Cyhoeddiadau
Sta/Medr/02/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2025 (dros dro)
19 Feb 2026
Pwyntiau allweddol
Ystadegau Swyddogol a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2026. Ceir y diweddariad nesaf ym mis Mai 2026.
- Yn 2024/25, dechreuwyd 18,850 o raglenni dysgu prentisiaeth. Roedd hyn yn gostwng 13% o’r 21,625 raglenni a ddechreuwyd yn 2023/24. Yn 2024/25 y dechreuwyd y nifer lleiaf o brentisiaethau ers i’r ystadegau hyn ddechrau yn 2012/13.
- Dechreuodd 7,385 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch1 2025/26 (p), o gymharu â 7,250 yn Ch1 2024/25.
- Ymhlith y prentisiaethau uwch y gwelwyd y cynydd mwyaf o gymharu â Ch1 y flwyddyn gynt, sy’n cynyddu o 22% (p).
- Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch1 2025/26 (p) hefo 2,400 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 32% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Roedd 52% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr gwrywaidd yn Ch1 2025/26 (p), roedd hyn dim wedi gostwng 2 pwynt canran o gymharu â Ch1 2024/25.
- Roedd 33% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr iau nag 19 oed yn Ch1 2025/26 (p) o gymharu â 35% yn Ch1 y flwyddyn gynt.
- Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch1 2025/26 (p), dim newid o Ch1 2024/25
- Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau yn Ch1 2025/26 (p) gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, roedd hyn wedi cynyddu 1 pwynt canran o gymharu â Ch1 2024/25.
- Roedd 10% o’r dysgwyr a ddechreuodd raglenni dysgu prentisiaeth yn ddysgwyr sy’n byw yn y 10% o gymdogaethau â’r mwyaf o amddifadedd yng Nghymru yn 2025/26 Ch1 (p).
- Mae 88,455 o brentisiaethau wedi’u dechrau rhwng Mai 2021 ac Hydref 2025, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau. Gan gynnwys y dysgwyr a ddechreuodd raglenni na chânt eu cyfrif fel rhan o’r mesur mwy trwyadl ar gyfer y targed, dechreuodd gyfanswm o 97,355 o ddysgwyr brentisiaethau yn ystod y cyfnod.
- Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Roedd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y flwyddyn ariannol 2023-24 yn £139m ac yn £144m yn 2024-25 (Ffynhonnell: Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026).). Yn ystod blynyddoedd blaenorol, roedd cyllid ychwanegol ar gyfer prentisiaethau o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (£43m yn 2023-24 Dyraniadau cyllid Medr 2025 i 2026). Fe ddaeth hyn i ben erbyn y flwyddyn ariannol 2024-2025.
Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiolGwybodaeth reoli
Gwybodaeth reoli a gyhoeddwyd ar 30 Ebrill. Ceir y diweddariad nesaf ar 28 Mai.
Mae gan Medr fynediad at wybodaeth reoli fwy diweddar, nad yw wedi cael ei dilysu na’i gwirio o ran ansawdd, i’r un graddau â’r ystadegau swyddogol yn yr adroddiad hwn.
Yn ôl y wybodaeth reoli ar 23 Ebrill 2026:
- Cafwyd 95,870 o ddechreuadau prentisiaeth ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r mesur llymach o gynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 100,000 o brentisiaethau yng nghyfnod y Senedd.
- O gynnwys y dechreuadau nad ydynt wedi’u cyfrif yn rhan o fesur llymach y targed, cafwyd cyfanswm o 104,895 o ddechreuadau prentisiaeth dros y cyfnod hwnnw o amser.
- Gwnaeth cyfanswm nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd yn ystod cyfnod y Senedd groesi 100,000 ym mis Ionawr 2026. Gwnaeth nifer y prentisiaethau a ddechreuwyd ar gyfer y mesur targed mwy trwyadl aros islaw 100,000.
I ddibenion y mesur hwn ac i gyd-fynd â’r cyfnodau adrodd chwarterol ar gyfer yr ystadegau hyn, rydym yn ystyried bod cyfnod y Senedd yn rhychwantu Ch4 2020/21 i Ch3 2025/26 (1 Mai 2021 i 30 Ebrill 2026).
Mae’r mesurau hyn yn cynnwys gradd-brentisiaethau. Daw’r data ar radd-brentisiaethau o gasgliad data gwahanol, sydd ar gael bob blwyddyn. Cafodd y diweddariad diwethaf i’r data ar radd-brentisiaethau ei wneud ar 29 Ionawr ac roedd yn cynnwys data ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.Bydd gwybodaeth am radd-brentisiaethau a ddechreuodd yn ystod tri chwarter cyntaf blwyddyn academaidd 2025/26 ar gael ym mis Ionawr 2027. Roedd 480 o radd-brentisiaethau yn 2024/25 fel rhan o’r mesur targed, a dechreuwyd cyfanswm o 485.
Cyfanswm y dechreuadau prentisiaeth yng nghyfnod y Senedd
Ffigur 1: Gwybodaeth reoli ar 23 Ebrill 2026
Disgrifiad: Dechreuwyd llai ym mis Rhagfyr 2025 na’r misoedd eraill. Mae hyn yn nodweddiadol.
Mae gan ddarparwyr gyfnod o 8 wythnos i gofnodi bod prentis yn dechrau. Ni fydd yr wybodaeth reoli hon yn cynnwys yr holl brentisiaid sydd wedi dechrau yn y cyfnod dan sylw.
Mae’n cymryd amser hefyd i ganfod a yw prentis yn anghymwys ar gyfer y mesur llymach, sy’n eithrio prentisiaid sy’n tynnu’n ôl yn yr 8 wythnos gyntaf a rhai sy’n trosglwyddo allan o’i rhaglen.
Bydd darparwyr yn newid eu cofnodion yn barhaus i sicrhau cywirdeb. Mae’r sefyllfa derfynol ar gyfer ystadegau swyddogol yn seiliedig ar y cofnod fel y mae ym mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd.
Wrth inni ddod at ddiwedd cyfnod y Senedd, rydym yn bwriadu rhoi diweddariadau misol o wybodaeth reoli ar gynnydd tuag at y targed o 100,000 o brentisiaethau.
Dyma’r amserlen ar gyfer y diweddariadau:
| Dyddiad yr wybodaeth reoli | Dyddiad cyhoeddi |
|---|---|
| 18 Rhagfyr 2025 | 8 Ionawr 2026 |
| 22 Ionawr 2026 | 29 Ionawr 2026 |
| 19 Chwefror 2026 | 26 Chwefror 2026 |
| 19 Mawrth 2026 | 26 Mawrth 2026 |
| 23 Ebrill 2026 | 30 Ebrill 2026 |
| 21 Mai 2026 | 28 Mai 2026 |
| 18 Mehefin 2026 | 25 Mehefin 2026 |
Cesglir yr wybodaeth reoli ar y dydd Iau yn nhrydedd wythnos lawn y mis. Dylai’r ffigurau a adroddir ym mis Mehefin roi syniad rhesymol o’r ffigurau terfynol dros gyfnod y Senedd, er na fydd gennym ddarlun llawn o’r rhai a dynnodd yn ôl, tan y caiff y data terfynol ei gyhoeddi.
Bydd fersiwn ddiweddaraf yr adroddiad hwn yn cynnwys y diweddariadau, ac fe’u cyhoeddir ar ein calendr cyhoeddi ystadegau. Mae’r adroddiad nesaf ar raglenni dysgu Prentisiaeth wedi’i drefnu ar gyfer mis Chwefror 2026, a bydd yn cynnwys data hyd at fis Hydref 2025.
Bydd sefyllfa derfynol y targed prentisiaethau, yn ôl yr ystadegau swyddogol â sicrwydd ansawdd, yn cael ei hadrodd yn yr adroddiad ar Raglenni dysgu prentisiaeth sydd wedi’i amserlennu i’w gyhoeddi yng Ngwanwyn 2027.
Mae’r nifer o radd-brentisiaethau ar gyfer 2023/24 wedi cael eu hadolygu o 385 i 360 oherwydd bod rhai cyrsiau wedi cael eu cofnodi’n anghywir fel gradd-brentisiaethau. Cafodd y dechreuadau gradd sy’n cyfri tuag at fesur y targed llymach eu hadolygu o 385 i 355.
Sta/Medr/02/2026: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2025 (dros dro)
Ystadegau swyddogol
Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/02/2026
Dyddiad: 19 Chwefror 2026 (wedi’i ddiweddaru 30 Ebrill 2026)
Crynodeb: Ystadegau ar rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd. Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.
Nodyn: Mae ffigurau gyda (p) yn dros dro.
Sta/Medr/02/2026 Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Awst i Hydref 2025 (dros dro) v4Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio