Cofrestr o Ddarparwyr Addysg Uwch
Mae gan Medr dyletswydd statudol i sefydlu, cynnal a chyhoeddi Cofrestr o ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru. Mae’r Gofrestr yn nodi darparwyr sydd wedi llwyddo i fodloni gofynion cofrestru Medr.
Ynglŷn â’r Gofrestr
Mae cofrestru yn rhoi sicrwydd bod darparwr wedi dangos cydymffurfiaeth ag ein amodau cofrestru cychwynnol, a’i bod yn ofynnol iddo barhau i fodloni amodau cofrestru parhaus er mwyn aros ar y Gofrestr. Bydd yr amodau hyn yn helpu i sicrhau bod darparwyr cofrestredig yn gweithredu mewn ffordd sy’n amddiffyn dysgwyr, yn cynnal ansawdd, yn diogelu arian y cyhoedd ac yn ennyn hyder yn y sector addysg drydyddol.
Mae’r Gofrestr yn cefnogi tryloywder drwy ddangos gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am ddarparwyr sydd wedi’u cofrestru â Medr, ynghyd â’u statws cofrestru.
Mae ein Cofrestr yn cynnwys dau gategori: Addysg Uwch (Craidd) neu Addysg Uwch (Amgen).
CofrestrFel arall, gallwch gyrchu’r Gofrestr fel taenlen.
1. Addysg Uwch (Craidd)
- Mae darparwyr yn gymwys i gael cyllid addysg uwch Medr.
- Gall cyrsiau gael eu dynodi’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr gan Lywodraeth Cymru.
- Mae darparwyr yn amodol ar ofynion ychwanegol megis terfynau ffioedd ac amodau statws elusennol.
2. Addysg Uwch (Amgen)
- Nid yw darparwyr yn gymwys i gael cyllid grant addysg uwch Medr.
- Mae cyrsiau hefyd yn cael eu cymeradwyo’n awtomatig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, ond dim ond y lefel is o fenthyciadau ffioedd dysgu y gall myfyrwyr eu cael.
- Nid yw darparwyr yn amodol ar yr un gofynion o ran terfynau ffioedd â’r darparwyr yng nghategori Craidd y Gofrestr.
Amodau cofrestru
I ymuno â’r Gofrestr ac aros arni, rhaid i ddarparwyr fodloni amrywiaeth o amodau cychwynnol a nodir yn ein Fframwaith Rheoleiddio. Os caiff darparwr ei dderbyn ar y Gofrestr, bydd hynny’n dangos ei fod wedi bodloni’r gofynion cofrestru cychwynnol sylfaenol a’r amodau cofrestru cychwynnol yn foddhaol. Bydd cofrestru’n cadarnhau bod y darparwr yn cydymffurfio â’r gofynion sylfaenol hynny ond ni fydd yn gyfystyr ag asesiad ehangach o’i berfformiad na’i statws cyffredinol.
Bydd yn ofynnol i ddarparwyr cofrestredig barhau i fodloni amodau cofrestru parhaus perthnasol drwy gydol y cyfnod y bydd wedi’i gofrestru. Mewn rhai achosion, rydym wedi rhoi gwybod i ddarparwyr ein bod yn fodlon ar eu cais i gofrestru ond y bydd angen i ni gael rhagor o wybodaeth a sicrwydd mewn rhai meysydd.
Amodau Parhaus Penodol
Dan rai amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd Medr yn gosod Amod Parhaus Penodol ar ddarparwr cofrestredig os bydd tystiolaeth o risg sylweddol sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth â gofynion cofrestru. Mesur rheoleiddio a ddefnyddir i amddiffyn dysgwyr, cefnogi gwelliant a rheoli risgiau dynodedig mewn ffordd gymesur a phenodol yw hwn.
Gellir gosod Amod Parhaus Penodol dan yr amgylchiadau canlynol:
- Ceir tystiolaeth o dor amod cofrestru sydd wedi digwydd neu sydd wrthi’n datblygu.
- Ceir risg sylweddol i ddysgwyr, arian y cyhoedd, neu gydymffurfiaeth â rheoliadau.
- Mae problemau’n barhaus neu’n fynych.
- Nid yw’r darparwr wedi mynd i’r afael â phryderon yn ddigonol drwy weithgareddau ymgysylltu a monitro arferol.
Pan fydd Amod Parhaus Penodol yn berthnasol, caiff y manylion eu cyhoeddi fel rhan o gofnod y darparwr ar y Gofrestr.
Tynnu oddi ar y Gofrestr
Dan amgylchiadau mwy difrifol, mae’n bosibl y byddwn yn tynnu enw darparwr oddi ar y Gofrestr os na fydd yn bodloni’r gofynion cofrestru mwyach neu os bydd datgofrestru’n ofynnol fel arall yn unol â’r Fframwaith Rheoleiddio a deddfwriaeth berthnasol. Mae tynnu darparwr oddi ar y Gofrestr yn gam rheoleiddio sylweddol a dim ond os bydd tystiolaeth briodol a’r drefn briodol yn cefnogi penderfyniad o’r fath y caiff y cam hwnnw ei gymryd.
Gall darparwr gael ei dynnu oddi ar y Gofrestr dan yr amgylchiadau canlynol:
- Nid yw’n bodloni un neu fwy o’r amodau cofrestru mwyach.
- Nid yw’n cydymffurfio â gofynion rheoleiddio parhaus.
- Mae wedi gofyn am gael ei ddatgofrestru ac mae Medr wedi cymeradwyo hynny.
- Amgylchiadau a gyfyd sy’n golygu bod datgofrestru yn ofynnol yn unol â Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 neu reoliadau cysylltiedig.
Pan gaiff darparwr ei dynnu oddi ar y Gofrestr, bydd ei statws cofrestru a dyddiad ei dynnu oddi ar y Gofrestr i’w gweld yn y cofnod perthnasol ar y Gofrestr. Bydd Medr yn gweithredu yn unol â’i ddyletswyddau statudol a’i brosesau rheoleiddio cyhoeddedig wrth wneud penderfyniadau ynghylch datgofrestru.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio