Newyddion
Adlewyrchu ehangder cylch gwaith Medr wrth iddo gyhoeddi ei Gynllun Gweithredol cyntaf
17 Jun 2025
Mae Medr, y corff sy’n cyllido ac yn rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru, wedi cyhoeddi ei Gynllun Gweithredol cyntaf.
Daw hyn ar ôl cyhoeddi ei Gynllun Strategol ym mis Mawrth 2025, a oedd yn amlinellu ei uchelgeisiau ar gyfer sector mwy cydgysylltiedig a chynhwysol.
Mae’r Cynllun Gweithredol, sy’n cwmpasu blwyddyn ariannol 2025-26, yn amlygu’r ystod o weithgareddau y bydd Medr yn eu cyflawni dros y misoedd nesaf i gefnogi cydraddoldeb, y Gymraeg a chyfranogiad. Mae hefyd yn amlinellu’r gweithgareddau allweddol a fydd yn gwella’r ffordd y caiff y sector addysg drydyddol yng Nghymru ei gyllido a’i reoleiddio, mewn cydweithrediad gyda darparwyr, partneriaid a rhanddeiliaid.
Maent yn cynnwys:
- Cefnogi sector addysg drydyddol ac ymchwil eangfrydig, diogel a chyfartal, y mae llesiant, ffyniant a llais dysgwyr yn ganolog iddo.
- Datblygu system reoleiddio a fframwaith ansawdd newydd a chadarn gan barhau i weithredu trefniadau presennol yn y cyfamser.
- Deall a datblygu’r sgiliau a’r ddarpariaeth y mae ar ddysgwyr a chymunedau eu hangen.
- Annog darparwyr arloesol a blaengar sy’n cefnogi eu staff a phartneriaethau cymdeithasol.
- Datblygu amgylcheddau ymchwil ac arloesi sy’n cael effaith fawr ac sy’n gefnogol.
- Datblygu cynllun Cymraeg cenedlaethol ar gyfer y sector addysg drydyddol ac ymchwil.
- Mynd ati ymhellach i wreiddio sylfaen data a thystiolaeth ar gyfer cynllunio a gwneud penderfyniadau ar draws Medr ac ar gyfer y sector.
- Cefnogi gweithlu effeithiol ac amrywiol o fewn Medr; a gwreiddio egwyddorion partneriaeth gymdeithasol.
Meddai Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr:
“Roedd ein Cynllun Strategol yn seiliedig ar ymrwymiadau sefydlu a thwf. Yn awr rydym wedi cymryd yr uchelgeisiau hynny a blaenoriaethu meysydd y mae arnom eisiau gwneud cynnydd cyflym a sylweddol ynddynt i gyflawni’r ymrwymiadau sefydlu hynny. Mae’r Cynllun Gweithredol yn dangos yr hyn y byddwn yn ei wneud i gyrraedd ein nodau.
“Rydym yn lansio ein Cynllun Gweithredol ar adeg allweddol o ran cryfhau ein dyletswyddau. Rydym newydd agor ein hymgynghoriad mawr cyntaf ar system newydd i reoleiddio darparwyr addysg drydyddol a hyfforddiant. Mae mewnbwn darparwyr a rhanddeiliaid yn hollbwysig i sicrhau system reoleiddio sy’n gwireddu’r uchelgeisiau hyn, ac rydym yn croesawu ac yn annog pob ymgysylltiad yn ystod y broses hon.
Cynllun Gweithredol Medr 2025-26“Eto, mae’r edefyn sy’n rhedeg trwy ein sefydliad yn dal i fod yr un fath: bod popeth a wnawn yn canolbwyntio ar ddysgwyr – yn eu holl amrywiaeth. Bydd y ffocws clir hwn yn ein helpu ni, ynghyd â darparwyr a phartneriaid eraill, i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer system addysg drydyddol ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, cymdeithas a’r economi, gyda rhagoriaeth, cydraddoldeb ac ymgysylltu’n ganolog iddi.”
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio