This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Medr/2024/05: Mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn addysg uwch

Cyflwyniad

1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth ac yn gofyn am ddiweddariadau gan brifysgolion ar eu camau gweithredu i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) mewn addysg uwch, gan gynnwys fel y mae ymddygiadau o’r fath yn berthnasol i bobl ni waeth sut y maent yn uniaethu.

2. Er bod y cyhoeddiad hwn wedi’i fwriadu’n bennaf ar gyfer prifysgolion, efallai y byddai darparwyr addysg drydyddol eraill yn ei gael yn ddefnyddiol wrth adolygu eu gwaith eu hunain ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a thrais, aflonyddu a cham-drin ar sail hunaniaeth.

3. Hwn yw cyhoeddiad cyntaf Medr ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dylid darllen y cyhoeddiad hwn ar y cyd â chylchlythyrau CCAUC W20/39HE: Mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn AU a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, a W23/29HE: Mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn addysg uwch, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023.

4. Mae ein hasesiadau o’r effaith a oleuodd y cylchlythyrau uchod wedi dangos bod menywod yn fwy tebygol o brofi cam-drin domestig a thrais rhywiol, felly rydym wedi fframio’r gwybodaeth hyn o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd arfer a gwersi a fydd yn goleuo camau gweithredu i fynd i’r afael â thrais, cam-drin ac aflonyddu ni waeth sut y mae rhywun yn mynegi ei hunaniaeth ac mae’r gwybodaeth yn ystyried hyn.

5. Ym mis Chwefror 2024, darparodd CCAUC adborth i brifysgolion ar yr wybodaeth a ddarparwyd ganddynt mewn ymateb i gylchlythyr W23/29HE. Yn y cyhoeddiad hwn, rydym yn parhau â’n ffocws ar addysg uwch ddiogel a chynhwysol, gan geisio sicrwydd ynghylch cynnydd prifysgolion tuag at roi sylw i adborth o wybodaeth a gyflwynwyd yn flaenorol a’u gwaith parhaus tuag at gryfhau polisïau a gweithdrefnau cysylltiedig yn 2024/25.

6. Ar adeg ysgrifennu, mae Medr yn ymgynghori ynghylch ei Gynllun Strategol cyntaf. Mae’r cynllun arfaethedig yn amlinellu gweledigaeth lefel uchel Medr ar gyfer system addysg drydyddol Cymru, yn ogystal ag amlygu wyth uchelgais hirdymor. Dau o’r rhain yw ‘mwy o ffocws ar ymgysylltu â dysgwyr, a’u llesiant’, a ‘deilliannau gwell i ddysgwyr a phrofiadau wedi’u gwella ar gyfer dysgwyr’. Mae’r cynllun arfaethedig hefyd yn amlygu pum nod strategol Medr. Y cyntaf o’r rhain yw ‘sicrhau bod y sector addysg drydyddol yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr – eu profiad, eu cyflawniad a’u llesiant, sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn prosesau penderfynu, a hybu cyfranogiad mewn dysgu ar bob adeg mewn bywyd.’ Bydd Cynllun Strategol Medr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 15 Rhagfyr 2024.

Dyletswyddau a chyfrifoldebau Medr

7. Daeth Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn weithredol ar 1 Awst 2024 ar ôl dirwyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i ben ar 31 Gorffennaf 2024.

8. Ceir dyletswyddau penodol ar sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Medr, dan Ddeddf Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Cymru). Mae dyletswydd ar Medr i hybu cyfle cyfartal, yn ogystal ag i:
i) adnabod a chasglu gwybodaeth berthnasol am gydraddoldeb;
ii) diwygio a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau;
iii) adnabod a chasglu gwybodaeth am wahaniaethau mewn cyflog;
iv) hyfforddi staff a chasglu gwybodaeth cyflogaeth;
v) diwygio a chyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol;
vi) cynnwys pobl sy’n cynrychioli un neu fwy o’r grwpiau gwarchodedig ac sydd â buddiant yn y ffordd y mae Medr yn cyflawni ei swyddogaethau;
vii) ystyried y ddyletswydd gyffredinol mewn prosesau caffael;
viii) cynhyrchu adroddiad blynyddol bob blwyddyn; a
ix) cyhoeddi dogfennaeth hygyrch.

9. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hybu cyfle cyfartal mewn addysg uwch a bydd yn cyflwyno amod cofrestru sy’n ymwneud â llesiant staff a myfyrwyr/dysgwyr. Mae paragraff 3.142 yn y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Memorandwm Dealltwriaeth yn nodi: “Bydd yr amodau cychwynnol a pharhaus yn ymwneud â chefnogaeth ar gyfer a hyrwyddo lles myfyrwyr a staff yn cyflwyno gofynion rheoleiddiol newydd i ddarparwyr y rhagwelwyd y byddent yn cwmpasu materion fel iechyd meddwl, llesiant a diogelwch dysgwyr a staff yn y darparwr. Bydd yn ofynnol i’r Comisiwn nodi a chyhoeddi gofynion y mae’n rhaid i ddarparwyr cofrestredig eu bodloni o ran eu trefniadau mewn perthynas â’r amodau cychwynnol a pharhaus. O ran lles myfyrwyr a staff, rhagwelir y byddai’r ‘trefniadau’ yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau cymorth ar gyfer llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘llesiant’ yn golygu llesiant emosiynol ac iechyd meddwl ac mae ‘diogelwch’ yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddu, camymddwyn, trais (gan gynnwys trais rhywiol), a throseddau casineb.”  Byddwn yn ymgynghori ynghylch y broses gofrestru newydd.

10. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn amlinellu dyletswydd ar Medr (‘y Comisiwn’) i “ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg uwch ynghylch sut y gall y cyrff gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf.” Wrth i Medr ddatblygu ei swyddogaethau a’i offer rheoleiddio, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth.

11. Mae dulliau ataliol o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyfrannu at y ffyrdd o weithio a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn cael eu hategu a’u goleuo gan ddeddfwriaeth berthnasol a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru gan gynnwys Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru 2022-2026, a chan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Y cefndir a’r cyd-destun

12. Mae’r cyhoeddiad a’r cais am wybodaeth yma:
takes account of Welsh Government’s 2022-26 VAWDASV strategy and blueprint;
* yn ystyried Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 a’r glasbrint sy’n cyd-fynd â hi;
* yn cyfrannu at ddyletswyddau cydraddoldeb strategol parhaus darparwyr addysg uwch, ac yn monitro cynnydd yn erbyn amcanion o fewn strategaethau sefydliadol (gan gynnwys Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol) a chenedlaethol;
* wedi’u goleuo gan chwe chyhoeddiad[1] Universities UK yn y gyfres Changing the Culture; ac
* yn ystyried adroddiad Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn addysg bellach.

13. Yn 2015, cyhoeddodd Public Health England ‘Strategy for Addressing Sexual and Domestic Violence in Universities: Prevention and Response’, a ddatblygwyd fel rhan o raglen hyfforddiant ar sut i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adnodd yn crynhoi dulliau strategol o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gyda phwyslais penodol ar agweddau ar waith a oleuwyd gan fyfyrwyr a dysgwyr.

14. Yn 2016, fe gyhoeddodd sefydliad y Cenhedloedd Unedig, UN Women, lasbrint ar gyfer mynd i’r afael â thrais ar gampysau. Mae hwn yn amlygu pedair egwyddor[2] allweddol i greu amgylchedd byw a dysgu diogel ar gampysau, a sicrhau bod goroeswyr yn cael y cymorth cywir tra bo cyflawnwyr yn cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd. Mae’r deg ‘hanfod’ ar gyfer mynd i’r afael â thrais ar gampysau’n cwmpasu’r amgylchedd sefydliadol, gwasanaethau a gynigir, ac atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

15. Yn 2018, cyhoeddodd UN Women nodyn cyfarwyddyd hefyd a oedd yn ymwneud ag atal ac ymateb i drais ar gampysau. Roedd hwn yn cynnwys cyfres o ddeg argymhelliad i sefydliadau, a oedd yn annog prifysgolion i:
i) asesu’r sefyllfa;
ii) sefydlu polisi;
iii) aseinio cydlynydd yn y brifysgol sydd wedi’i neilltuo i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod;
iv) sefydlu protocolau sy’n amlinellu’r gweithdrefnau;
v) ystyried mesurau interim a chefnogol;
vi) ystyried mecanweithiau monitro a gwerthuso;
vii) bod â chyllideb wedi’i neilltuo;
viii) ystyried darparu gwasanaethau hanfodol;
ix) cystyried rhaglenni codi ymwybyddiaeth ac ar ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol; a
x) hybu perthnasoedd parchus a herio gwrywdod niweidiol.

16. Mae’r adroddiadau uchod yn dal i fod yn berthnasol, er gwaethaf eu dyddiadau cyhoeddi. Mae adroddiad UN Women yn gwneud sawl cyfeiriad at bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth staff a myfyrwyr, a hyfforddiant ar sut i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol, Mae adroddiad, ‘Findings from a National Study to Investigate How British Universities are Challenging Sexual Violence and Harassment on Campus’ (Donovan, Bracewell, Chantler a Fenton), a gyhoeddwyd yn 2020, yn amlygu heriau darparu hyfforddiant gwirfoddol, gan gynnwys y duedd o ran rhywedd myfyrwyr a adnabyddir yn aml yn y rhai sy’n mynychu; “A key concern about prevention activities remaining voluntary is the gender bias identified by respondents in those who attend, i.e. that it is female students in certain areas who are more likely to attend.”  O ganlyniad i hyn, dylai darparwyr ystyried priodoldeb hyfforddiant gorfodol neu wirfoddol gan ddefnyddio meini prawf tryloyw, ac adolygu amrywiaeth mynychwyr i sicrhau ei fod yn cael ei hyrwyddo i amrywiaeth lawn y boblogaeth staff a myfyrwyr ac yn ennyn eu hymgysylltiad.

17. Ym mis Gorffennaf 2022, fe gyhoeddodd Hyb ACE Cymru a Straen Drawmatig Cymru’r Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, sy’n amlinellu ‘dull cymdeithasol o ddeall, atal a chefnogi effeithiau trawma ac adfyd’. Cynulleidfa darged y fframwaith yw’r rhai sy’n gyfrifol am lunio polisi sy’n ystyriol o drawma a datblygu sefydliadau a gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma ac, felly, mae’n berthnasol i addysg drydyddol. Cafodd dulliau sy’n ystyriol o drawma lle mae addysg uwch yn y cwestiwn eu harchwilio’n fwy diweddar mewn blog gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (HEPI). Mae prifysgolion wedi nodi arfer sy’n ystyriol o drawma fel maes allweddol ar gyfer datblygu a gwybodaeth pellach. Bydd Medr yn casglu ac yn rhannu arfer, yn casglu adnoddau i’w rhannu ac yn cyhoeddi gwybodaeth ar gyfer y sector trydyddol i ategu arfer gwell.

18. Mae menter ‘Iawn’ Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2023, yn annog dynion 18-34 oed yng Nghymru i ystyried materion sy’n gysylltiedig â thrais ar sail rhywedd, trwy drafod gyda chymheiriaid, darparu cyngor dibynadwy, a dod yn bobl sy’n ymyrryd yn weithredol yn eu grwpiau cymheiriaid. Mae’r tudalennau gwe, Instagram, TikTok ac YouTube, yn darparu cynnwys pytiau o gynnwys ar gyfer pobl ifanc, gyda golwg ar newid y diwylliant a hybu perthnasoedd iach, cydsyniad, ac adnabod ymddygiadau nad ydynt yn iach sydd wedi hen galedu. Gall hyn, ac adnoddau eraill sydd wedi’u cynnwys yn Atodiad B wrth W23/29HE, fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr addysg mewn sgyrsiau parhaus am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyda chynulleidfa ehangach.

19. O Gynlluniau Cydraddoldeb Strategol prifysgolion ar gyfer y cyfnod rhwng 2024 a 2028, mae saith yn cyfeirio’n uniongyrchol at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, trais ar sail rhywedd neu gamymddwyn rhywiol. Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dwyn goblygiadau ar gyfer llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, staff a myfyrwyr. Mae’n dwyn goblygiadau pellach ar gyfer croestoriadedd ac ystyriaethau i drawma, yn ogystal â gwrth-hiliaeth, gan gynnwys ymrwymiadau Cenedl Noddfa a Phrifysgol Noddfa.

20. Mae Medr yn aelod o ffrwd waith glasbrint trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru ar fannau cyhoeddus[3]. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i oleuo ein dealltwriaeth am y maes polisi hwn yn dilyn pontio i Medr, ac wrth i ni weithredu mewn cyd-destun trydyddol.

Beth sydd wedi newid ers cylchlythyr diwethaf CCAUC?

21. Ers y wybodaeth diwethaf a gyhoeddwyd gan CCAUC, mae adroddiadau ac adnoddau newydd wedi cael eu cyhoeddi. Mae’r cyhoeddiad hwn yn ystyried y rhain, gan gynnwys fel y maent yn ymateb i effaith barhaus pandemig COVID-19 ar staff a myfyrwyr. Rydym yn annog prifysgolion i ystyried eu canfyddiadau, argymhellion ac arfer. Ceir rhestr o adnoddau pellach yn Atodiad B wrth gylchlythyr W23/29HE gan CCAUC.

22. Ym mis Ionawr 2024, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun gweithredu ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg. Mae’r cynllun yn ystyried canfyddiadau’r platfform Everyone’s Invited, ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr, ac adroddiad thematig Estyn ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn addysg bellach. Mae’r cynllun gweithredu’n nodi saith maes blaenoriaeth ar gyfer gwella, sef:
i) atal;
ii) ymyrryd yn gynnar;
iii) cymorth i ddysgwyr a lles dysgwyr;
iv) dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth;
v) rhieni, gofalwyr a’r gymuned;
vi) mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein; a
vii) ymchwil a gwerthuso.

23. Er mai ar gyfer ysgolion a cholegau y mae’r cynllun gweithredu hwn, gall nifer o elfennau ohono oleuo arfer a phrosesau mewn addysg uwch a chael eu defnyddio fel sylfaen i asesu darpariaeth. Bydd Medr yn darparu cyfleoedd newydd i rannu gwersi perthnasol ar draws gwahanol linynnau yn y system addysg drydyddol, fel a ofynnodd prifysgolion mewn ymatebion i W23/29HE.

24. Ym mis Ionawr 2024, fe gyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ‘Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd’. Mae Cam Gweithredu 5 yn yr adroddiad, mewn perthynas ag addysg uwch, yn datgan y dylai Medr ‘gydweithio â’r sector i gytuno ar gamau gweithredu sy’n cryfhau dulliau ataliol ar draws y sector’. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r angen i ystyried pobl fudol â phrofiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn enwedig y rhai heb hawl i arian cyhoeddus, sy’n cynnwys llawer o fyfyrwyr rhyngwladol.

25. Ym mis Ebrill 2024, fe wnaeth y 1752 Group, sefydliad ymchwil ac ymgyrchu sy’n gweithio i fynd i’r afael â chamymddwyn rhywiol gan staff mewn addysg uwch, gyhoeddi ‘Self-Assessment and Strategic Planning Tool: Sexual Violence, Harassment & Misconduct (SVHM) in Higher Education’, sydd wedi’i fwriadu i gynorthwyo sefydliadau addysg uwch i fyfyrio ynghylch cynnydd, adnabod targedau pellach, a mapio canlyniadau yn y maes hwn. Gellir defnyddio’r pecyn cynllunio hwn a phecynnau cymorth eraill, gan gynnwys ‘#CombatMisconduct’, a gyhoeddwyd yn 2021, gan AVA (Against Violence & Abuse), Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr y DU ac Universities UK, i gynorthwyo prifysgolion i wneud cynnydd yn erbyn amcanion a ddisgrifir mewn Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol a byddant o ddiddordeb i ddarparwyr addysg uwch eraill.

26. Ym mis Mehefin 2024, fe wnaeth Cynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer y cyfnod rhwng 2024 a 2025, sy’n amlinellu’r camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd i atal trais ac i gefnogi ac amddiffyn pobl sydd wedi profi trais. Yn unol â Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26, y nod lefel uchel yw ‘gweithio gyda holl randdeiliaid Cymru i wella dealltwriaeth o drais a cham-drin ac ymateb i achosion sy’n codi o fewn eu gwasanaethau, a gwella llwybrau cymorth i oroeswyr mewn ffordd gydweithredol ar draws systemau’.

27. Ym mis Medi 2024, fe gyhoeddodd Cymru Heb Drais eu pecyn cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais, sy’n cynnwys adroddiadau ymchwil a ffeithluniau i gynorthwyo sefydliadau i ymgysylltu â dynion a bechgyn i atal trais. Mae hwn yn cynnwys adroddiad ar ganfyddiadau allweddol o brosiectau ‘Profi a Dysgu’ ledled Cymru, ac adolygiad Cymru gyfan o raglenni.

28. Daeth Deddf Amddiffyn Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 i rym ar 26 Hydref 2024. Mae hon yn cyflwyno rhwymedigaeth gyfreithiol gadarnhaol ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i amddiffyn eu gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi diweddaru ei ganllawiau blaenorol i gynnwys gwybodaeth am y ddyletswydd ataliol newydd fel bod cyflogwyr yn deall eu rhwymedigaethau dan gyfraith cydraddoldeb.

Adolygu cynnydd a mynd i’r afael â thrais yn
erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn addysg uwch a rhannu
arfer

29. Adnabu prifysgolion nifer o feysydd lle byddent yn croesawu gwybodaeth pellach ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym wedi nodi’r rhain, a byddwn yn ystyried ymhellach sut orau y gallwn ymateb iddynt, gan gynnwys trwy fabwysiadu dull ‘sector cyfan’ trydyddol.

30. Yn unol â disgwyliadau Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd bod Medr yn gweithio gyda darparwyr i gryfhau dulliau ataliol, ac ymrwymiad y Cynghorwyr Cenedlaethol i wella ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac ymatebion iddynt yng Nghymru, rydym yn gofyn i brifysgolion ddarparu gwybodaeth ar ein cyfer fel rhan o’n prosesau monitro a sicrwydd parhaus. Bydd yr wybodaeth hon yn goleuo ein dealltwriaeth am lefel yr uchelgais a chyflymder, a’r cynnydd sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a thrais, cam-drin ac aflonyddu ar sail rhywedd mewn addysg uwch. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i:
i) goleuo ein dealltwriaeth am flaenoriaethau prifysgolion ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25, yn enwedig lle mae hyn yn ymwneud â’r adborth a ddarparwyd yn flaenorol gan CCAUC;
ii) dangos tystiolaeth o gynnydd tuag at sicrhau addysg uwch ddiogel a chynhwysol;
iii) rhannu arfer diddorol;
iv) adrodd wrth Lywodraeth Cymru am gyfraniad addysg uwch at y strategaeth a’r glasbrint Trais yn erbyn Menywod; a
v) goleuo ein datblygiadau polisi a chofrestru.

31. Rydym yn disgrifio ein gofynion adrodd yn Atodiad A.

32. Os oes gwybodaeth benodol y byddwch yn ei darparu ar ein cyfer ni yr ydych yn dymuno i ni beidio â’i rhannu’n fwy eang, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda. Darparwch wybodaeth am wasanaethau neu weithgareddau yn unig ac nid achosion unigol os gwelwch yn dda.

Amserlen

33. Anfonwch eich ymatebion at Orla Tarn ([email protected]) erbyn Dydd Gwener 7 Mawrth 2025.

Asesu effaith ein polisïau

34. Rydym wedi cynnal ymarfer sgrinio i asesu’r effeithiau er mwyn helpu i ddiogelu rhag gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar ryw, oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol a phriodas a phartneriaeth sifil. Rydym wedi asesu’r effeithiau ar nodweddion economaidd-gymdeithasol ac rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar gymunedau buddiant[4] a chymunedau lle[5].

35. Rydym wedi ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg, a darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch a chyfraniad posibl at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Cysylltwch â [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am asesiadau o’r effaith.

Rhagor o wybodaeth

36. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Orla Tarn ([email protected]).

Troednodyn

[1] Changing the culture 2016; Changing the culture: directory of case studies 2017; Changing the culture: one year on 2018; Changing the culture: two years on 2019; Changing the culture: tackling staff-to-student sexual misconduct 2022; Changing the culture: sharing personal data in harassment cases 2022.

[2] Y pedair egwyddor a amlinellir yw dull cynhwysfawr, dull sy’n canolbwyntio ar y goroeswr, dull sy’n seiliedig ar hawliau dynol a dull sy’n canolbwyntio ar atebolrwydd.

[3] Mae glasbrint Llywodraeth Cymru’n cael ei oleuo gan chwe ffrwd waith: comisiynu cynaliadwy ar draws systemau; anghenion plant a phobl ifanc; anghenion pobl hŷn; mynd i’r afael â chyflawni trais; aflonyddu yn y gweithle; aflonyddu ar sail rhywedd mewn mannau cyhoeddus.

[4] Cymunedau buddiant yw’r rhai sy’n rhannu hunaniaeth, e.e. rhieni sengl, gofalwyr; y rhai sy’n rhannu un neu fwy nag un nodwedd warchodedig, e.e. LHDTC+, pobl hŷn; grwpiau o bobl sydd wedi rhannu profiad, e.e. digartrefedd, yr un system iechyd/gofal cymdeithasol leol neu wasanaeth lleol.
[5] Cymunedau lle yw’r rhai sy’n rhannu lleoliad daearyddol, e.e. Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

Medr/2024/05: Mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn addysg uwch

Dyddiad: 13 Tachwedd 2024

Cyfeirnod: Medr/2024/05

At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Ymateb erbyn: Dydd Gwener 7 Mawrth 2025

Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu gwybodaeth ac yn gofyn am ddiweddariadau gan brifysgolion ar eu camau gweithredu i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) mewn addysg uwch, gan gynnwys fel y mae ymddygiadau o’r fath yn berthnasol i bobl ni waeth sut y maent yn uniaethu.

Medr/2024/05 Mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn addysg uwch

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio