This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Sta/Medr/04/2025: Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025

Crynodeb

Mae’r dadansoddiad hwn yn adeiladu ar yr hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol fel rhan o erthygl ystadegol Llywodraeth Cymru ‘Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (Covid-19): Awst 2020 i Orffennaf 2021‘. Ei nod yw darparu darlun wedi’i ddiweddaru o ddilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol.

Mae’r carfannau Blwyddyn 11 yn y dadansoddiad hwn yn seiliedig ar yr holl ddysgwyr a oedd wedi eu cofrestru ym Mlwyddyn 11 mewn ysgolion uwchradd, canol ac arbennig a gynhelir yng Nghymru.

Y cyrchfannau addysg drydyddol a gaiff eu hystyried yn y dadansoddiad hwn yw darpariaeth a gyllidir yn gyhoeddus yn y chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir, mewn colegau addysg bellach (heb gynnwys dysgu oedolion yn y gymuned) ac mewn darparwyr dysgu seiliedig-ar-waith yng Nghymru. Hefyd wedi eu cynnwys mae dysgu ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir a rhaglenni cyflogadwyedd Twf Swyddi Cymru+ / Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru.

Nid yw’r dadansoddiad hwn yn cynnwys cyrchfannau trydyddol mewn ysgolion annibynnol, darparwyr dysgu annibynnol neu arbenigol eraill, addysg drydyddol y tu allan i Gymru nac unrhyw ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) ôl-16 arall.

Prif bwyntiau
  • Roedd cyfran dros dro’r dysgwyr a aeth ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol yn 90% yn 2024/25, a hithau’n ddigyfnewid ers y tair blynedd flaenorol.
  • Mae nifer y dysgwyr sy’n mynd ymlaen wedi cynyddu’n gyson ers 2018/19.
  • O’r dysgwyr a aeth ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol:
    • Mae cyfran gynyddol yn mynd ymlaen i golegau addysg bellach, gyda gostyngiad cyfatebol yn y rhai sy’n mynd ymlaen i unedau chweched dosbarth.
    • Bu gostyngiadau diweddar yng nghyfran y dysgwyr sy’n astudio ar lefel 3 (gan gynnwys safon Uwch Gyfrannol)..
  • Ceir gwahaniaethau mewn dilyniant rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr. Roedd y gyfran a aeth ymlaen yn uwch ar gyfer dysgwyr sydd:
    • Yn fenywaidd
    • Yn byw yn y cymdogaethau lleiaf amddifadus
    • Ddim yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim
    • Ddim yn cael mynediad at ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol
    • O grwpiau ethnig Asiaidd, Asiaidd Prydeinig, Asiaidd Cymreig
    • Yn gymwys neu’n rhugl ar ôl caffael Saesneg fel iaith ychwanegol
    • Yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mlwyddyn 11, neu’n rhugl yn y Gymraeg.
  • Roedd amrywiad sylweddol yn y math o ddarpariaeth a lefel y ddarpariaeth addysg drydyddol rhwng gwahanol grwpiau o ddysgwyr ac yn ddaearyddol.

Gallwch ddod o hyd i’r data llawn yn y PDF Sta/Medr/04/2025.

Ansawdd a methodoleg

Ffynonellau data

Y ffynonellau data a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn yw:

  • Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD): casgliad electronig o ddata ar lefel disgyblion ac ysgolion a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan yr holl ysgolion cynradd, canol, uwchradd, meithrin ac arbennig yn y sector a gynhelir. Cesglir y data yn seiliedig ar ddyddiad cyfrifiad ym mis Ionawr.
  • Casgliad Data Ôl-16: bob hydref, mae’n ofynnol i’r holl ysgolion a gynhelir sydd â chweched dosbarth adrodd ar yr holl raglenni a gweithgareddau dysgu a gyflawnwyd gan ddisgyblion yn y flwyddyn academaidd flaenorol.
  • Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR): data ar addysg bellach, dysgu seiliedig-ar-waith a dysgu oedolion yn y gymuned. Fe’i cesglir ar sail ‘dreigl’ trwy gydol y flwyddyn gyda dyddiadau cau ystadegol rheolaidd. Hon yw’r ffynhonnell ystadegau swyddogol yng Nghymru ar gyfer y sectorau hyn.
  • Casgliad data gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion: fe ddechreuwyd casglu data wythnosol a echdynnir yn uniongyrchol o systemau gwybodaeth reoli ysgolion yn hydref 2020. Cesglir y data gan yr holl ysgolion meithrin, cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir ac unrhyw unedau cyfeirio disgyblion sydd â systemau gwybodaeth reoli o’r fath ac sy’n mynd ati’n rheolaidd i gofnodi eu gwybodaeth yn electronig.

Methodoleg

Y prif newidiadau i’r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad a gyhoeddwyd yn flaenorol yn erthygl ystadegol Llywodraeth Cymru ‘Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (Covid-19): Awst 2020 i Orffennaf 2021‘ yw:

  • Ar gyfer blynyddoedd academaidd 2022/23 a blaenorol, defnyddir setiau data terfynol i adnabod cyrchfannau addysg drydyddol yn hytrach na setiau data yn ystod y flwyddyn a allai newid ymhellach.
  • Defnyddir y Casgliad Data Ôl-16 ar gyfer chweched dosbarth mewn ysgolion hyd y gellir, gan ddarparu gwybodaeth am y math o raglen ddysgu sy’n cael ei hastudio. Defnyddir gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion ar gyfer 2023/24 a 2024/25 gan nad yw’r Casgliad Data Ôl-16 ar gael ar gyfer y blynyddoedd hyn eto.
  • Adroddir ar gyrchfannau dysgu ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir.

Diffinnir carfannau blwyddyn 11 fel unrhyw ddysgwr ar y gofrestr mewn ysgol uwchradd, ganol neu arbennig a gynhelir yng Nghymru ar ddyddiad y cyfrifiad CYBLD.

Ar gyfer blynyddoedd academaidd 2017/18 i 2022/23, defnyddir y Casgliad Data Ôl-16 a LLWR i adnabod rhaglenni astudio addysg drydyddol a oedd yn weithredol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae rhaglenni sydd wedi eu cynnwys yn y dadansoddiad hwn yn cynnwys y dysgu canlynol a gyllidir yn gyhoeddus:

  • Unrhyw raglen astudio yn y chweched dosbarth mewn ysgolion.
  • Addysg bellach a wneir mewn colegau addysg bellach.
  • Dysgu seiliedig-ar-waith, a wneir naill ai mewn colegau addysg bellach neu ddarparwyr hyfforddiant preifat gan gynnwys prentisiaethau, Twf Swyddi Cymru+ a hyfforddeiaethau.

Defnyddir data CYBLD hefyd i adnabod unrhyw ddysgwyr sy’n gwneud darpariaeth ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir.

Ar gyfer blynyddoedd academaidd 2023/24 a 2024/25, defnyddir data LLWR fel uchod. Nid yw’r Casgliad Data Ol-16 ar gael ar gyfer y blynyddoedd yma ar hyn o bryd, felly defnyddir gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion i adnabod dysgwyr yn y chweched dosbarth mewn ysgolion ac sy’n gwneud darpariaeth ôl-16 mewn ysgolion arbennig a gynhelir. Ceir nifer o gyfyngiadau o ganlyniad i ddefnyddio’r wybodaeth reoli hon.

Yn seiliedig ar gymariaethau ar gyfer blynyddoedd academaidd 2021/22 a 2022/23, mae’r wybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion yn goramcangyfrif dilyniant ar y cyfan o oddeutu hanner pwynt canran o’i gymharu â’r Casgliad Data Ôl-16. Mae hefyd yn achosi goramcangyfrifon yng nghyfran y dysgwyr sy’n newid eu rhaglen addysg drydyddol ac yn gadael eu rhaglen addysg drydyddol heb ei chwblhau.

O’r dysgwyr a aeth ymlaen, caiff y cyfrannau sy’n mynychu unedau chweched dosbarth eu goramcangyfrif o 1.5 i 3 phwynt canran, gyda thanamcangyfrif yn y cyfrannau sy’n mynychu colegau AB.

Wedyn mae carfannau Blwyddyn 11 yn cael eu cysylltu â’r amryw setiau data sy’n cynnwys gwybodaeth am addysg drydyddol – i ddechrau am y Nifer Disgyblion Unigryw a Niferoedd Dysgwyr Unigryw, gyda chysylltedd pellach â chofnodion heb eu paru yn seiliedig ar enwau a dyddiadau geni.

Cyfyngiadau

Mae ffigyrau ar gyfer 2024/25 yn rhai dros dro gan eu bod yn seiliedig ar ddata yn ystod y flwyddyn. Tynnwyd data rhaglenni astudio addysg drydyddol o ddyddiad cau ystadegol mis Ionawr 2025 ar gyfer LLWR. Efallai na fydd y data’n rhoi adlewyrchiad llawn o’r holl ddysgu hyd at yr adeg y cymerwyd y data ac fe allai newid yn y dyfodol. Nid yw data ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd wedi ei gynnwys, a allai effeithio ar ystadegau ar gyfer 2024/25. Gall nifer gymharol fach o ddysgwyr ddechrau eu rhaglen astudio addysg drydyddol gyntaf ar ôl mis Ionawr, yn fwyaf cyffredin mewn dysgu seiliedig-ar-waith.

Ar gyfer 2024/25, mae gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion ar gael hyd at ddiwedd tymor y gaeaf.

Mae ffigyrau ar gyfer 2023/24 yn rhai dros dro hefyd gan y bydd y Casgliad Data Ôl-16 yn disodli’r wybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion unwaith y bydd ar gael.

Nid yw’r wybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion wedi bod trwy’r un lefel o broses sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol achrededig ac fe allai’r data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Nid yw’n darparu unrhyw wybodaeth am raglen astudio’r dysgwr.

Nid yw’r dadansoddiad hwn yn cynnwys cyrchfannau addysg drydyddol y tu allan i Gymru, nac unrhyw addysg drydyddol annibynnol nac arbenigol. Mae’n debygol yr effeithir ar gyfran y dysgwyr sy’n mynd ymlaen o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol mewn awdurdodau lleol sy’n ffinio â Lloegr (Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy).

Diffiniadau

Mae’r cyrchfannau addysg drydyddol yr adroddir arnynt yn y dadansoddiad hwn yn seiliedig ar y rhaglen astudio gyntaf a wnaed gan y dysgwr. Wrth adnabod rhaglen gyntaf dysgwr caiff y rhaglenni canlynol eu blaenoriaethu dros raglenni AB eraill: Safon UG, Safon U2, galwedigaethol, prentisiaethau a Twf Swyddi Cymru+/hyfforddeiaethau. Y rhaglenni mwyaf cyffredin y cânt eu blaenoriaethu drostynt yw cymwysterau TGAU sy’n aml yn cael eu cymryd fel cyrsiau atodol.

Dim ond cofrestriad i’r flwyddyn academaidd yn union ar ôl Blwyddyn 11 a gynhwysir. Nid yw dysgwyr a ddechreuodd addysg drydyddol mewn blwyddyn academaidd hwyrach yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad hwn.

Lle defnyddir gwybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion, ystyrir bod dysgwyr yn dal wedi eu cofrestru mewn addysg drydyddol os oes ganddynt gofnod presenoldeb neu absenoldeb awdurdodedig o fewn 2 wythnos i’r dyddiadau canlynol:

  • 31 Mai 2024 ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, gan bod y data presenoldeb yn dod yn fwy annibynadwy yn ystod cyfnod arholiadau’r haf.
  • 20 Rhagfyr 2024 ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, data terfynol tymor y gaeaf gan mai dim ond ar gyfer rhan o’r flwyddyn academaidd y mae data ar gael.

Cymerir y set ddata presenoldeb mewn ysgolion yn uniongyrchol o Systemau Gwybodaeth Reoli ysgolion. Mewn rhai achosion mae dysgwyr i’w gweld fel pe bai eu cofrestriad wedi cael ei dreiglo’n awtomatig o Flwyddyn 11 i mewn i Flwyddyn 12 pan nad felly yr oedd hi. Oherwydd hyn nid yw dysgwr yn cael ei restru fel un a gofrestrwyd dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os nad oedd wedi ei restru fel dysgwr wedi ei gofrestru ar ôl 6 Medi,
  • ac os nad oedd wedi mynychu’r ysgol neu wedi bod ag absenoldeb cydnabyddedig penodol cyn 6 Medi,
  • ac os mai yn yr un ysgol y cafodd ei gofrestru ym Mlwyddyn 11.

Mae’r holl ddadansoddi yn ôl nodweddion yn seiliedig ar y rhai a gofnodwyd ar gyfer y dysgwr fel rhan o’i gofnod CYBLD Blwyddyn 11.

Mae degradd amddifadedd cymdogaeth gartref y dysgwr yn seiliedig ar y prif fynegai ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019.

Mae cyrchfannau trydyddol ‘safon UG’ yma’n cynnwys rhaglenni safon UG a rhaglenni cyfwerth â safon UG. Mae rhaglenni cyfwerth â safon UG yn cynnwys cymysgedd o gymwysterau safon UG a galwedigaethol, er enghraifft 2 gymhwyster safon UG a Thystysgrif Genedlaethol BTEC.

Talgrynnu a pheidio â dangos

Mae’r holl ffigyrau wedi eu talgrynnu i’r 5 agosaf. Ni ddangosir niferoedd sy’n llai na 5. Mae canrannau wedi eu talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf. Ni ddangosir canrannau sy’n seiliedig ar enwadur sy’n llai na 23.

Cyfrifir gwahaniaethau rhwng gwerthoedd gan ddefnyddio gwerthoedd heb eu talgrynnu, felly gall fod anghysonderau bychain pan gânt eu cymharu â’r ffigyrau wedi eu talgrynnu.

Datganiad cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein harfer ystadegol ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy’n pennu’r safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai’r holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol ymlynu wrtho.

Caiff ein holl ystadegau ni eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Caiff y rhain eu nodi yn ein Datganiad Cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae croeso i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol gydag unrhyw sylwadau ynglŷn â sut yr ydym yn cyrraedd y safonau hyn.

Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR trwy anfon neges e-bost i [email protected] neu drwy wefan OSR.

Dibynadwyedd

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn unol â’n Datganiad Cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a’n polisi ar weld ystadegau swyddogol cyn eu rhyddhau.

Ansawdd

Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn wedi cael eu cynhyrchu i raddau helaeth o fersiynau terfynol o ffynonellau data gweinyddol cydnabyddedig a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau swyddogol ar addysg yng Nghymru. Ategwyd y rhain gan wybodaeth reoli wythnosol am bresenoldeb mewn ysgolion i ddarparu’r amcangyfrifon diweddaraf o ddilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol (ar gyfer blynyddoedd academaidd 2023/24 a 2024/25). Mae cyfyngiadau defnyddio’r wybodaeth reoli hon wedi cael eu hegluro ac mae’r amcangyfrifon hyn wedi cael eu nodi fel rhai dros dro.

Gwerth

Mae’r ystadegau swyddogol hyn sydd wrthi’n cael eu datblygu wedi eu bwriadu i gydymffurfio â’r Cod hyd y bo’n bosibl. Fe’u cynhyrchwyd yn gyflym mewn ymateb i alwadau am ddadansoddiad gwell o gyfranogiad mewn addysg drydyddol yng Nghymru.

Fe’u labelir yn ‘ystadegau swyddogol sydd wrthi’n cael eu datblygu’ i brofi a ydynt yn diwallu anghenion defnyddwyr i adlewyrchu’r ffaith nad yw’r fethodoleg yn benodedig ac y gellid ei datblygu ymhellach yn seiliedig ar adborth defnyddwyr. Byddem yn croesawu unrhyw sylw am ddefnyddioldeb yr ystadegau hyn. Cysylltwch â [email protected].

Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/04/2025

Dyddiad: 25 Chwefror 2025

Crynodeb: Dadansoddiad o gyrchfannau dysgwyr ar ôl gadael Blwyddyn 11, gyda dadansoddiadau yn ôl y math o addysg drydyddol, lefel astudio a nodweddion dysgwyr.

Sta/Medr/04/2025 Dilyniant o Flwyddyn 11 i addysg drydyddol, Awst 2017 i Ionawr 2025

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio