Cyhoeddiadau
Medr/2026/05: Dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer Coleg Cambria 2025/26
11 Feb 2026
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr am y dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd i Goleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, ac yn atodiad i’r dyraniadau cyllid addysg uwch a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025 yng nghyhoeddiad Medr Medr/2025/06: Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae Coleg Cambria yn gymwys i gael cyllid gan Medr ar gyfer ei ddarpariaeth addysg uwch o flwyddyn academaidd 2025/26 gan fod ganddo gynllun ffioedd a mynediad cymeradwy o flwyddyn academaidd 2025/26.
Cyllid addysgu addysg uwch craidd
2. Mae cyllid addysgu addysg uwch craidd yn cynnwys:
- Cyllid cyrsiau gradd rhan-amser yn seiliedig ar gredydau;
- Cyllid fesul pen;
- Premiwm mynediad a chadw;
- Premiwm anabledd;
- Premiwm pynciau drud;
- Premiwm pynciau cost uwch;
- Premiwm cyfrwng Cymraeg.
Ceir rhagor o wybodaeth am y ffrydiau ariannu hyn yn Medr/2025/06.
3. Defnyddiwyd data a gasglwyd ar gofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) 2023/24 ar gyfer Coleg Cambria wrth gyfrifo’r dyraniadau. Ceir rhagor o wybodaeth am y data a echdynnwyd ac a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo yng nghyhoeddiad Medr Medr/2024/01: Gofynion Data Addysg Uwch 2024/25.
4. Rhoddir gwybod ar wahân am ffrydiau ariannu addysg uwch eraill y gallai Coleg Cambria fod yn gymwys ar eu cyfer.
Dyraniadau Coleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
5. Mae’r tabl canlynol yn dangos dyraniadau addysgu craidd Coleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26:
| Ffrwd cyllid | Cyllid israddedig amser llawn (£) | Cyllid israddedig rhan-amser (£) | Cyfanswm cyllid addysgu craidd 2025/26 (£) |
|---|---|---|---|
| Cyllid israddedig rhan-amser yn seiliedig ar gredydau | 0 | 0 | 0 |
| Cyllid fesul pen | 132 | 5 | 137 |
| Y Premiwm Mynediad a Chadw | 0 | 212 | 212 |
| Premiwm anabledd | 0 | 0 | 0 |
| Premiwm pynciau drud | 0 | 0 | 0 |
| Premiwm pynciau cost uwch | 16,668 | 0 | 16,668 |
| Y premiwm cyfrwng Cymraeg | 0 | 0 | 0 |
| Cyfanswm | 16,800 | 217 | 17,017 |
Amserlen dalu
6. Yr amserlen dalu ar gyfer cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 fel arfer yw talu 10% o’r cyllid i ddarparwyr ym mhob mis o’r flwyddyn heblaw am fis Chwefror a mis Mawrth. Felly, ar gyfer Coleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, bydd taliadau ar gyfer Awst 2025 i Ionawr 2026 (cyfanswm o 60%) yn cael eu talu gyda thaliad Ebrill 2026 a bydd 10% pellach yn cael ei dalu ym mis Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf 2026.
Rhagor o wybodaeth
7. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn i sylw Hannah Falvey ([email protected]).
Medr/2026/05: Dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer Coleg Cambria 2025/26
Dyddiad: 11 Chwefror 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/05
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn hysbysu darparwyr am y dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd i Goleg Cambria ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, ac yn atodiad i’r dyraniadau cyllid addysg uwch a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025 yng nghyhoeddiad Medr Medr/2025/06:Dyraniadau cyllid Medr ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Medr/2026/05 Dyraniadau cyllid addysgu addysg uwch craidd ar gyfer Coleg Cambria 2025/26Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio