Newyddion
Addysg drydyddol yng Nghymru i gael dros £1 biliwn o fuddsoddiad am y tro cyntaf
13 May 2026
Mae Medr wedi cadarnhau mwy nag £1 biliwn o fuddsoddiad i gefnogi addysg drydyddol, ymchwil ac arloesi ledled Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
Mae’r cyllid, a fydd yn cefnogi oddeutu 330,000 o ddysgwyr, yn darparu buddsoddiad craidd ac wedi’i dargedu ar gyfer addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau, a chweched dosbarth a dysgu oedolion yn y gymuned awdurdodau lleol, ochr yn ochr â chymorth parhaus ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Mae cyfanswm cyllideb Medr ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27, gan gynnwys cyllid cyfalaf, yn £1.018 biliwn, gyda buddsoddiad ar y cyfan dros y flwyddyn academaidd yn cyrraedd £1.03 biliwn. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac yn ymgorffori cyllid ychwanegol i gefnogi meysydd megis prentisiaethau, llesiant dysgwyr, cyfranogiad ac ymchwil ac arloesi.
A hwythau’n cefnogi dysgwyr a darparwyr ledled Cymru, mae’r dyraniadau’n cadarnhau:
- £150.5 miliwn ar gyfer prentisiaethau yn 2026‑27, cynnydd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sy’n cefnogi darpariaeth o brentisiaethau sylfaen i radd-brentisiaethau.
- Cynnydd yn y buddsoddiad mewn prentisiaethau iau, gan ehangu cyfleoedd ar gyfer dysgwyr 14–16 oed.
- Dros £460 miliwn mewn cyllid craidd ar gyfer addysg bellach, sy’n gynnydd yn y gyfradd fesul uned ac yn rhoi cyfrif am amrywiannau yng nghyfranogiad dysgwyr o fewn y fethodoleg gyllido.
- £121.7 miliwn i gefnogi chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol. Eto, mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yn y gyfradd fesul uned ac yn rhoi cyfrif am amrywiannau yng nghyfranogiad dysgwyr o fewn y fethodoleg gyllido.
- Parhad cyllid ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, sy’n cefnogi darpariaeth ar gyfer dysgwyr 19 oed a throsodd.
- Mwy na £98 miliwn ar gyfer ymchwil ac arloesi mewn addysg uwch, gan gynnwys Ymchwil o Ansawdd (QR), hyfforddiant ymchwil ôl-radd a Chronfa Arloesi Ymchwil Cymru (RWIF).
Ochr yn ochr â chyllid craidd, mae Medr wedi cadarnhau buddsoddiad wedi’i dargedu i gefnogi llesiant dysgwyr, mynediad a chyfranogiad, cyflogadwyedd a sgiliau, gallu ym maes data a digidol, a blaenoriaethau strategol ar draws y sector cyfan.
Meddai James Owen, Prif Weithredwr Medr:
“Fe grëwyd Medr i ddod â mwy o gydlyniad a chydweithio i’n system addysg drydyddol ac ymchwil. Mae’r cynnydd hwn mewn buddsoddiad yn ein sector trydyddol yn ategu’r nod hwn, gan helpu darparwyr i ddarparu addysg, ymchwil ac arloesi o ansawdd da i ddysgwyr ym mhob cyfnod gan hefyd gryfhau gallu’r sector i ymateb i heriau’r dyfodol.
“Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol a wynebir gan y sector ac ar draws cyllidebau’r Llywodraeth a byddwn yn parhau i adolygu ein buddsoddiad i sicrhau bod yr uchelgeisiau hirdymor yn ein Cynllun Strategol yn cyd-fynd yn well â blaenoriaethau’r Llywodraeth newydd. Wrth wneud hynny, byddwn yn parhau â’n gwaith gyda darparwyr a phartneriaid i sicrhau bod pob punt a fuddsoddir gan Medr yn trosi’n ddysgwr, cymuned neu economi leol sy’n gallu edrych tua’r dyfodol â mwy o hyder a llewyrch.”
Dyraniadau buddsoddi trydyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, gan gynnwys dyraniadau darparwyr unigol a gwybodaeth fethodolegol fanwl:
Dyraniadau Buddsoddi Trydyddol ar gyfer 2026/27Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio