Cyhoeddiadau
Sta/Medr/17/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch, 2023/24
27 Nov 2025
Cyflwyniad
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi rhai o’r tueddiadau allweddol ynglŷn ag astudio yn y Gymraeg a gallu myfyrwyr yn y Gymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ar gyfer staff mewn prifysgolion yng Nghymru. Drwy’r adroddiad pan ydym yn cyfeirio at astudio yn Gymraeg, astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a olygir gennym yn hytrach nag astudio Cymraeg fel pwnc.
Ffynonellau’r data yw cofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Mae’r data ar gael mewn taenlen sy’n cyd-fynd â’r adroddiad. Mae dadansoddiadau pellach o’r data ar gael ar StatsCymru hefyd.
Prif bwyntiau
- Yn 2023/24, roedd yn hysbys bod 13% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru’n rhai gan siaradwyr Cymraeg rhugl. Roedd 15% pellach yn siaradwyr Cymraeg nad oeddent yn rhugl neu’n siaradwyr Cymraeg â gallu anhysbys.
- Yn 2023/24, fe wnaeth 30% o’r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg, ac fe wnaeth 21% astudio o leiaf 40 o gredydau yn Gymraeg. Mae’r cyfrannau hyn wedi bod ar yr un lefelau fwy neu lai ers 2017/18.
- Roedd 4% o’r cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai nad ydynt o Gymru ac nad yw’n hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg, yn cynnwys astudio o leiaf 1 credyd yn Gymraeg yn 2023/24.
- Fe wnaeth nifer y cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr ag o leiaf 1 credyd a astudiwyd yn Gymraeg yn 2023/24 ostwng 19% o’i gymharu â 2022/23, a dyma oedd y nifer isaf yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae un o’r ffactor arwyddocaol yn y gostyngiad hwn yn gysylltiedig â newid yn sut y mae faint o astudio a wneir yn Gymraeg yn cael ei gyfrifo mewn rhai darparwyr yn hytrach na newid go iawn yn yr hyn a ddarparwyd.
- Roedd mwy na dwywaith cymaint o gofrestriadau gan fyfyrwyr benywaidd lle cafodd o leiaf 1 credyd ei astudio yn Gymraeg o’i gymharu â chofrestriadau gan fyfyrwyr gwrywaidd. O’r cofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg, roedd myfyrwyr benywaidd hefyd yn fwy tebygol o astudio nifer uwch o gredydau yn Gymraeg na myfyrwyr gwrywaidd.
- Addysg a hyfforddiant oedd y pwnc modiwl â’r nifer a’r gyfran uchaf o gofrestriadau ag o leiaf 1 credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg.
- Roedd 565 o staff addysgu academaidd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg yn 2023/24, yr un nifer ag yn 2022/23.
Sta/Medr/17/2025: Y Gymraeg mewn Addysg Uwch, 2023/24
Cyfeirnod: Sta/Medr/17/2025
Dyddiad: 27 Tachwedd 2025
Designation: Ystadegau Swyddogol
Crynodeb: Ystadegau ar nifer y cofrestriadau lle ceir rhywfaint o astudio yn y Gymraeg a gallu myfyrwyr i siarad Cymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru.
Ystadegau ar nifer y staff addysgu sy’n gallu addysgu yn Gymraeg, ac sydd wedi’u contractio i addysgu yn Gymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru.
Sta/Medr/17/2025 Y Gymraeg mewn Addysg Uwch 2023/24Dogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio