This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/13: Fframwaith rheoleiddio Medr ar gyfer darparwyr trydyddol

Fframwaith rheoleiddio Medr ar gyfer addysg drydyddol

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno lansiad y gyfres lawn a therfynol o ddogfennau i gefnogi ein system reoleiddio newydd, a fydd yn dechrau dod i rym o 01 Awst 2026.

2. Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru 2022 (‘Y Ddeddf’) yn nodi’r fframwaith y byddwn yn ei ddefnyddio i reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru. Cyhoeddir y Fframwaith Rheoleiddio hwn a’r dogfennau statudol cysylltiedig i fodloni’r dyletswyddau canlynol yn y Ddeddf:

  • 27 (5) Amodau Cofrestru Cychwynnol
  • 28 (7) Amodau Cofrestru Parhaus Cyffredinol
  • 40 (2) Darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddiadau o dan adran 39
  • 50 (4) Fframwaith Sicrhau Ansawdd
  • 81 (3) Datganiad ar Swyddogaethau Ymyrryd
  • 126 (6) Cynlluniau Diogelu Dysgwyr
  • 129 (5) Cod Ymgysylltu â Dysgwyr

3. Mae dogfennau anstatudol eraill, gan gynnwys dogfen cwestiynau cyffredin, sy’n egluro sut mae’r system newydd yn gweithio mewn iaith glir, a geirfa, sy’n rhoi diffiniadau clir o’r holl dermau rheoleiddio a gweithredol, bellach ar gael ar wefan Medr. Bydd darparwyr trydyddol yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i’r dogfennau yn y dyfodol, yn ychwanegol at ein dyletswyddau statudol i ymgynghori o dan y Ddeddf.

Cofrestr o ddarparwyr

4. Bydd Medr yn ymgysylltu â’r darparwyr addysg uwch hynny sydd wedi mynegi diddordeb mewn cofrestru. Bydd y darparwyr hynny’n cael mynediad at ffurflen gais ar-lein, a darparwyr cymwys yn cael eu cofrestru o 01 Awst 2026 ymlaen.

5. Bydd y Gofrestr ar gyfer darparwyr addysg uwch ar gael i’r cyhoedd ym mis Awst 2026.

Rhagor o wybodaeth

6. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn i sylw [email protected].

Medr/2026/13: Fframwaith rheoleiddio Medr ar gyfer darparwyr trydyddol

Dyddiad:  01 Ebrill 2026

Cyfeirnod:  Medr/2026/13

At:  Yr holl ddarparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant yng Nghymru.

Ymateb erbyn:  Nid oes angen ymateb

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyhoeddi lansio’r gyfres lawn a therfynol o ddogfennau i gefnogi ein system reoleiddio newydd, a fydd yn dechrau dod i rym o 01 Awst 2026.

Medr/2026/13 Fframwaith rheoleiddio Medr ar gyfer darparwyr trydyddol

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio