This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Newyddion

Medr yn ymateb i’r cyngor cyntaf ynghylch ei ddyletswyddau o ran y Gymraeg

Heddiw mae Medr wedi croesawu ei gyngor cyntaf gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ynghylch ei ddyletswyddau o ran y Gymraeg, gan adlewyrchu ein huchelgeisiau cyffredin i annog y galw am addysg drydyddol wedi’i darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, a chyfranogiad yn hynny.  

Cyhoeddwyd y cyngor gan y Coleg, yn dilyn dynodiad y Coleg i gynghori Medr, ynghylch ei ddyletswydd i hyrwyddo addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r Bwrdd wedi rhoi ystyriaeth fanwl iddo.

Mae cyngor y Coleg yn nodi’r camau y dylai Medr a’r sector addysg drydyddol eu cymryd i gefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg a nodau Cymraeg 2050. Mae hyn yn cynnwys argymhelliad canolog y dylai Medr ddatblygu Cynllun Cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol, y mae Bwrdd Medr wedi cytuno arno.

Bydd Cynllun Strategol Medr yn cael ei gyflwyno i weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2024. Mae cyngor y Coleg, ynghyd â gwaith ymgysylltu ar draws y sector addysg drydyddol, wedi chwarae rhan hollbwysig wrth siapio’r ffordd y bydd Medr yn ymateb i’w ddyletswyddau strategol o ran y Gymraeg.

Yn ôl Simon Pirotte OBE, Prif Weithredwr Medr: “Mae’r berthynas â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hollbwysig i Medr. Rydym yn unedig yn ein dyhead i weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru, ac wedi ymrwymo i sicrhau bod y sector addysg drydyddol yn chwarae ei ran i wireddu gweledigaeth am filiwn o siaradwyr yng Nghymru erbyn 2050. Mae’r cyngor a gawsom yn nodi dechrau cyfnod newydd pwysig o gydweithio, gan adeiladu ar y seiliau cadarnhaol a osodwyd gennym eisoes. Bydd Cynllun Cenedlaethol yn sbardun hanfodol i alluogi mwy o ddysgwyr i feithrin, cynnal a defnyddio’u sgiliau Cymraeg.”

Bydd Medr yn parhau i roi ystyriaeth lawn i gyngor y Coleg wrth weithredu ei Gynllun Strategol 2025-2030 mewn partneriaeth â’r holl randdeiliaid. 

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.

Tanysgrifio