Cyhoeddiadau
Medr/2026/26: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch yn 2026/27
23 Jun 2026
Cyflwyniad
1. Mae Medr yn paratoi am ddiweddariad canol tymor o’r Fframwaith strategol Digidol 2030 ar gyfer dysgu digidol, ac rydym yn datblygu ein sylfaen dystiolaeth ar anghenion a blaenoriaethau dysgu digidol yn sail ar gyfer ein hymdriniaeth â dysgu digidol yn y sector trydyddol yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Jisc i gael dealltwriaeth well o’r sefyllfa, yr anghenion a’r blaenoriaethau cyfredol o ran dysgu digidol yn y sectorau addysg bellach ac uwch, ac wrth ddarparu prentisiaethau.
Addysg bellach
2. Mae Jisc eisoes wedi ymgysylltu â sefydliadau addysg bellach, Colegau Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gynhyrchu canfyddiadau i Medr ar anghenion a blaenoriaethau cyfredol mewn addysg bellach. Rydym wedi dechrau ymgorffori canfyddiadau o’r darn hwn o waith, yn enwedig o amgylch y thema seilwaith digidol, yn ein dull o ddarparu cyllid cyfalaf digidol i sefydliadau addysg bellach (Medr/2026/18).
3. Mae’r meini prawf ar gyfer gwariant refeniw a nodir yn y cyhoeddiad hwn hefyd yn adlewyrchu’r themâu canlynol a godwyd gan sefydliadau addysg bellach:
- Deallusrwydd Artiffisial
- Gwella aeddfedrwydd data
- Annog dulliau cydweithredol
Addysg uwch
4. Mae ymgysylltu pellach â sefydliadau addysg uwch, Prifysgolion Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghylch anghenion a blaenoriaethau cyfredol ym maes dysgu digidol mewn addysg uwch wedi’i drefnu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
5. Yn y cyfamser, rydym wedi parhau i ymgorffori themâu allweddol o’r sector addysg uwch a adlewyrchwyd mewn meini prawf cyllido refeniw blaenorol (Medr/2025/15):
- Deallusrwydd Artiffisial
- Trawsnewid Digidol a datblygu ymagweddau strategol at ddysgu digidol
- Defnydd a rheolaeth effeithiol ar ddata
Wrth edrych ymlaen
6. Ar gyfer y blynyddoedd i ddod, bydd canfyddiadau a themâu o’r dystiolaeth a gesglir gennym yn cael eu hystyried gan Medr, ynghyd ag adborth o’r sector, yn sail ar gyfer ein penderfyniadau ynghylch dyraniadau cyllid digidol yn y dyfodol. Rydym yn ymwybodol y gallai rhai prosiectau a ariannwyd o dan Gronfa Datblygu Strategol Ôl-16 Medr yn 2025/26 (Medr/2026/03) hefyd gynhyrchu canfyddiadau ac allbynnau perthnasol.
| Ameseru | Carreg filltir neu weithredu |
|---|---|
| 11 Tachwedd 2026 | Pob sefydliad i roi amlinelliad cryno o’r defnydd a fwriedir o’r cyllid (Atodiad A) |
| c. 20 Ionawr 2027 | Ar ôl derbyn Atodiad A, bydd taliad interim yn cael ei brosesu ym mis Ionawr |
| 15 Gorffennaf 2027 | Bydd yn ofynnol adrodd ar wariant diwedd blwyddyn (Atodiad B i’w ychwanegu ar ddechrau 2027) |
| c. 20 Awst 2027 | Ar ôl derbyn Atodiad B, bydd y taliad terfynol yn cael ei brosesu ym mis Awst |
Medr/2026/26: Cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch yn 2026/27
Dyddiad: 23 Mehefin 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/26
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Benaethiaid sefydliadau addysg bellach
Ymateb erbyn: 11 Tachwedd 2026
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dyraniadau cyllid refeniw digidol ar gyfer sefydliadau addysg bellach ac uwch, yn rhoi canllawiau ar ddefnyddio’r cyllid ac yn nodi’r gofynion o ran adrodd a thystiolaeth.
Dyrannwyd £32,500 i bob sefydliad a restrir yn y cyhoeddiad hwn.
Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio