Cyhoeddiadau
Medr/2026/22: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ym Mlwyddyn Academaidd 2026/27 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid
05 Jun 2026
Cyflwyniad
1. Mae Adran 5 Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Deddf 2022) yn nodi bod rhaid i Medr hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Gymreig ac, wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, bod rhaid iddo roi sylw:
a. i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel, a
b. i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus.
2. Mae Adran 5 (3) yn nodi bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn golygu:
a. athrawon personau sy’n cael addysg drydyddol,
b. personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac
c. personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.
3. I roi cymorth i gyflawni’r ddyletswydd hon, mae dysgu proffesiynol wedi’i gynnwys yng Nghynllun Strategol Medr dan Nod Strategol 3.
| Nod Strategol 3 Sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r ansawdd gorau mewn system addysg drydyddol sy’n ymegnïo i wella’n barhaus. |
| Ymrwymiad twf Cynorthwyo’r gweithlu addysg drydyddol i gael mynediad at ddysgu proffesiynol effeithiol ac archwilio ffyrdd o rannu arfer gorau, gan estyn addysgeg effeithiol ar draws y sector cyfan. |
4. Gall dysgu proffesiynol yn y cyd-destun hwn gynnwys hyfforddiant gorfodol, datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), gwybodaeth bynciol a diwydiannol, cymwysterau proffesiynol, ymchwil weithredol ac ymholi proffesiynol.
Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol
5. Yn 2019, fe gomisiynodd Llywodraeth Cymru Astudiaeth Gwmpasu Dysgu Proffesiynol i ddeall yn well sut allai dysgu proffesiynol gynorthwyo’r gweithlu ôl-16 i ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r sector. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys addysg bellach, dysgu seiliedig-ar-waith ac addysg oedolion yng Nghymru ac fe’i cynhaliwyd gan ICF Consulting Services Ltd, mewn cydweithrediad gydag Arad Research Ltd.
6. Darparodd yr astudiaeth sylfaen dystiolaeth gref, gan adnabod bylchau o ran sgiliau a gwneud cyfres o argymhellion i oleuo polisi yn y dyfodol. Er bod y gwaith hwn wedi bod yn werthfawr, mae wedi canolbwyntio ar AB a sectorau cysylltiedig gan mwyaf.
7. Gan adeiladu ar waith cynharach gan Lywodraeth Cymru a’r gwersi a ysgogwyd trwy’r Gronfa Dysgu Proffesiynol AB, mae Medr wedi comisiynu astudiaeth gwmpasu newydd ar ddysgu proffesiynol ar draws y sector trydyddol.
8. Diben yr astudiaeth hon yw sefydlu sylfaen dystiolaeth gadarn, gychwynnol i oleuo penderfyniadau strategol yn y dyfodol ynghylch dysgu proffesiynol y tu hwnt i AB, gan gynnwys AU. Bydd yr astudiaeth yn archwilio:
- Gweithgarwch dysgu proffesiynol cyfredol ar draws gwahanol rannau o addysg drydyddol
- Rhwystrau i gyfranogiad y gweithlu mewn dysgu proffesiynol
- Achosion o ddyblygu darpariaeth ac effeithlonrwydd
- Cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng darparwyr i ddiwallu anghenion cyffredin
9. Bydd yr astudiaeth hefyd yn esgor ar argymhellion ymarferol y gall Medr, darparwyr dysgu a sefydliadau partner eu defnyddio i siapio cymorth dysgu proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg drydyddol yn y dyfodol. Y nod ar y cyfan yw deall darpariaeth dysgu proffesiynol a gofynion yn y dyfodol ar draws y sector.
10. Bydd yr adroddiad ac argymhellion terfynol yn cael eu rhannu gyda’r sector yn hydref 2026.
Defnyddio’r Gronfa Dysgu Proffesiynol
11. Mae Medr wedi dyrannu £5 miliwn i gefnogi dysgu a datblygiad proffesiynol y gweithlu addysg bellach. Bydd £4.8m yn cael ei ddyrannu i sefydliadau AB yn seiliedig ar faint y sefydliad fel dirprwy ar gyfer nifer y staff. Mae’r dyraniadau wedi’u nodi yn Atodiad A. Bydd £200,000 yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau cenedlaethol a fydd o fudd i’r sector AB yn ei gyfanrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys cyllid grant i’r canlynol:
- Coleg Sir Gâr i gefnogi ail flwyddyn y Rhwydwaith Dysgu Proffesiynol.
- Y Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored ar gyfer hyfforddiant i reoli ymweliadau addysgol a gweithgarwch awyr agored.
- Y Sefydliad Gwaddol Addysgol i hyrwyddo’r Cymrodoriaethau Addysgu Technegol (TTF).
- Prifysgolion perthnasol yng Nghymru ar gyfer lleoliadau i ymarferwyr AB ar y rhaglenni Arweinyddiaeth ar ffurf graddau Meistr a Doethuriaeth mewn addysg.
- Colegau Cymru ar gyfer cynhadledd Dysgu ac Addysgu.
12. Mae’r cyllid a ddyrennir gan Medr ar gael gyda’r amodau cyffredinol ar gyfer talu arian a nodir yn Nhelerau ac Amodau Cyllid Medr.
13. Bydd cyllid yn cefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr a staff cymorth dysgu, a gellir ei ddefnyddio i alluogi sefydliadau i ddarparu neu gomisiynu dysgu proffesiynol sy’n cyd-fynd â’r themâu a amlinellir yn y canllawiau hyn.
14. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau unigol pob sefydliad, yn seiliedig ar ei bolisïau ei hun a’r anghenion a adnabuwyd ar gyfer ei staff. Anogir sefydliadau hefyd i ddefnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgarwch cydweithredol a gallant ddewis “cyfuno” cyfran o’r cyllid hwn i gefnogi prosiectau cydweithredol.
15. Wrth lunio ceisiadau ar gyfer defnyddio cyllid, rydym yn disgwyl i’r holl sefydliadau ystyried:
- Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr Dysgu Seiliedig-ar-Waith ac ymarferwyr Addysg Oedolion/Addysgwyr Cymru.
- Cydweithio ar draws y sector i wella effeithlonrwydd, cymorth rhwng cymheiriaid a rhannu arfer da.
- Gwersi blaenorol i adeiladu ar y gwaith a gwreiddio’r gwaith a ddatblygwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
- Taro cydbwysedd rhwng anghenion dysgu’r sefydliad (DPP) a’r penderfyniadau y mae ymarferwyr yn eu gwneud am eu hanghenion a’u diddordebau dysgu proffesiynol hwy eu hunain.
- Datblygu sgiliau staff i gefnogi anghenion cymhleth a blaenoriaethau o ran sgiliau.
- Lle mae sefydliadau’n gwneud dysgu proffesiynol sy’n ymwneud â darpariaeth ddigidol, gofynnwn iddynt ddefnyddio’r Safonau Proffesiynol Digidol a ddatblygwyd gan Jisc fel rhan o’n gwaith Digidol 2030.
16. Rhaid i geisiadau ganolbwyntio ar y themâu cymwys a restrir isod. Mae’r rhestr isod yn cynnwys themâu gorfodol y mae’n rhaid eu cynnwys a themâu dewisol.
Themâu gorfodol
- Datblygu neu gryfhau dulliau addysgu dwyieithog a/neu gefnogi staff i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer cyflwyno.
- Dysgu proffesiynol sy’n ofynnol i greu ac ategu diwylliant gwrth-hiliol.
Themâu dewisol
- Dysgu digidol.
- Strategaethau dysgu ac addysgu, gan gynnwys dysgu gwahaniaethol.
- Llythrennedd a rhifedd (gan gynnwys ESOL).
- Gwella sgiliau diwydiannol sy’n gysylltiedig ag anghenion y farchnad lafur (gan gynnwys capasiti i ddarparu cymwysterau lefel uwch).
- Cryfhau addysgeg Safon Uwch a galwedigaethol.
- Ymchwil weithredol.
- Dysgu proffesiynol i staff addysgu a chymorth arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth.
- Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a meithrin arbenigedd staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.
Bydd disgwyl i sefydliadau adrodd yn erbyn pob gweithgaredd fel rhan o’r gofynion adrodd interim a therfynol.
Materion allweddol a dulliau gweithio
17. Wrth baratoi ceisiadau, dylai sefydliadau ystyried polisïau trawsbynciol eraill a ffyrdd eraill o weithio. Rhaid i’r rhain gynnwys:
- Hybu cydweithio gydag undebau llafur
Disgwylir i SABau ddatblygu eu cynigion mewn cydweithrediad gydag undebau llafur, i sicrhau bod eu hundebau llafur cydnabyddedig yn cael eu cynnwys yn llawn wrth gynllunio newidiadau a fydd yn effeithio ar staff, gwneud penderfyniadau yn eu cylch, a’u rhoi ar waith. - Cymru Wrth-hiliol
Dylai unigolion a sefydliadau gymryd cyfrifoldeb am greu diwylliant gwrth-hiliol ac ysgogi newid cadarnhaol parhaol ac, wrth wneud hynny, byddem yn disgwyl i chi ystyried y dysgu proffesiynol sy’n ofynnol yn eich sefydliad i helpu i wireddu’r uchelgais i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030. - Y Gymraeg
Mae gan Medr rôl i gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 ac mae dyletswydd arno i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg. Rydym felly’n disgwyl i chi ystyried hyn wrth baratoi eich ceisiadau.
Gweithgareddau cymwys
18. Gellir defnyddio cyllid i wneud y canlynol:
- Gwneud cymwysterau addysgu achrededig.
- Gwneud modiwlau neu unedau hyfforddi penodol i wella sgiliau addysgu (e.e. modiwlau MA).
- Diweddaru a gwella sgiliau diwydiannol/galwedigaethol staff.
- Prynu hyfforddiant pwrpasol, gan gynnwys costau hyfforddwyr neu hwyluswyr allanol.
- Prynu neu ddatblygu pecynnau e-ddysgu.
- Ariannu costau cefnlenwi ar gyfer staff sy’n gwneud dysgu proffesiynol.
- Cynnal ymchwil gan gynnwys ymchwil weithredol.
- Dylunio a darparu dysgu proffesiynol a datblygiad arweinwyr mewn modd cydweithredol, gan gynnwys hyfforddiant ar y cyd yn rhanbarthol.
- Datblygu adnoddau a chanllawiau dysgu proffesiynol dwyieithog er budd y sector cyfan, gan gynnwys mewn dysgu seiliedig-ar-waith ac addysg oedolion.
- Dysgu proffesiynol i staff addysgu a chymorth arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth.
- Darparu gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gyflymu a meithrin arbenigedd staff a fydd yn cynyddu gwybodaeth a phrofiad dysgu’r dysgwr.
19. Ni ellir defnyddio’r cyllid i brynu offer na meddalwedd cyfalaf nac i ddatblygu cyrsiau ar gyfer dysgwyr.
20. Os ydych yn ansicr a yw eich defnydd arfaethedig o’r cyllid yn gymwys cysylltwch â [email protected].
Meini prawf gwerthuso
21. Rhaid i gyni gion wneud y canlynol:
- Darparu dysgu proffesiynol yn unol â’r Safonau proffesiynol ar gyfer athrawon AB, ymarferwyr Dysgu Seiliedig-ar-Waith ac ymarferwyr Addysg Oedolion/Addysgwyr Cymru
- Adnabod manteision eglur a dangos sut y bydd effaith yn cael ei gwerthuso.
- Cyd-fynd â’r themâu a restrir yn y canllawiau hyn.
- Cynnwys gweithgareddau sydd o gymorth i ddatblygu’r Gymraeg.
- Dangos dysgu proffesiynol a fydd yn creu ac yn cefnogi diwylliant gwrth-hiliol.
- Dangos rhesymeg glir sy’n adlewyrchu’r anghenion dysgu proffesiynol a adnabuwyd ar gyfer staff y sefydliad.
Sut i ymgeisio
22. Mae’n ofynnol i bob sefydliad gwblhau a llofnodi copi o’r ffurflen yn Atodiad C a’i ddychwelyd i:
- Gadarnhau’n ffurfiol bod eich sefydliad yn derbyn y cyllid.
- Enwebu unigolyn priodol yn eich sefydliad fel y cyswllt arweiniol mewn perthynas â’r cyllid hwn.
- Amlinellu’n fras beth yw eich bwriadau ar gyfer defnyddio’r cyllid hwn.
23. Dylai ffurflenni wedi’u llofnodi gael eu dychwelyd i [email protected] erbyn 3 Gorffennaf 2026.
24. Rhowch wybod i Medr ar y cyfle cynharaf os ydych yn rhagweld na fyddwch yn gallu gwario eich dyraniad yn llawn. Os caiff cyllid ei ryddhau gan sefydliadau unigol, bydd Medr yn ystyried a yw’n ddichonadwy ailddyrannu’r cyllid hwn.
Monitro a thalu’r cyllid
25. Yn amodol ar ddychwelyd Atodiad C, bydd taliad interim (65% o ddyraniad cyllid eich sefydliad) yn cael ei amserlennu yn ystod mis Mawrth 2027.
26. Bydd hi’n ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth am wariant erbyn 31 Gorffennaf 2027 i ryddhau’r taliad terfynol. Dim ond yn erbyn gwariant gwirioneddol a ysgwyddwyd erbyn 31 Gorffennaf 2027 y dylech hawlio. Bydd swm y taliad terfynol hwn yn cael ei addasu yn unol â’r gwariant gwirioneddol a ysgwyddwyd, hyd at gyfanswm gwerth dyraniad eich sefydliad.
27. Bydd templedi ar gyfer adroddiadau interim a therfynol ynghyd â gwybodaeth am wariant ar ddiwedd y flwyddyn yn cael eu hychwanegu fel Atodiad D. Bydd arweinwyr cyllid a enwebwyd yn cael eu hysbysu pan fo’r ffurflenni hyn ar gael.
28. Mae cadarnhau’r dyraniad yn amodol ar gymeradwyo gweithgareddau gan Medr.
Further information
29. Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch y canllawiau hyn a dogfennaeth ategol gael eu cyfeirio at Karron Williams yn [email protected].
Medr/2026/22: Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ym Mlwyddyn Academaidd 2026/27 – canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllid
Dyddiad: 05 Mehefin 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/22
At: Principals of further education institutions (FEIs) in Wales; FEI professional learning leads
Ymateb erbyn: Applications to be submitted by midday 3 July 2026
Crynodeb: Mae’r ddogfen hon yn nodi’r dyraniadau cyllid refeniw dysgu proffesiynol (PLF) i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Mae’r ddogfen yn darparu canllawiau ynghylch gwariant cymwys ac anghymwys a thempledi ar gyfer ceisiadau a chostau.
Medr/2026/22 Cyllid Dysgu Proffesiynol (PLF) Addysg Bellach ym Mlwyddyn Academaidd 2026/27 – Canllawiau a thempledi ar gyfer ceisiadau am gyllidDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio