Newyddion
Rôl Medr yn y broses o ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth
15 Apr 2026
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid i unrhyw gynnig i sefydlu darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, cau darpariaeth o’r fath neu ei newid yn sylweddol, gael ei gyflwyno i Medr er mwyn ei ystyried ac ymgynghori arno.
Sefydlwyd Medr ym mis Awst 2024, gan ddod â swyddogaethau rheoleiddio a chyllido gwahanol rannau o’r sector addysg drydyddol yng Nghymru ynghyd o dan un corff am y tro cyntaf. Daw hyn â nifer o fanteision, yn enwedig o ran sicrhau y gall dysgwyr gael addysg o safon uchel yn gyson, pa lwybr bynnag y byddant yn ei ddewis. Fodd bynnag, mae’r dull newydd yn golygu bod angen gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod gwahanol rannau o’r sector addysg drydyddol yn fwy cyson â’i gilydd.
Os ydych chi wedi bod yn rhan o’r adolygiad o ddarpariaeth addysg leol neu o gynllunio newidiadau i strwythurau ysgolion, byddwch yn ymwybodol bod y broses yn gymhleth, yn hynod reoleiddiedig, ac yn ddibynnol ar gydgysylltu rhwng nifer o bartneriaid.
Yn sgil cyflwyno’r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Ddeddf”), a chyhoeddi’r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig (“y Cod”) ar 1 Ebrill 2026, mae gan Medr rôl statudol ffurfiol o fewn proses ysgolion o ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth erbyn hyn. Golyga hyn y bydd yn rhaid i unrhyw gynnig i sefydlu darpariaeth chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, cau darpariaeth o’r fath neu ei newid yn sylweddol, gael ei gyflwyno i Medr er mwyn ymgynghori arno. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn ag addysg ôl-16 yn seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth ac yn gyson â blaenoriaethau cenedlaethol.
Ein rôl statudol
Mae Atodlen 4 o’r Ddeddf yn rhoi cyfrifoldebau cyfreithiol clir i Medr mewn perthynas â newidiadau sy’n effeithio ar ddosbarthiadau chwech. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn berthnasol i’r holl ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion gwirfoddol a sefydledig sy’n gweithredu dosbarthiadau chwech.
Gweler tudalen gwe chweched dosbarth mewn ysgolion MedrO dan y ddeddfwriaeth, gall Medr ei gwneud yn ofynnol:
- I awdurdodau lleol gyflwyno cynigion i agor neu gau darpariaeth chweched dosbarth annibynnol, neu ehangu neu leihau nifer y lleoedd chweched dosbarth sydd eisoes yn bodoli.
- I gyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol neu sefydledig gynnig newidiadau i’w cynnig chweched dosbarth lle bo angen.
Tra bydd y pwerau hyn yn bodoli mewn deddfwriaeth, nid ydym yn disgwyl bod mewn sefyllfa lle y rhagwelir y caiff ymyriadau o’r fath eu defnyddio.
Mae gan awdurdodau lleol eu dyletswyddau penodol eu hunain hefyd. Yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol ffurfiol ar gyfer unrhyw gynnig sy’n ymwneud â:
- sefydlu neu gau chweched dosbarth
- newid cyfrwng (iaith) cyfarwyddyd
- ehangu neu leihau nifer y lleoedd yn sylweddol
…rhaid iddynt ymgynghori â Medr. Bydd hyn yn ein galluogi i roi ymateb ffurfiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, deilliannau dysgwyr a chynaliadwyedd hirdymor y system addysg ôl-16 yng Nghymru.
Helpu i ymgysylltu’n gynnar ynghylch cynigion sy’n ymwneud â dosbarthiadau chwech
Er mai yn ystod ymgyngoriadau statudol y daw ein rôl ffurfiol i rym, rydym yn annog awdurdodau lleol yn gryf i ymgysylltu â ni yn llawer cynharach—ar y cam meddwl neu archwilio cychwynnol.
Bydd y ddeialog gynnar hon yn ein helpu i wneud y canlynol:
- Rhannu tystiolaeth a chyngor adeiladol cyn i gynigion gael eu ffurfio
- Helpu i ddatblygu opsiynau cydlynol sydd wedi’u dylunio’n dda
- Datblygu dealltwriaeth gyffredin rhwng blaenoriaethau lleol a’n Cynllun Strategol ehangach
- Sicrhau y bydd unrhyw ymateb statudol yn y dyfodol yn seiliedig ar wybodaeth, yn sylweddol ac yn wirioneddol fuddiol
Er na fydd yr ymgysylltu cynnar hwn yn rhan o’r broses statudol, bydd yn gwneud cyfraniad hanfodol at gydweithio’n well a sicrhau bod cynigion yn gadarn ac yn canolbwyntio ar y dysgwr o’r cychwyn cyntaf.
Cysoni cynigion â Chynllun Strategol Medr
Dylai pob cynnig sy’n ymwneud ag ad-drefnu darpariaeth chweched dosbarth ddangos sut mae’n gyson â’r blaenoriaethau a nodir yn ein Cynllun Strategol.
Drwy ymgysylltu’n gynnar, gall awdurdodau lleol ddeall yn well sut mae eu cynlluniau’n cyd-fynd ag uchelgeisiau cenedlaethol ar gyfer system addysg ôl-16 gydlynol a chynaliadwy o safon uchel ledled Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod newidiadau i ddarpariaeth yn helpu i ddiwallu anghenion lleol a gwella’r system gyfan.
Canllawiau fframwaith newydd ar y gweill
Er mwyn rhoi cymorth pellach i awdurdodau lleol, rydym wrthi’n datblygu canllawiau fframwaith newydd ar y cyd â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru. Bydd y fframwaith hwn yn helpu i lywio’r gwaith meddwl cyn i gynigion fod yn destun ymgyngoriadau statudol, gan sicrhau eu bod:
- Yn gyson â dyletswyddau statudol ac amcanion strategol Medr
- Yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn a thryloyw
- Wedi’u dylunio i ddiwallu anghenion hirdymor dysgwyr a chymunedau
- Yn cefnogi tirwedd addysg ôl-16 genedlaethol gydlynol
Caiff rhagor o fanylion am y canllawiau newydd hyn eu rhannu yn nes ymlaen eleni.
Os hoffech drafod cynigion posibl neu archwilio syniadau ar gam cynnar, bydd tîm Medr yn fwy na pharod i helpu bob amser. Gall sgyrsiau cynnar wneud gwahaniaeth ystyrlon o ran datblygu darpariaeth chweched dosbarth gadarn sy’n addas at y dyfodol ar gyfer dysgwyr ledled Cymru.
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio