Ansawdd

Mae gennym gyfrifoldeb i asesu, neu wneud trefniadau i asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan neu ar ran ddarparwyr a reoleiddir. Byddwn yn gwneud hyn drwy ein prosesau asesu ansawdd. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb i fonitro a hyrwyddo gwelliant i ansawdd addysg drydyddol.

  • y dull o asesu ansawdd ar draws pob rhan o addysg drydyddol
  • rolau darparwyr
  • sut y caiff safbwyntiau dysgwyr eu hystyried, a
  • datblygiad proffesiynol staff.

Mae Estyn yn arolygu colegau addysg bellach, partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned, a darparwyr prentisiaethau.  Y mae hefyd yn arolygu’r chweched dosbarth mewn ysgolion yn rhan o arolwg ysgol gyfan. Yn ogystal â hynny, mae’n arolygu gwasanaethau addysg yr awdurdod lleol, sy’n cynnwys y gefnogaeth a roddir ganddynt i ysgolion (gan gynnwys y chweched dosbarth).

Mae gan Estyn ddyletswydd i roi gwybodaeth a chyngor i Medr o dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.

Mae gwybodaeth am brosesau Estyn, gan gynnwys beth mae’n ei arolygu a sut mae’n arolygu pob agwedd, ar gael ar ei wefan.

Mae’n rhaid i Medr asesu, neu wneud trefniadau i asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru gan neu ar ran pob sefydliad addysg uwch a reoleiddir..

Derbyniodd Medr gyfrifoldebau Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar 1 Awst 2024. Yn unol â hynny, mae canllawiau diweddaraf CCAUC yn berthnasol ar hyn o bryd.

Mae’r Gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg (cylchlyhtyr CCAUC W19/05HE) yn esbonio sut y bydd Medr yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol yn gysylltiedig ag ansawdd addysg.

Yn rhan o’r Fframwaith Asesu Ansawdd  i Gymru, mae’n rhaid i sefydliadau a reoleiddir dderbyn adolygiadau sicrhau ansawdd allanol. Cynhelir yr adolygiadau hyn drwy ddefnyddio’r Adolygiad Gwella Ansawdd a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

Mesurau perfformiad ôl-16 cyson ar gyfer addysg bellach a’r chweched dosbarth

Caiff cyfraddau cwblhau a chyrhaeddiad dysgwyr sy’n astudio mewn sefydliadau addysg bellach a’r chweched dosbarth mewn ysgolion eu cyhoeddi’n flynyddol.

Mae’r mesurau perfformiad cyson yn dangos cyfran y dysgwyr sy’n ennill y cymwysterau y maen nhw’n anelu atynt, fel cyfran o’r rhai sy’n dechrau rhaglen astudio.

Mae ystadegau cenedlaethol ar gyfer cyrhaeddiad dysgwyr ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adroddiadau ar ddeilliannau dysgwyr ar gyfer darparwyr ôl-16

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dau adroddiad sy’n mesur llwyddiant y canlynol:

  • darparwyr dysgu seiliedig ar waith
  • partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned

Mae’r adroddiadau’n cynnwys gwybodaeth am:

  • ganran yr holl gymwysterau a enillwyd gan ddysgwyr dros y 3 blynedd diwethaf
  • y gyfradd gyfartalog a enillwyd ar draws yr holl ddarparwyr tebyg yng Nghymru

Mesurau canlyniadau dysgwyr ar gyfer addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned

Bagloriaeth Cymru ôl-16: cofnodi a mesur deilliannau

Canllawiau hunanasesu ar gyfer darparwyr ôl-16

Ystadegau Myfyrwyr Addysg Uwch: Y DU, 2021/22

Quality Assessment framework for higher education providers

Yn rhan o’r Fframwaith Asesu Ansawdd i Gymru, mae’n rhaid i sefydliadau a reoleiddir dderbyn adolygiadau sicrhau ansawdd allanol rheolaidd. Cynhelir yr adolygiadau hyn drwy ddefnyddio’r Adolygiad Gwella Ansawdd a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch.

Goruchwyliaeth addysgol mewn addysg uwch

Mae’r ddogfen hon yn egluro’r rôl a etifeddodd Medr (gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) o ran goruchwyliaeth addysgol.

Gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch

Mae’r cylchlythyr hwn yn amlinellu ein gweithdrefnau ar gyfer asesu ansawdd addysg, a etifeddwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Canllawiau ar drefniadau partneriaeth ar gyfer addysg freiniol a ddarperir ar ran sefydliadau addysg uwch a reoleiddir yng Nghymru

Mae’r canllawiau hyn ar drefniadau partneriaeth ar gyfer addysg freiniol yng Nghymru yn ystyriol o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, ac wedi’u hetifeddu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae ansawdd yn elfen allweddol o reoleiddio, yn unol â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022, a bydd yn amod cofrestru a chyllido.  

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio