This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd: Chwefror i Ebrill 2024 (dros dro)

Mae ffigurau Chwefror i Ebrill (Ch3) 2023/24 yn dros dro.

  • Dechreuodd 4,565 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch3 2023/24, o gymharu â 5,335 yn Ch3 2022/23.
  • Ymhlith y Prentisiaethau Sylfaen a’r Prentisiaethau Uwch y gwelwyd y gostyngiadau mwyaf o gymharu â Ch3 y flwyddyn gynt.
  • Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector eang mwyaf poblogaidd yn Ch3 2023/24 hefo 2,305 raglenni dysgu prentisiaethau yn ddechreuwyd. Roedd 50% o’r holl raglenni dysgu prentisiaethau a ddechreuwyd mewn Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Roedd 67% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr benywaidd yn Ch3 2023/24, gan aros yr un peth â Ch3 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 42% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr 25 i 39 yn Ch3 2023/24. o gymharu â 44% yn Ch3 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 13% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn Ch3 2023/24, o gymharu ag 14% yn Ch3 y flwyddyn gynt.
  • Roedd 12% o raglenni dysgu prentisiaeth wedi’u dechrau gan ddysgwyr a oedd yn nodi bod ganddynt anabledd ac/neu anhawster dysgu, o gymharu ag 11% yn Ch3 y flwyddyn gynt.
  • Mae 59,565 o brentisiaethau wedi’u dechrau ers Ch4 2020/21, yn rhan o’r cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o 125,000 o brentisiaethau.
  • Roedd y Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys targed i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed. Yn ystod cyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 26 Mehefin 2024, fe gytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg ar darged newydd o 100,000 o brentisiaethau pob oed i gynnal targed tymor blaenorol y Senedd o 100,000.
Rhaglenni dysgu Prentisiaeth a ddechreuwyd: dangosfwrdd rhyngweithiol

Data dros dro

Cynhyrchir yr ystadegau yn yr adroddiad hwn bob chwarter. Ffigurau dros dro yw’r rhai chwarterol am eu bod yn seiliedig ar ddata wedi’u rhewi’n gynharach o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. Bydd y data hyn yn parhau i gael eu diweddaru nes rhewi’r data am y tro olaf ym mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd.

Caiff y ffigurau dros dro ar gyfer y flwyddyn eu pennu’n derfynol pan gaiff data Ch4 (Mai i Orffennaf) eu cyhoeddi ym mis Chwefror/Mawrth bob blwyddyn, yn seiliedig ar y data a gafodd eu rhewi ym mis Rhagfyr.

Dechreuadau mesur targed

Yn yr ystadegau ar gyfer y mesurau targed defnyddir dull mwy trwyadl o fesul dechreuadau rhaglenni prentisiaeth nag ystadegau eraill yn yr allbwn hwn. Mae’r dull hwn o fesur yn rhoi cyfrif am rai sy’n tynnu’n ôl yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) ac am drosglwyddiadau rhwng prentisiaethau.

Mae gradd-brentisiaethau bellach wedi’u cynnwys yn y mesur targed presennol. Mae gradd-brentisiaethau yng Nghymru yn rhoi’r cyfle i gyfuno gweithio ag astudio’n rhan-amser yn y brifysgol. Daw’r data o’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Er bod ystadegau gan HESA wedi’u cyfrifo fel y gellir eu cymharu cymaint â phosibl ag ystadegau ar gyfer rhaglenni prentisiaethau eraill a geir o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) (er enghraifft, peidio ag ystyried pobl sy’n gadael rhaglenni’n gynnar), bydd rhai gwahaniaethau methodolegol yn parhau. Yn wahanol i’r LLWR, mae data HESA ar gael yn flynyddol yn unig. A bydd ystadegau ar gyfer y flwyddyn academaidd ddiweddaraf sydd ar gael yn cael eu cynnwys ym mhob diweddariad ar gyfer Chwarter 4.

Rhagor o wybodaeth am ansawdd

Heblaw am y data dros dro a’r mesur targed, cynhyrchir yr ystadegau hyn yn yr un modd â’r ystadegau yn yr Adroddiadau blynyddol addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran ansawdd yr adroddiadau hynny.

Datganiad Cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Caiff ein harferion ystadegol eu rheoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Mae’r OSR yn gosod y safonau ar gyfer dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol gadw atynt.

Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â’n Datganiad Cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a nifer o bolisïau eraill.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

Sicrheir hyn drwy gydymffurfiaeth ystadegwyr proffesiynol â’r Cod Ymarfer Ystadegau. Caiff dyddiadau rhyddhau eu cyhoeddi ymlaen llaw, a chedwir at brotocolau’n gysylltiedig â chyfrinachedd data.

Ansawdd

Daw’r data o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru a gyflwynir gan ddarparwyr dysgu. Defnyddir y data hyn hefyd i benderfynu ynghylch cyllid i ddarparwyr dysgu, ac maent yn destun archwiliad.

Pan gyflwynir y data, rhaid iddynt fodloni rheolau dilysu penodol. Pan gaiff yr ystadegau eu cynhyrchu cynhelir gwiriadau ansawdd gan yr ystadegwyr.

Gwerth

Mae’r ystadegau hyn yn rhoi cipolwg cyflymach o’r nifer sy’n manteisio ar brentisiaethau yng Nghymru na’r adroddiadau a lunnir yn flynyddol. Fe’u defnyddir i fonitro a gwerthuso’r sector. Maent yn adrodd ar gynnydd yn erbyn targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd adroddiadau cynharach yn y gyfres hon ar llyw.cym.

Cyswllt: [email protected]

Polisi ar weld ystadegau swyddogol cyn eu rhyddhau Polisi diwygiadau a chywiriadau i ystadegau

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio