This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2024/06: Mesurau cyflawniad ar gyfer AB a’r chweched dosbarth: Ymgynghoriad ar drosglwyddo rhwng cyrsiau ar gyfer 2023/24

Pwrpas

1. Mae’r papur hwn yn amlinellu newidiadau a gynigir i’r modd yr ymdrinnir â throsglwyddiadau cwrs yn y mesurau cyflawniad, ac yn gofyn am adborth.

2. Anelir i weithredu’r newidiadau ar gyfer cylch perfformiad 2023/24.

Y cefndir

3. Yn 2022/23 gweithredwyd system i ymdrin â throsglwyddiadau lefel rhaglen, yn dilyn ymgynghoriad. Dywedasom y byddem wedyn yn gweithredu dull ar gyfer trosglwyddiadau cwrs drwy ddefnyddio rheolau tebyg yn 2023/24.

4. Mewn cylchoedd blaenorol, mae cwrs y trosglwyddwyd ohono yn cael ei drin fel achos o dynnu’n ôl yn y mesurau. Ein nod yw trin trosglwyddiadau fel canlyniad niwtral (eu hepgor o’r mesurau) os yw’r trosglwyddiad yn bodloni cyfres o amodau.

Y rheolau a gynigir (gweler y diagram llif yn Atodiad A)

5. Byddai trosglwyddiad cwrs yn cael ei drin fel canlyniad niwtral yn yr achosion a ganlyn:
* Pe bai’r cwrs yn cael ei restru fel trosglwyddiad (LA31 = ‘4’)
* A phe bai gan y dysgwr gwrs arall na wnaeth arwain at drosglwyddo:
a). Gyda’r un darparydd
b). A ddechreuodd ar ôl i’r gweithgaredd blaenorol ddod i ben
(i), Neu o fewn 7 diwrnod cyn y diwedd, ar yr amod bod hynny’n dal i fod ar ôl y dyddiad dechrau
c). Yn yr un flwyddyn academaidd
(i), Neu os oedd yn weithgaredd â’r un cyfeirnod (LA06) yn y flwyddyn academaidd ganlynol
d). A ddechreuodd o fewn 21 diwrnod ar ôl i’r gweithgaredd gwreiddiol ddod i ben
(i), Neu o fewn 126 diwrnod (18 wythnos) os oedd yn drosglwyddiad i’r un cyfeirnod yn y flwyddyn academaidd ganlynol
e). A oedd ar yr un lefel neu’n uwch
(i), Oni ddigwyddodd y trosglwyddiad o fewn 8 wythnos i’r gweithgaredd gwreiddiol
(ii), Ni chaniateir trosglwyddo o U2 i UG
(iii), Mae’r lefelau cymhwyster yn seiliedig ar set ddata Cymwysterau yng Nghymru os yw ar gael, ac yn LA22 fel arall. Os nad oes lefel ddiffiniedig i’r gweithgaredd newydd, rhaid i’r gweithgaredd gwreiddiol hefyd fod heb lefel ddiffiniedig
(iv), Ar gyfer cyrsiau aml-lefel, rhoddir y dehongliad mwyaf hael (y lefel isaf ar gyfer y gweithgaredd gwreiddiol, a’r lefel uchaf ar gyfer y gweithgaredd newydd)
Ac os oedd modd asesu’r gweithgaredd gwreiddiol, rhaid bod modd asesu’r gweithgaredd newydd hefyd
(v), Oni ddigwyddodd y trosglwyddiad o fewn 8 wythnos i’r gweithgaredd gwreiddiol
f). Ac os oedd y gweithgaredd gwreiddiol yn “brif” weithgaredd (LA47 = ’05’) rhaid i’r gweithgaredd newydd fod yn brif weithgaredd hefyd.
(i), Oni ddigwyddodd y trosglwyddiad o fewn 8 wythnos i’r gweithgaredd gwreiddiol
g). Ac os oedd y gweithgaredd gwreiddiol yn weithgaredd penodol (nad yw LA06 yn dechrau â ‘L’) rhaid i’r gweithgaredd newydd hefyd fod yn benodol
h). Ni cheir ond trosglwyddo o un gweithgaredd i’r gweithgaredd newydd hwn

6. Os bydd dysgwr yn trosglwyddo rhwng rhaglenni, bydd yr holl gyrsiau a restrir fel trosglwyddiadau o fewn y rhaglen honno’n cael eu trin fel canlyniadau niwtral, os ydynt yn bodloni’r amodau uchod ai peidio. Rhaid i’r trosglwyddiad rhaglenni fodloni’r rheolau ar gyfer trosglwyddo rhwng rhaglenni.

7. Os trosglwyddwyd o gwrs Safon Uwch yn yr ail flwyddyn, nid yw ond yn ganlyniad niwtral ar gyfer y mesurau 2 flynedd (cwblhau U2 a chanlyniadau gradd). Byddai’n cyfrif fel peidio parhau o UG i U2.

8. Byddai trosglwyddiadau cwrs hefyd yn cael eu trin yn niwtral wrth gyfrifo’r gyfradd lwyddo ar gyfer mesurau rhaglenni galwedigaethol, ar yr amod eu bod yn bodloni’r rheolau uchod. Cyn hynny, byddai’r holl drosglwyddiadau cwrs yn cael eu trin yn niwtral yng nghyfradd lwyddo’r rhaglen.

9. Os cofnodwyd bod dysgwr yn cyflawni’r un gweithgaredd amryw o weithiau o fewn blwyddyn gyda darparydd, y gweithgaredd â’r dyddiad diweddu olaf a gymerir. Bydd fersiynau blaenorol o’r gweithgaredd yn cael eu tynnu o’r mesurau, os oeddent wedi’u rhestru fel trosglwyddiadau ai peidio.

10. Bydd trosglwyddiadau cwrs a gaiff eu trin fel canlyniadau niwtral yn cael eu monitro, yn yr un modd â throsglwyddiadau rhaglen.

Effaith y newidiadau

11. Cyfrifwyd effaith y newidiadau hyn ar fesurau 2022/23. Cyfrifwyd y rhain i ddangos effaith. Er cyflymder fe’u cyfrifwyd drwy ddefnyddio data colegau.

Tabl 1a: Effaith y dull trosglwyddo newydd ar fesurau cyrsiau galwedigaethol AB, 2022/23

Dull trosglwyddoCyfradd
y dysgwyr sy’n gadael yn gynnar
Cyfradd
cwblhau
Cyfradd
llwyddo
Gwreiddiol9%88%75%
Newydd7%88%76%

Tabl 1b: Effaith y dull trosglwyddo newydd ar fesurau cyrsiau Safon Uwch AB, 2022/23

Dull trosglwyddoCyfradd
y dysgwyr sy’n gadael yn gynnar
Cyfradd
cwblhau Safon UG
Cyfradd
cadw myfyrwyr ar ôl UG
Cyfradd cwblhau Safon A2
Gwreiddiol13%84%73%92%
Newydd10%84%73%93%
Dull trosglwyddoA*A* i AA* i BA* i CA* i DA* i E
Original8%24%48%70%83%89%
Newydd8%25%48%70%84%90%

Tabl 1c: Effaith y dull trosglwyddo newydd ar fesurau rhaglenni galwedigaethol AB, 2022/23

Dull trosglwyddoCyfradd
y dysgwyr sy’n gadael yn gynnar
Cyfradd
cwblhau
Cafradd
llwyddo
Gwreiddiol11%86%78%
Newydd11%86%78%

12. Yn yr achosion lle nad oedd y gweithgaredd trosglwyddo yn bodloni’r rheolau, cofnodwyd y rheswm pam [Tabl 2].

13. Ar wahân i “heb ganfod cwrs”, sylwch fod y rhesymau hyn fwy na thebyg wedi’u gorgyfrif.

Tabl 2: Rheswm pam y gwrthodwyd targed trosglwyddo posibl ar gyfer trosglwyddiadau gweithgaredd na ellid eu dilysu, mesurau AB, 2022/23
Nodyn [c]: Ataliwyd gwerthoedd dan 5 i ddiogelu cyfrinachedd.



Math o fesuriad

Heb
ganfod cwrs i drosglwyddo iddo
Ni
chwblhawyd y troslwyddo o fewn 21 diwrnod
Yr un
cwrs yn y flwyddyn ganlynol: Ni wnaeth ddigwydd o fewn 126 diwrnod
Dechreuodd
y gweithgaredd cyn i’r gweithgaredd gweiddiol ddod I ben
Tros-glwyddo
o gym-weyster penodol i gym-hwyster cyffredinol
Defnyddiwyd
gweithgaredd hwn eisoes i ddilysu trosglwyddiad gwahanol
Cwrs galwedig-aethol1,1102,540280570450180
Rhaglen alwedig-aethol295980031014080
Safon Uwch05[c]10[c]0


Math o fesuriad

Heb
drosglwyddo i’r un lefel neu i lefel uwch
Trosglwyddo o’r prif gategori / categori craidd i gategori nad yw’n brif gategori / categori craiddHeb
drosglwyddo i’r un lefel asesu neu i lefel asesu uwch
Trosglwyddwyd
i flwyddyn academaidd arall
Popeth
Cwrs galwedig-aethol853010[c]5,265
Rhaglen alwedig-aethol4015501,890
Safon Uwch500025

Cwestiynau’r ymgynghoriad

14. Gan ystyried y cynigion uchod:

C1A ddylid derbyn trosglwyddiadau i weithgaredd â chyfeirnod gwahanol yn y flwyddyn academaidd ganlynol?
(Ar yr amod bod y trosglwyddiad wedi digwydd cyn pen 21 diwrnod ar ôl i’r gweithgaredd gwreiddiol ddod i ben)
C2Caniateir trosglwyddiadau i’r un cwrs yn y flwyddyn academaidd ganlynol fel bo modd cofnodi cyrsiau 1.5+ mlynedd mewn rhaglenni dwy flynedd.
Gosodwyd y rheol bod yn rhaid cwblhau’r trosglwyddiadau hyn o fewn 18 wythnos i ganiatáu ar gyfer gwyliau’r haf. Ai 18 wythnos yw’r hyd cywir o amser?
C3A oes adegau lle gallai gweithgaredd newydd ddechrau cyn i’r gweithgaredd gwreiddiol ddod i ben? A yw 7 diwrnod o ras yn gyfnod digonol ar gyfer hyn?
C4A oes adegau lle gallai dysgwyr drosglwyddo’n rhesymol o weithgaredd y gellir ei asesu i weithgaredd na ellir ei asesu?
C5A oes adegau lle gallai dysgwr drosglwyddo’n rhesymol o brif weithgaredd i weithgaredd arall nad yw’n brif weithgaredd?
C6A oes adegau lle gallai dysgwr drosglwyddo’n rhesymol o weithgaredd penodol i weithgaredd cyffredinol?
C7A oes adegau le gallai dysgwr drosglwyddo o amryw o weithgareddau i un weithgaredd?
C8Sut y dylid ymdrin â throsglwyddiadau dilys ar ail flwyddyn cwrs Safon Uwch?
C9Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ynghylch y rheolau a gynigir?

Ymatebion a’r camau nesaf

15. Rydym yn gofyn am ymatebion i’r ymgynghoriad hwn erbyn 29 Tachwedd 2024. Dylid anfon eich ymateb i [email protected].

16. Cyn gynted ag y bydd yr ymatebion yn dod i law, byddwn yn eu hystyried ymhellach ac yn rhannu’r canllawiau terfynol erbyn mis Rhagfyr.

Rhagor o wybodaeth

17. Dylid anfon unrhyw ymholiadau i [email protected].

Medr/2024/06: Mesurau cyflawniad ar gyfer AB a’r chweched dosbarth: Ymgynghoriad ar drosglwyddo rhwng cyrsiau ar gyfer 2023/24

Dyddiad: 19 Tachwedd 2024

Cyfeirnod:  Medr/2024/06

At: Reolwyr Ansawdd a Systemau Gwybodaeth Reoli mewn sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol | Rheolwyr Ansawdd a Data yn y chweched dosbarth mewn ysgolion | Rheolwyr Data’r Chweched Dosbarth mewn awdurdodau unedol

Ymateb erbyn:  29 Tachwedd 2024

Mae’r cyhoeddiad hwn yn gofyn i ddarparwyr adolygu a rhoi sylwadau ar y newidiadau a gynigir ar gyfer ymdrin â throsglwyddiadau cwrs yn y mesurau Cyflawniad ar gyfer AB a’r chweched dosbarth.

Medr/2024/06 Mesurau cyflawniad ar gyfer AB a'r chweched dosbarth: Ymgynghoriad ar drosglwyddo rhwng cyrsiau ar gyfer 2023/24

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio