This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Lansio cymorth newydd i oedolion ifanc sy’n ofalwyr mewn addysg bellach

Mae adnodd newydd sy’n rhoi cyngor a syniadau i golegau addysg bellach i wella eu cymorth i ddysgwyr â chyfrifoldebau gofalu wedi cael ei lansio heddiw.

Mae’r pecyn cymorth, a grëwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yn darparu mewnwelediad manwl i’r cymorth sy’n helpu oedolion ifanc sy’n ofalwyr i gyfranogi a ffynnu mewn addysg bellach.

Mae’r canllaw arfer da’n cynnwys awgrymiadau a chynghorion ymarferol, rhestri gwirio ac astudiaethau achos sy’n rhoi sylw i oedolion ifanc sy’n ofalwyr, a bydd yn galluogi colegau i adolygu eu cymorth i oedolion ifanc sy’n ofalwyr ac adeiladu arno’n barhaus.

Meddai Kieron Rees, Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr Medr:

“Yn ystod Wythnos Gofalwyr eleni rydym wrth ein bodd bod y pecyn cymorth pwysig hwn a allai newid bywydau’n cael ei lansio.

“Mae gwneud y dysgwr yn ganolog i’w profiad yn allweddol i ni yn Medr, ac mae’r ffaith bod y Sefydliad Dysgu a Gwaith wedi gweithio gyda dwsinau o oedolion ifanc sy’n ofalwyr ledled Cymru i ddeall go iawn sut y mae cymorth effeithiol yn edrych mewn AB yn rhan hollbwysig o’r darn hwn o waith.

“Nid yn unig bydd colegau’n gallu defnyddio’r pecyn cymorth i roi trefniadau yn eu lle i gefnogi oedolion ifanc sy’n ofalwyr, ond bydd hefyd yn helpu staff i ddeall anghenion amrywiol gofalwyr ifainc yn y system addysg.”

Soniodd yr oedolion ifanc sy’n ofalwyr a gyfranogodd yn yr ymchwil mai:

  • staff sy’n deall eu sefyllfa
  • cymorth hyblyg sy’n addasu i’w rôl ofalu
  • cyfathrebu clir
  • ffyrdd disylw o fynegi pwy ydynt, a
  • diwylliant sy’n eu hystyried yn unigolion, nid yn broblemau i’w datrys

sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w hamser yn y coleg.

Nodiadau

Mae’r pecyn cymorth yn cyd-fynd ag Amod Cyfle Cyfartal Medr ac yn cynnig dulliau ymarferol, seiliedig-ar-dystiolaeth o adnabod oedolion ifanc sy’n ofalwyr, dileu rhwystrau a rhoi cymorth hyblyg wedi’i dargedu ar waith, sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, ac sy’n gwella mynediad, cyfranogiad a dilyniant ar gyfer oedolion ifanc sy’n ofalwyr ar draws y sector addysg bellach.

Mae Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a chynlluniau cyflawni cysylltiedig ynghyd â’r ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn 2026 yn canolbwyntio ar wella cysondeb cymorth i ofalwyr ifainc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr mewn addysg. Fe roddodd Medr gomisiwn i’r Sefydliad Dysgu a Gwaith i ddatblygu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer addysg bellach gan adeiladu ar waith cynharach yn y sector a gwblhawyd ochr yn ochr â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

Oedolion ifanc sy’n gofalu mewn addysg bellach: Pecyn cymorth ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru Blog: Sefydliad Dysgu a Gwaith

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio