This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Sta/Medr/01/2026: Myfyrwyr mewn Addysg Uwch, 2024/25

Ymrestriadau mewn darparwyr addysg uwch (AU) yng Nghymru
  • Cafwyd 143,825 o ymrestriadau mewn darparwyr AU yng Nghymru yn 2024/25, 5% yn llai na’r 150,680 a gafwyd yn 2023/24. Mewn cymhariaeth, ar gyfer darparwyr AU ledled y DU, gostyngodd nifer yr ymrestriadau 1% yn 2024/25 o gymharu â 2023/24
  • Yn 2024/25 cafwyd 32,070 o ymrestriadau ôl-radd mewn darparwyr AU yng Nghymru. Roedd hyn yn ostyngiad o 19% gymharu â 2023/24 pan gafwyd 39,360 o ymrestriadau ôl-radd. Gostyngiad yn nifer yr ymrestriadau gan fyfyrwyr o’r tu allan o’r DU ar gyrsiau ôl-radd a addysgir oedd i gyfrif am y rhan fwyaf o’r gostyngiad hwn.
  • Yn 2024/25 cafwyd 111,755 o ymrestriadau ar lefel israddedig. Roedd hyn yn wahaniaeth o lai nag 1% o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol a 6% yn uwch nag yn 2016/17.
  • Roedd 48% o’r ymrestriadau mewn darparwyr AU yng Nghymru yn fyfyrwyr oedd â’u cyfeiriad parhaol yng Nghymru cyn dechrau astudio. Roedd 37% o’r ymrestriadau yn 2024/25 yn fyfyrwyr o weddill y DU, ac 15% o’r tu allan i’r DU.
  • Mae cyfran yr ymrestriadau gan fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Roedd 22% o’r ymrestriadau yn 2024/25 yn fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd.
  • O’r ymrestriadau gan fyfyrwyr o’r DU lle’r oedd y cefndir ethnig yn hysbys, roedd 17% o’r ymrestriadau gan fyfyrwyr a chefndir lleiafrifol ethnig yn 2024/25. Mae’r gyfran hon wedi bod yn cynyddu’n gyson o’r naill flwyddyn i’r nesaf.
  • Arweiniodd 52,685 o ymrestriadau gan fyfyrwyr at ennill cymhwyster yn 2024/25. Roedd hyn yn gynnydd o 5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Enillodd 29% o fyfyrwyr gradd gyntaf radd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2024/25. Roedd hyn ddau bwynt canran yn uwch nag yn 2023/24.
Ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru mewn darparwyr AU ledled y DU
  • Cafwyd 103,060 o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru mewn darparwyr AU ledled y DU yn 2024/25. Roedd hyn yn debyg i’r 103,205 o ymrestriadau yn 2023/24.
  • Roedd bron i un o bob tri ymrestriad gan fyfyrwyr o Gymru mewn darparwyr AU y tu allan i Gymru yn 2024/25.
  • Mae cyfrannau cynyddol o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn rhai gan fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd. Roedd 25% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn 2024/25 yn ymrestriadau gan fyfyrwyr y gwyddys bod ganddynt anabledd.
  • Mae cyfrannau cynyddol o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn  rhai gan fyfyrwyr o gefndir lleiafrifol ethnig. Roedd 12% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yn 2024/25 yn fyfyrwyr o gefndir lleiafrifol ethnig.
  • Yn 2024/25, roedd 17% o ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru ar gyrsiau gradd amser llawn o’r cwintel mwyaf amddifadus ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC 2019), o gymharu â 26% o’r cwintel lleiaf amddifadus. Mae’r ffaith bod niferoedd llawer uwch o ymrestriadau gan fyfyrwyr o ardaloedd â llai o amddifadedd mewn darparwyr AU y tu allan i Gymru, o gymharu â’r rhai o ardaloedd â mwy o amddifadedd yn egluro hyn.
  • Arweiniodd 31,090 o ymrestriadau ledled y DU gan fyfyrwyr o Gymru at ennill cymhwyster yn 2024/25. Roedd hyn yn gynnydd o 5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Sta/Medr/01/2026: Myfyrwyr mewn Addysg Uwch, 2024/25

Cyfeirnod: Sta/Medr/01/2026

Dyddiad: 29 Ionawr 2026

Dynodiad:  Ystadegau Swyddogol

Crynodeb: Ystadegau ar ymrestriadau mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, ac ymrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio mewn darparwyr addysg uwch ledled y DU

Sta/Medr/01/2026 Myfyrwyr mewn Addysg Uwch 2024/25

Dogfennau eraill

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio