu i lunio diwylliant ein sefydliad. Mae ein gwerth cynnwys pawb yn golygu ein bod yn angerddol am gynhwysiant, gan geisio creu’r amodau cywir i bawb gyflawni eu potensial llawn. 

Mae gennym hefyd ddyletswydd strategol o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 i hyrwyddo cyfle cyfartal. 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Medr 2024-2028

Rydym hefyd yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015m a byddwn yn mynegi ein hymrwymiad i lesiant cenedlaethau’r dyfodol drwy ein cynllun strategol. 

Ein blaenoriaethau

Yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, byddwn yn ystyried bioamrywiaeth ac ecosystemau fel rhan o’n cynlluniau busnes a’n gweithgareddau beunyddiol drwy eu halinio â’n dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Byddwn yn adrodd drwy ein hadroddiad a’n cyfrifon blynyddol fel arfer.

Cyfrifon terfynol CCAUC: 1 Ebrill 2023 i 31 Gorffennaf 2024.

Adroddiad blynyddol a chyfrifon CCAUC 2023-24 Cyfrifon CCAUC a osodwyd gerbron y Senedd.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio