Newyddion
Gwaith ymchwil newydd yn dangos bwlch ieithyddol rhwng prifysgolion a chyflogwyr sy’n effeithio ar ragolygon swyddi graddedigion
28 Oct 2025
Mae prosiect ymchwil cydweithredol, a ariannwyd gan Medr drwy Advance HE, wedi canfod bod myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd dehongli disgrifiadau swydd ymhlyg.
Mae astudiaeth arloesol sy’n archwilio’r ffordd y bydd myfyrwyr yn dehongli iaith cyflogwyr wedi datgelu heriau sylweddol o ran cysondeb rhwng y derminoleg a ddefnyddir gan brifysgolion, cyflogwyr a graddedigion sy’n chwilio am swyddi.
Cafodd prosiect ymchwil cydweithredol Ydyn ni’n siarad yr un iaith? ei ariannu gan Medr drwy Advance HE, a chymerodd saith prifysgol yng Nghymru ran ynddo. Mae’n archwilio p’un a all myfyrwyr ddeall yr iaith a ddefnyddir yn gyffredin mewn hysbysebion ar gyfer swyddi i raddedigion ac ymateb iddi’n effeithiol ai peidio.
Drwy ddadansoddi hysbysebion swydd mewn nifer o sectorau gan ddefnyddio cymorth deallusrwydd artiffisial, creodd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, y Brifysgol Agored, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Wrecsam ddwy fersiwn o hysbysebion swydd – un a oedd yn defnyddio iaith eglur a oedd yn gyson â phriodoleddau graddedigion prifysgol, ac un arall a oedd wedi’i geirio yn y ffordd ymhlyg a welir yn fwy cyffredin mewn deunyddiau recriwtio gan gyflogwyr.
Canfyddiadau allweddol
Dangosodd y gwaith ymchwil fod myfyrwyr yn ymateb yn llawer gwell i ddisgrifiadau swydd eglur na rhai ymhlyg, sy’n tynnu sylw at ddatgysylltiad allweddol sy’n effeithio ar gyflogadwyedd graddedigion a phrosesau recriwtio cyflogwyr.
Yn nodedig ddigon, canfu’r astudiaeth y gallai niwroamrywiaeth effeithio ar y ffordd y bydd myfyrwyr yn dehongli hysbysebion swydd sydd wedi’u geirio’n ymhlyg, sy’n codi cwestiynau pwysig am arferion recriwtio cynhwysol a goblygiadau posibl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn galw am weithredu brys i wneud y canlynol:
- gwella cymorth i fyfyrwyr er mwyn eu helpu i ddehongli iaith ymhlyg cyflogwyr a’i mapio i gymwyseddau a addysgir gan brifysgolion
- integreiddio profiad o ymwneud â diwydiant mewn cwricwla drwy brosiectau, lleoliadau a mentora wedi’u diffinio gan gyflogwyr
- cynnal adolygiad a arweinir gan ddiwydiant o iaith disgrifiadau swydd, yn enwedig mewn perthynas ag ymgeiswyr niwroamrywiol
- cyfeirio at briodoleddau graddedigion sy’n berthnasol i bynciau penodol er mwyn bod yn llai haniaethol a gwella eglurder i fyfyrwyr.
Dywedodd James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Mae hwn yn waith hanfodol a chraff a gafodd ei hwyluso gan Advance HE a’i wireddu drwy ymroddiad prifysgolion yng Nghymru sy’n arwain arloesedd ym maes cyflogadwyedd myfyrwyr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canfyddiadau newydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y ffordd y bydd graddedigion yn ymdrin â gofynion swyddi; yn rhoi gwybod i brifysgolion pa welliannau y gellid eu gwneud i’r cymorth y maent yn ei gynnig i fyfyrwyr; ac yn helpu cyflogwyr i ddenu cronfa ehangach o raddedigion.”
Dywedodd Stuart Norton, Pennaeth Rhagoriaeth Addysgol yn Advance HE:
“Mae’r gwaith ymchwil newydd hwn yn tynnu sylw at her i gyflogwyr o ran recriwtio, yn ogystal â her i raddedigion sy’n chwilio am swyddi.
“Mae’r bwlch sylweddol rhwng iaith eglur ac ymhlyg mewn disgrifiadau swydd yn golygu y gall graddedigion dawnus fod yn colli cyfleoedd am na allant ddehongli’r hyn y mae cyflogwyr yn gofyn amdano mewn gwirionedd. Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar yrfaoedd unigolion, ond mae hefyd yn effeithio ar effeithiolrwydd prosesau recriwtio graddedigion ym mhob sector.”
Dywedodd y Cyd-gadeiryddion, sef yr Athro Fay Short, Dirprwy Is-Ganghellor Cyswllt â chyfrifoldeb am Gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor, a Bev Herring, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Drwy’r Gymuned Ymarfer Cyflogadwyedd, mae cydweithwyr o bob cwr o Gymru wedi dod ynghyd i rannu arbenigedd, herio tybiaethau, a chyd-greu atebion ymarferol i’r gofynion sy’n datblygu ym maes cyflogadwyedd. Mae effaith y cydweithio hwn eisoes i’w gweld yn y cysylltiadau cryfach, yr iaith gyffredin a’r dulliau cydgysylltiedig sy’n datblygu ym mhob rhan o’r sector.
“Mae’r gwaith hwn yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran arloesedd ym maes cyflogadwyedd, gan sicrhau bod ein holl raddedigion yn barod i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym iawn.”
Astudiaethau achos ar y ffyrdd y mae prifysgolion yng Nghymru yn gwreiddio arferion moesegol a chynaliadwy mewn cyflogadwyedd
Mae Ydyn ni’n siarad yr un iaith? yn ategu Ymgorffori cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg drydyddol: arfer gorau, sef prosiect addysg uwch arall ar lefel Cymru gyfan a gafodd ei ariannu gan Medr drwy Advance HE a’i gyhoeddi heddiw.
Mae’r 49 o astudiaethau achos o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn dangos dulliau arloesol sy’n ailffurfio’r ffyrdd y caiff graddedigion eu paratoi ar gyfer y farchnad swyddi fodern ac yn datgelu’r ffyrdd y mae addysgwyr yn cysylltu cyflogadwyedd â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a deddfwriaeth flaengar Cymru, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), yn effeithiol.
Dywedodd Dr Samantha Burvill o Brifysgol Abertawe, sef un o gyd-arweinyddion y grŵp ar gyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy:
“Mae Grwpiau Gorchwyl a Gorffen Medr wedi galluogi academyddion a chydweithwyr mewn gwasanaethau proffesiynol o sefydliadau addysg uwch ledled Cymru i gydweithio â’i gilydd.
“Maen nhw wedi dod â phobl ynghyd sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth, wedi bod yn fodd i feithrin cyfeillgarwch ac wedi cyfrannu at brosiectau parhaus a fydd yn cael effaith ar arferion cyflogadwyedd ledled Cymru a thu hwnt – sy’n dyst gwirioneddol i bŵer cydweithio.”
Dywedodd Dr Jason Woolley o Brifysgol Wrecsam, sef cyd-arweinydd arall y grŵp ar gyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy:
“Yn bersonol, ac fel rhan o Grŵp Gorchwyl a Gorffen, mae gweithgareddau a digwyddiadau symposia Cymuned Ymarfer Medr ac Advance HE wedi fy ysbrydoli ac wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi yn ymarferol.
Ymgorffori cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg drydyddol: enghreifftiau o arfer gorau (adroddiad cryno sy'n trafod canfyddiadau allweddol yr astudiaethau achos) Ymgorffori cyflogadwyedd moesegol a chynaliadwy mewn addysg drydyddol: enghreifftiau o arfer gorau (adroddiad llawn) Ydyn ni'n siarad yr un iaith? Cysoni terminoleg cyflogadwyedd rhwng prifysgolion, myfyrwyr a chyflogwyr Cymuned Ymarfer Cyflogadwyedd Addysg Uwch Cymru“Mae’r digwyddiadau eu hunain wedi bod yn wych ar gyfer meincnodi syniadau a strategaethau gyda chydweithwyr o sefydliadau addysg uwch eraill yng Nghymru, a hefyd wedi cynnig cyfle unigryw i drafod heriau cyflogadwyedd mewn fforwm ehangach. Rwy’n credu bod Cymuned Medr yn helpu staff i helpu eu myfyrwyr a’u graddedigion i gael llwyddiant cynaliadwy yn eu gyrfaoedd – hir oes i’r Gymuned!”
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio