This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2026/23: Cais am ragolygon 2026

Cyflwyniad

1. Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch gyflwyno’r wybodaeth ganlynol:

  • Rhan 1 – Amcangyfrifon ariannol ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26 a rhagolygon ariannol ar gyfer 2026/27 i 2029/30
  • Sylwebaeth naratif i gyd-fynd â’r wybodaeth
  • Rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at 31 Gorffennaf 2027
  • Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26 a rhagolygon ar gyfer 2026/27 i 2029/30

Ceir canllawiau mwy manwl isod. Mae newidiadau nad ydynt yn fân newidiadau yn y cylchlythyr a’r templedi wedi’u dynodi yn y PDF gan destun porffor.

Mae copïau o’r ffurflenni sydd i’w cyflwyno wedi eu cynnwys yn yr atodiadau wrth y cylchlythyr hwn, ynghyd â rhagor o wybodaeth dechnegol.

Noder nad yw’r llyfrau gwaith Excel ar gyfer data ariannol (B1) a niferoedd myfyrwyr (C ac E) wedi’u hatodi i’r cylchlythyr hwn. Caiff y dogfennau hyn eu poblogi ymlaen llaw yn unigol ar gyfer pob sefydliad a’u cylchredeg yn uniongyrchol ar ffurf electronig. Mae manylion am gynnwys y templedi hyn wedi’u cynnwys yn Atodiad B3 ac Atodiad D yn y drefn honno.

Cefndir a chynllunio strategol sefydliadol

2. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno gwybodaeth sy’n cynnwys rhagolygon ariannol a rhagolygon niferoedd myfyrwyr yn flynyddol. Y rheswm dros hyn yw er mwyn ein galluogi i ddeall perfformiad ariannol blaenorol sefydliadau a’u perfformiad ariannol disgwyliedig yn y dyfodol, ac mae hefyd yn ffynhonnell wybodaeth bwysig i ategu cynlluniau ffioedd a mynediad a gyflwynir a deialog strategol rhwng Medr a’r sefydliadau. Daw’r cynlluniau ffioedd a mynediad presennol i ben yn 2026/27. Dylai sefydliadau fod yn gweithio mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn llawn ag amod Cyfle Cyfartal Medr o 2027/28 ymlaen.

Cyd-destun strategol

3. Wrth ymateb i’r cylchlythyr hwn, dylai sefydliadau ystyried yr amryw gylchlythyrau a chyhoeddiadau eraill allweddol sy’n ymwneud â datblygiadau polisi, strategaeth a chyllido addysg uwch yng Nghymru. Mae ffynonellau allweddol wedi’u cynnwys yn Atodiad A, gan gynnwys dolenni i’r cyhoeddiadau diweddaraf sydd ar gael ar adeg rhyddhau’r cylchlythyr hwn.

Crynodeb o’r gofynion o ran gwybodaeth

4. Rydym yn cyflwyno ffurflenni data rhagolygon ariannol a rhagolygon myfyrwyr unigoledig i bob sefydliad ar wahân. Anfonir y rhain, fel y bo’n briodol, at gyfarwyddwyr cyllid a chysylltiadau data a enwebwyd gan bennaeth y sefydliad. Dylai’r holl sefydliadau gyflwyno eu ffurflenni wedi’u cwblhau erbyn y dyddiadau a ddynodir i’r ffolder SharePoint unigol ddiogel a roddir i bob sefydliad.

5. Yn ychwanegol at y dibenion penodol a amlinellir uchod, bydd yr holl wybodaeth y gofynnir amdani trwy’r cylchlythyr hwn yn darparu tystiolaeth i oleuo ein proses sicrwydd risg ar gyfer darparwyr.

6. Dylai sefydliadau nodi y byddwn yn ceisio diweddariadau lefel uchel i ragolygon ariannol a rhagolygon myfyrwyr ym mis Tachwedd 2026. Diben hyn fydd goleuo ein dadansoddiad o oblygiadau ariannol newidiadau i’r rhagolygon o ganlyniad i’r sefyllfa wedi’i diweddaru o ran recriwtio myfyrwyr ar gyfer 2026/27.

Rhan 1 – Rhagolygon ariannol ar gyfer y cyfnod o 2025/26 i 2029/30

7. Ein hamcanion wrth ofyn am ragolygon ariannol yw ein galluogi i:

  • fonitro iechyd ariannol sefydliadau;
  • monitro a yw rhagolygon sefydliadau’n ystyried yr amgylchedd addysg uwch sydd ohoni;
  • cael sicrwydd bod trefniadau cynllunio ariannol effeithiol ar waith;
  • sicrhau bod cyrff llywodraethu’n ymgysylltu’n briodol â phrosesau rhagolygon a chynllunio ariannol y sefydliad;
  • gwirio bod gweithgarwch cynllunio strategol ac ariannol sefydliadau wedi eu hintegreiddio; a
  • chynhyrchu gwybodaeth ar lefel gryno am dueddiadau ac iechyd ariannol cyffredinol y sector AU yng Nghymru.

8. Ar gyfer yr wybodaeth a gyflwynir ar hyn o bryd gofynnwn i sefydliadau baratoi rhagolygon ariannol pum mlynedd, sy’n cwmpasu’r cyfnod hyd at 2029/30. Er mwyn lleihau llwyth gwaith sefydliadau i’r eithaf, rydym wedi rhagboblogi colofnau ffigyrau gwirioneddol 2023/24 a 2024/25 yn y modelau, lle y bo’n bosibl, i gynorthwyo gydag adnabod unrhyw dueddiadau mewn perfformiad. Rydym hefyd wedi rhagboblogi’r rhagolwg ar gyfer y flwyddyn 2025/26 (fel y’i cyflwynwyd i ni ym mis Gorffennaf 2025). Byddwn yn disgwyl i ragolygon ariannol fod yn seiliedig ar gylchlythyrau perthnasol ar ddyraniadau cyllid a niferoedd myfyrwyr.

9. Dylid cyflwyno gwybodaeth am ragolygon ariannol i ni i’r ffolder SharePoint unigol ddiogel a roddir i bob sefydliad erbyn 31 Gorffennaf 2026.

10. Wrth baratoi’r rhagolygon dylai sefydliadau gyfeirio at y tybiaethau cynllunio a amlinellir yn Atodiad A.

Cynnwys y rhagolygon ariannol

11. Mae ffurf a chynnwys y modelau rhagolygon ariannol 2025/26 i 2029/30 yn debyg i’r hyn a gyflwynwyd gan sefydliadau ym mis Gorffennaf 2025. Sylwer bod cwblhau’r rhagolygon pum mlynedd, y sylwebaeth a’r datganiad llifoedd arian parod misol yn orfodol ac y dylai hynny adlewyrchu gofynion Cod Rheoli Ariannol CCAUC (cylchlythyr CCAUC W17/16HE) rhwng Medr a’r sefydliadau. Dylai’r rhagolygon fod yn seiliedig ar dybiaethau realistig. I roi cymorth i gymharu gwybodaeth dylent fod yn gyson ag unrhyw newidiadau i driniaeth gyfrifyddu a’r modd y cyflwynwyd gwybodaeth a’r modd y nodwyd dyraniadau cyllid yn y datganiadau ariannol diwethaf a chofnod cyllid HESA. Yn benodol, dylid dilyn y triniaethau sydd wedi’u cynnwys yn y Datganiad o’r Arfer a Argymhellir ar gyfer Addysg Bellach / Addysg Uwch a gyhoeddwyd yn 2019.

Ffurflenni gofynnol

12. Mae’r cylchlythyr hwn yn cyfeirio at nifer o atodiadau i’w dychwelyd at Medr:
(i) Y templed rhagolwg ariannol (B1). Caiff y llyfr gwaith hwn ei ddarparu’n uniongyrchol ar ffurf electronig i gysylltiadau data a chyfarwyddwyr cyllid ym mhob sefydliad. Mae’n cynnwys tablau penodol sydd wedi’u llenwi’n rhannol ymlaen llaw.
(ii) Mae’r sylwebaeth ar ragolygon ariannol (Atodiad B2) yn gofyn am ddadansoddiad naratif pellach o’r tablau yn y model rhagolygon.
(iii) Mae rhagfynegiadau o lifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2027 yn ofynnol hefyd. Gall y rhain fod yn y fformat mewnol ar gyfer y sefydliad.
Rhoddir crynodebau o’r gofynion ar gyfer pob un isod. Rhoddir canllawiau ynghylch cwblhau’r prif ragolwg (B1) yn Atodiad B3.

Templed rhagolygon ariannol (B1)

13. Rydym yn disgwyl i unrhyw dwf dros ffigyrau recriwtio 2025/26 gael ei egluro’n llawn, gyda thystiolaeth ategol gadarn yn cael ei darparu.

14. Mae’r rhagolwg ariannol yn cynnwys templed ‘senarios anffafriol’ Medr ar gyfer 2026/27. Ceir ansicrwydd sylweddol o hyd yn y sector a’r economi ehangach, ac mae’r templed hwn yn darparu sicrwydd bod eich cyrff llywodraethu wedi rhoi ystyriaeth briodol i senarios anffafriol yn ogystal â darparu data ar ein cyfer i asesu risg i’r sector:
(i) Dylid cynnwys addasiadau mewn meysydd eraill yn y rhagolwg hefyd lle nad yw twf o’r fath yn sicr neu lle mae cost yn briodoledig i dwf yn niferoedd y myfyrwyr, er enghraifft cyfleusterau a phreswylfeydd.
(ii) Tybir bod costau ar lefel eich rhagolwg ar gyfer 2026/27. Dylai camau lliniaru sy’n ofynnol gael eu nodi’n fanwl yn y naratif am y rhagolwg.

15. Mae tab ‘senario anffafriol y sefydliad ei hun’ wedi cael ei gynnwys er mwyn galluogi sefydliadau i adlewyrchu eu gwaith modelu eu hunain ar senarios anffafriol realistig dros gyfnod llawn y rhagolygon.

16. Rhoddir canllawiau manwl ynghylch cwblhau’r templed rhagolygon ariannol yn Atodiad B3. Caiff canllawiau ynghylch newidiadau i’r templed eu dynodi mewn porffor er mwyn eu gwneud yn rhwydd cyfeirio atynt.

Sylwebaeth ar y rhagolygon ariannol (Atodiad B2)

17. Dylai sefydliadau ddarparu sylwebaeth ar y rhagolygon ariannol B1 gan ddefnyddio’r profforma yn Atodiad B2. Mae hwn yn rhestru gofynion manwl ar gyfer gwybodaeth am nifer o agweddau allweddol ar y rhagolwg ariannol, ond y nod ar y cyfan yw bod sefydliadau’n darparu:
(i) sicrwydd bod y rhagolygon ariannol yn deillio o gynllun strategol cyfredol a strategaeth ariannol gyfredol y sefydliad a’u bod yn gyson â’r rhain a bod cysylltedd â pherfformiad ariannol diweddar yn ogystal â’r gudd-wybodaeth ddiweddaraf a allai effeithio ar ragolygon megis recriwtio myfyrwyr;
(ii) gwybodaeth ategol ychwanegol am y tybiaethau allweddol yn y rhagolygon ariannol; a
(iii) eglurhad o dueddiadau pwysig yn y niferoedd a ragwelir ar draws y cyfnod, yn enwedig mewn perthynas â’r dangosyddion allweddol megis hylifedd, llif arian parod gweithredu, gwarged gweithredu a chreu arian parod.
(iv) naratif am gynllunio wrth gefn ar gyfer y prif heriau a adnabuwyd gan y sefydliad. Dylai hyn gynnwys unrhyw effaith ar recriwtio myfyrwyr a dychwelwyr cartref a thramor, ynghyd â’r canlyniadau ariannol ar gyfer ffioedd dysgu a ffrydiau incwm cysylltiedig ar gyfer incwm, llif arian parod gweithredu net a chreu arian parod.
(v) Yn yr hinsawdd bresennol byddem yn disgwyl i’r naratif gynnwys ystyried y lefelau uwch o risg y mae’r sefydliad yn agored iddynt, oherwydd y gofyniad i arallgyfeirio incwm oddi wrth fyfyrwyr israddedig amser llawn o’r DU, ac unrhyw sensitifrwydd cysylltiedig i gostau ychwanegol a gwaith arall i fodelu’r risgiau hyn.
(vi) Ar ochr costau byddem yn disgwyl i’r naratif gynnwys ystyried y risg sy’n gysylltiedig â phwysau chwyddiannol, yn rhai sy’n ymwneud â staff ac nad ydynt yn ymwneud â staff, ac i ba raddau y mae cynlluniau’r sefydliad yn sensitif i’r rhain.
Mae newidiadau i’r gofynion o’i gymharu â 2025 wedi eu hamlygu mewn porffor.

Rhagolygon llifoedd arian parod misol

18. Rydym yn gofyn am gyflwyno rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at fis Gorffennaf 2026. I hwyluso hyn, nid ydym yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio fformat a ragnodir ar gyfer y ffurflenni hyn. Fodd bynnag, rydym yn ei gwneud yn ofynnol:
a. paratoi’r ffurflen yn ddigon manwl i adnabod yn glir beth yw’r prif ffrydiau incwm a gwariant;
b. bod unrhyw fuddsoddiadau neu gyfleusterau benthyca y disgwylir eu defnyddio neu eu talu’n ôl yn cael eu hadnabod yn glir;
c. dangos llif net misol arian parod i mewn / (allan);
d. dangos balansau agoriadol a chau misol arian parod yn y banc ar wahân i’r defnydd o fuddsoddiadau / cyfleusterau benthyca byrdymor; ac
e. dangos cyfanswm asedau hylifol, a chyfleusterau benthyca sydd ar gael, yn fisol. Lle y bo’n briodol dylai unrhyw arian parod cyfyngedig gael ei adnabod yn glir fel eitem ar wahân i gronfeydd wrth gefn rhydd.
f. Dylai balansau arian parod ar ddiwedd y flwyddyn fod yn gyson â’r rhagolygon a gyflwynir

19. Er y byddwn yn parhau i fonitro llifoedd arian parod gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon hyn fel rhan o’n trafodaethau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr cyllid, cyfrifoldeb corff llywodraethu pob sefydliad yw hysbysu Medr ynghylch digwyddiadau adroddadwy, gan gynnwys unrhyw ddiffygion arian parod a ragwelir, o hyd.

20. Mae paratoi rhagolygon arian parod 12 mis yn un o ofynion y Cod Rheoli Ariannol [paragraff 83]. Hoffem dynnu eich sylw at y paragraff:
Rhaid i’r corff llywodraethu hysbysu CCAUC (Medr erbyn hyn) ar unwaith os, ar unrhyw adeg yn y 12 mis sydd i ddod, yw arian parod net negyddol (fel y’i diffinnir o fewn FRS 102 S(7), gan gynnwys arian parod a symiau sy’n cyfateb i arian parod) yn cael ei ragweld am fwy na 30 diwrnod olynol.
O 1 Awst 2026 ymlaen, byddwn yn cyfeirio darparwyr at ofyniad 4, sef y gofyniad cyfatebol o fewn amod cynaliadwyedd ariannol Medr:
Bydd y darparwr yn hysbysu Medr lle mae perfformiad andwyol yn dynodi mwy o bwysau ar gynaliadwyedd ariannol. Gallai’r dangosyddion hyn gynnwys, ymhlith eraill:
* rhagolygon arian parod misol sy’n dynodi dirywiad mewn cyfalaf gweithio gweithredol i 30 diwrnod neu lai dros gyfnod estynedig
* defnydd parhaus a/neu gynyddol o gyfleusterau banc
* colli neu ostyngiad mewn ffrydiau incwm arwyddocaol neu ddigwyddiadau andwyol perthnasol eraill nas rhagwelwyd

Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26a rhagolygon ar gyfer 2026/27 i 2029/30

21. Mae’r wybodaeth ar gyfer rhagolygon incwm ffioedd myfyrwyr yn ofynnol ar wahân yn Atodiad C. Caiff yr wybodaeth am niferoedd y myfyrwyr yn Atodiad C ei phoblogi’n awtomatig o’r tablau yn Atodiad E, i roi cymorth i’w chysoni â ffioedd myfyrwyr. Ceir canllawiau ar gyfer y rhagolygon niferoedd myfyrwyr yn Atodiad D.

22. Ceir perthynas annatod rhwng tybiaethau sefydliad ynglŷn â newidiadau yn y dyfodol i’w boblogaeth fyfyrwyr a’i ragolygon ariannol. Felly mae’r rhagolygon myfyrwyr yn nodweddion pwysig sy’n tanategu cynllun strategol a rhagolygon ariannol sefydliad.

23. Gofynnir i sefydliadau gyflwyno, i’r ffolder SharePoint unigol ddiogel a roddir i bob sefydliad, erbyn 31 Gorffennaf 2026,ragolygon o niferoedd yr holl fyfyrwyr AU (Cartref cyllidadwy, Cartref anghyllidadwy a Thramor) ar gyfer y pum mlynedd rhwng 2025/26 a 2029/30. Mae hyn yn cynnwys rhagolygon o niferoedd myfyrwyr addysg drawswladol (TNE) mewn campysau yn yr UE a thramor (y tu allan i’r UE), i’w cynnwys yn Atodiad E, SPF3 a’r incwm ffioedd cysylltiedig sydd i’w gynnwys yn nhab Atodiad C2. Mae Atodiad D yn cynnwys gwybodaeth am y tablau a chanllawiau i gynorthwyo gyda chwblhau’r ffurflenni’n gywir.

24. Byddwn yn e-bostio Atodiadau C ac E wedi’u poblogi’n rhannol ymlaen llaw i bob sefydliad yn unigol. Mae’r tablau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddilysu a gwybodaeth gryno. Mae tablau yn nhab Atodiadau C1 ac C2 wedi eu cynnwys yn yr un llyfr gwaith â thab Atodiad E, ac mae gwiriadau hygrededd wedi cael eu cyflwyno i helpu i wirio ffurflenni niferoedd myfyrwyr ochr yn ochr â data incwm ffioedd. Y tablau hyn y mae angen eu cwblhau a’u dychwelyd.

25. Yn ychwanegol at y rhagolygon, rydym yn gofyn am wybodaeth am niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26. Y rheswm dros hyn yw er mwyn sicrhau ein bod yn gallu dwyn cymariaethau rhwng y boblogaeth fyfyrwyr ddiweddaraf a’r data incwm ffioedd myfyrwyr a ddychwelir yn nhab Atodiadau C1 ac C2. Rydym yn cydnabod y bydd yn dal i gynnwys elfen o amcangyfrif gan na fydd y flwyddyn academaidd wedi gorffen ond bydd yn rhoi niferoedd mwy cywir i ni er mwyn cymharu â thybiaethau a wnaed wrth baratoi’r ffigyrau incwm ffioedd a ragwelir. Er gwybodaeth, mae ffigyrau o Dabl 1 ystadegau cynnar myfyrwyr addysg uwch (HESES) 2025/26 wedi cael eu cynnwys fel tabl atodol.

26. Yn gyffredinol, dylai’r diffiniadau sydd wedi eu cynnwys yng nghylchlythyr Medr/2025/33, arolwg Ystadegau Cynnar Myfyrwyr Addysg Uwch (HESES) 2025/26 ac yng nghofnod Alltraeth Cyfanredol HESA gael eu defnyddio wrth lunio’r wybodaeth am ragolygon myfyrwyr sy’n ofynnol gan y cylchlythyr hwn. Ceir y manylion yn Atodiad D.

27. Dylai tybiaethau fod yn gyson â’r rhai a gyflwynir yn Atodiad A, ac unrhyw dybiaethau perthnasol eraill a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r rhagolygon ariannol.

28. Ceir nodiadau pellach ar gwblhau’r tablau yn Atodiad D.

Rhyddid gwybodaeth

29. Byddwn yn trin yr holl wybodaeth a ddarperir ar ein cyfer yn y cylchlythyr hwn fel gwybodaeth gyfrinachol.

30. Fel awdurdod cyhoeddus mae Medr yn ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl gyhoeddus i gael mynediad at unrhyw wybodaeth a ddelir gan awdurdod cyhoeddus. Gall gwybodaeth a gyflwynir i Medr gael ei datgelu ar gais dan amodau’r Ddeddf. Mae gennym gyfrifoldeb i benderfynu a ddylai ymatebion gael eu gwneud yn gyhoeddus ynteu a ddylid eu trin fel gwybodaeth gyfrinachol. Gallwn wrthod datgelu gwybodaeth dan amgylchiadau lle byddai datgelu gwybodaeth yn niweidio buddiannau masnachol neu lle darparwyd gwybodaeth yn gyfrinachol (er enghraifft, amcanestyniadau ariannol ar gyfer y dyfodol). Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddeddf, gan gynnwys yr amgylchiadau penodol pan ellir dal gwybodaeth yn ôl, yn https://ico.org.uk/ dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

31. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at [email protected].

Medr/2026/23: Cais am ragolygon 2026

Dyddiad:  09 Mehefin 2026

Cyfeirnod: Medr/2026/23

At:  Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru; Prif swyddogion cyllid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn: 31 Gorffennaf 2026

Crynodeb: Mae’r cylchlythyr hwn yn gofyn i sefydliadau addysg uwch gyflwyno’r wybodaeth ganlynol:
* Rhan 1 – Rhagolygon ariannol sy’n cynnwys:
— Amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26 a rhagolygon ariannol ar gyfer 2026/27 i 2029/30
— Rhagolygon llifoedd arian parod misol ar gyfer y 12 mis hyd at 31 Gorffennaf 2027
— Sylwebaeth naratif i gyd-fynd â’r wybodaeth
* Rhan 2 – Niferoedd myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn gyfredol 2025/26 a rhagolygon ar gyfer 2026/27 i 2029/30

Medr/2026/23 Cais am ragolygon 2026

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio