Newyddion
Prifysgolion yng Nghymru ymhlith y rhai sydd wedi mabwysiadu’r polisïau arfer gorau ar gwmnïau deillio
19 Nov 2024
Heddiw mae rhestr newydd yn cael ei rhyddhau o ddarparwyr addysg uwch yn y DU sydd wedi mynd ati’n wirfoddol i fabwysiadu’r polisïau arfer gorau ar gyfer cwmnïau deillio.
Mae’r rhestr, a luniwyd gan gyrff cyllido addysg uwch gwledydd y DU, yn cynnwys dau ddarparwr addysg uwch yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae hyn yn nodi blwyddyn ers cyhoeddi’r Adolygiad Annibynnol o Gwmnïau Deillio Prifysgolion gan Lywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2023.
Cwmnïau newydd a gaiff eu creu yn seiliedig ar eiddo deallusol – IP – a gynhyrchwyd trwy ymchwil mewn prifysgol yw cwmnïau deillio.
Mae arfer gorau’n annog darparwyr addysg uwch i fabwysiadu polisïau a chanllawiau sy’n hybu arloesi y gall prifysgolion, buddsoddwyr a chyllidwyr i gyd eu defnyddio.
Rhoi’r Adolygiad o Gwmnïau Deillio Ar Waith: Rhestr o’r prifysgolion sydd wedi mabwysiadu’r polisïau arfer gorau
Rhestr yw hon o’r darparwyr addysg uwch yn y DU sydd wedi mynd ati’n wirfoddol i fabwysiadu’r polisïau arfer gorau ar gyfer telerau bargeinion cwmnïau deillio a amlygwyd yn yr Adolygiad Annibynnol o Gwmnïau Deillio ym mis Tachwedd 2023.
Lluniwyd y rhestr gan Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon, Medr, Research England a Chyngor Cyllido’r Alban, yn seiliedig ar wybodaeth a gyflwynwyd gan sefydliadau.
Bydd y rhestr gyfunol hon yn cael ei diweddaru o bryd i’w gilydd; mae’r isod yn cynnwys darparwyr addysg uwch sydd wedi cadarnhau eu bod wedi mabwysiadu’r polisïau erbyn 1 Tachwedd 2024.
Cymru
Sefydliad / Dolen i’r datganiad mabwysiadu/polisïau |
---|
Prifysgol Caerdydd |
Prifysgol Abertawe |
Lloegr
Yr Alban
Sefydliad / Dolen i’r datganiad mabwysiadu/polisïau |
---|
Prifysgol Aberdeen |
Prifysgol Caeredin |
Prifysgol Glasgow |
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio