Cyhoeddiadau
Sta/Medr/04/2026: Addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol, Awst 2024 i Orffennaf 2025
26 Feb 2026
Main points
- Roedd 161,920 o ddysgwyr mewn addysg bellach, prentisiaethau neu dysgu cymunedol awdurdod lleol yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25.
- Cynyddodd nifer y dysgwyr addysg bellach amser llawn i lefel uwch nag erioed.
- Mae data dros dro ar gyfer chwarter cyntaf 2025/26 yn dangos bod y duedd o gynnydd wedi parhau.
- Mae nifer y dysgwyr rhan-amser wedi lleihau, am y tro cyntaf ers 4 blynedd.
- Roedd nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd ar y lefel isaf ers i’r ystadegau hyn ddechrau.
- Mae’r niferoedd ar gyfer dysgu cymunedol awdurdod lleol yn uwch nag yr oeddent cyn y pandemig.
- Mae addysg bellach amser llawn lefel 2 wedi bod yn cynyddu’n gyson.
- Mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n ymgymryd â gweithgareddau sy’n cynnwys ‘cryn dipyn’ o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu.
- Mae dysgwyr sy’n dilyn cwrs addysg bellach, prentisiaeth, a dysgu cymunedol yn fwy tebygol o fyw mewn cymdogaethau amddifadus.
- Mae gan 1 o bob 6 dysgwr anhawster dysgu neu anabledd, sef y mwyaf ers i’r ystadegau hyn ddechrau
- Mae dysgwyr yn fwy amrywiol na phoblogaeth Cymru.
Dysgwyr yn ôl math o ddysgu a darparydd
Ffigur 1: Awst 2024 i Orffennaf 2025
Disgrifiad: Roedd 127,530 o ddysgwyr mewn colegau. Roedd yna 46,140 o brentisiaid, wedi’u rhannu rhwng colegau a darparwyr hyfforddiant eraill.
[Nodyn 1]: Bydd rhai dysgwyr wedi astudio gyda sawl math o ddarparydd.
Mae addysg bellach yn cynnwys dysgwyr sy’n astudio Safon Uwch a chymwysterau cyffredinol eraill, yn ogystal â dysgwyr sy’n astudio cymwysterau galwedigaethol (er enghraifft cymwysterau BTEC).
Mae dysgu cymunedol awdurdod lleol yn gweithgareddau dysgu cymunedol a ariennir gan Medr ac a gynhelir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol.
Sta/Medr/04/2026: Addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol, Awst 2024 i Orffennaf 2025
Ystadegau swyddogol
Cyfeirnod: Sta/Medr/04/2026
Dyddiad: 26 Chwefror 2026
Crynodeb: Ystadegau ar nifer y dysgwyr, y rhaglenni a’r gweithgareddau a gyflawnir mewn colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a darpariaeth dysgu cymunedol awdurdodau lleol.
Thema: Addysg bellach, prentisiaethau, dysgu cymunedol
Sta/Medr/04/2026 Addysg bellach, prentisiaethau a dysgu cymunedol, Awst 2024 i Orffennaf 2025Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio