This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Ymatebion i ymgynghoriadau

Adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

Adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16

Cynhaliodd Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16. Fe gyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Ysgrifenedig yn Tachwedd 2025.

Ymateb gan Medr: 27 Ionawr 2026

Mae Medr yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16. Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd ar 12 Tachwedd 2025, yn cynnwys 16 o argymhellion. Rydym yn derbyn y canfyddiadau a’r argymhellion fel y maent yn berthnasol i Medr.

Yn rhinwedd ei rôl fel stiward cenedlaethol addysg a hyfforddiant drydyddol yng Nghymru, mae Medr yn ymrwymedig i ddatblygu system addysg drydyddol lle y gall pawb ddysgu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas sy’n newid. Rydym yn cydnabod y bydd llwybrau dysgu cydlynus y mae’n hawdd ymdrin â hwy a hyblygrwydd gwell yn hwyluso cyfranogiad a chyfraddau cadw uwch ac yn rhoi mwy o fynediad i ddysgwyr at gyfleoedd sy’n eu galluogi i ffynnu.

Mae creu Medr, a’r ymrwymiadau rydym wedi’u nodi yn ein Cynllun Strategol, yn cyfrannu at wneud llwybrau dysgwyr yn symlach ac yn fwy hyblyg. Mae Dyletswydd Strategol ar Medr i hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu cyfranogiad ym mhob rhan o’r sector ôl-16, gan gynnwys addysg bellach, prentisiaethau, dysgu oedolion a’r gymuned, addysg uwch, a dysgu seiliedig ar waith. Oherwydd y cylch gwaith eang hwn, mae Medr yn rhan ganolog o’r ymdrechion i gyflawni uchelgeisiau’r adroddiad i greu sector ôl-16 cydlynol a chydweithredol sy’n annog dysgwyr i gael addysg a meithrin sgiliau drwy ba bynnag lwybrau addysgol sy’n iawn iddyn nhw. Byddwn yn gwneud hynny drwy gysoni ein fframweithiau rheoleiddio a chyllido, a byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ym mhob rhan o’r sector ôl-16 i greu sector lle y gall dysgwyr symud yn hyderus rhwng llwybrau a manteisio ar gyfleoedd dysgu o ansawdd da.

Yn ein rôl i oruchwylio system addysg drydyddol gydgysylltiedig, rydym yn ymrwymedig i feithrin dealltwriaeth o ymddygiad a phenderfyniadau dysgwyr, gan gynnwys drwy ddefnyddio data’n effeithiol, er mwyn i ni allu adnabod y ffactorau sy’n ysgogi dewisiadau dysgwyr a datblygu dirnadaeth gadarn o deithiau dysgwyr ym mhob rhan o’r system. Rydym eisoes yn gwneud gwelliannau i ehangder ac amseroldeb y data a gyhoeddir gennym a, thrwy ein Cynlluniau Strategol a Gweithredol, rydym wedi ymrwymo i atgyfnerthu’r sylfaen dystiolaeth sy’n sail i waith datblygu polisïau a stiwardio’r system. Yr hyn sydd wrth wraidd y gwaith hwn yw ein hymrwymiad i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol er mwyn gwella ehangder ac amseroldeb data ymhellach, gan sicrhau eu bod yn cefnogi system addysg drydyddol sy’n fwy cydlynol, yn fwy ymatebol, ac yn canolbwyntio’n fwy ar y dysgwr.

Mae’r ymateb hwn yn amlinellu’r camau rydym wrthi’n eu cymryd, neu’n bwriadu eu cymryd, er mwyn mynd i’r afael â’r canfyddiadau mewn perthynas â data, cyllid a diwygio polisïau, ac yn nodi ein cyfraniadau at yr argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru lle y gellir disgwyl i Medr gyflawni rôl.

Ymateb Medr i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16'

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio