Llais y Dysgwr

Mae Arolwg Llais y Dysgwr yn arolwg blynyddol newydd o ddysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol i oedolion sy’n cael ei lansio yn y flwyddyn academaidd 2026/27. Bydd yr arolwg yn cael ei dreialu mewn dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgolion y flwyddyn ganlynol. Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan Medr mewn partneriaeth ag IFF Research.

Gweithiodd nifer o ddarparwyr gydag IFF Research a Medr yn ystod 2026, gan helpu i ddylunio a phrofi cwestiynau’r arolwg, cynnal arolwg peilot, a llunio’r trefniadau ar gyfer gweinyddu’r arolwg o 2027 ymlaen.

Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn casglu adborth ar foddhad myfyrwyr israddedig blwyddyn olaf â’u cwrs. Mae’n ffynhonnell allweddol o dystiolaeth er mwyn i Medr ddeall safbwyntiau myfyrwyr ynglŷn â’u profiad dysgu.

Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn eiddo i Medr, y Swyddfa Fyfyrwyr, Cyngor Cyllido’r Alban, ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon, ac fe’i rheolir gan y Swyddfa Fyfyrwyr ar ran yr holl sefydliadau hyn. Ipsos yw’r cwmni sy’n gweinyddu’r arolwg, ac mae CACI Ltd yn lledaenu’r canlyniadau i ddarparwyr a sefydliadau.

Mae rhagor o wybodaeth a data’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gael ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr.

Gall pob myfyriwr israddedig blwyddyn olaf lenwi’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Gall myfyrwyr gael rhagor o wybodaeth amdano ar wefan yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr neu drwy ofyn i’w darparwr.

Mae’n ofynnol i’r holl ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru sy’n cael eu rheoleiddio a’u cyllido gymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr a hyrwyddo’r arolwg i’r holl fyfyrwyr sy’n gymwys. Mae Medr yn ariannu cyfranogiad yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gyfer darparwyr yng Nghymru.

Bydd y cwestiynau a ofynnir yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027 yr un fath â’r rhai yn 2026. Gall darparwyr ofyn cwestiynau dewisol hefyd nad ydynt yn rhan o’r data cyhoeddus a rennir.

Er mwyn ceisio lleihau’r baich ar ddarparwyr, mae’r broses ychwanegu a dileu wedi cael ei hadolygu a’i diweddaru ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027. Mae’r arweiniad gan y Swyddfa Fyfyrwyr a’r canllaw sefydlu ar gyfer Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027 a ddarparwyd gan Ipsos yn rhoi rhagor o fanylion am y broses hon.

Dyddiad Cam Gweithredu
21 Hydref 2026 Ipsos i gyhoeddi canllaw sefydlu a chanllaw arfer da ynglŷn ag Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027 i ddarparwyr
06 Ionawr 2027 Lansio’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
07 Ionawr 2027 Gwaith maes yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn dechrau
30 Ebrill 2027 Gwaith maes yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn gorffen
07 Gorffennaf 2027 Dyddiad dros dro ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr
Dyddiad Cam Gweithredu
27 Tachwedd 2026 Adolygu a diweddaru manylion cyswllt yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr
27 Tachwedd 2026 Llenwi’r ffurflen opsiynau ‘fy arolwg’
27 Tachwedd 2026 Cyflwyno templedi sampl Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027 gyda manylion cyswllt myfyrwyr cymwys

Mae cyfarwyddiadau ar sut i gyflenwi’r wybodaeth hon wedi’u cynnwys yng nghanllaw sefydlu Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2027, a roddir i gysylltiadau darparwyr gan Ipsos. Mae’r canllawiau hefyd ar gael ar allrwyd Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr Ipsos ac maen nhw’n cynnwys gwybodaeth am weinyddu’r arolwg, cyfrifoldebau allweddol a dyddiadau.

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio