This website will offer limited functionality in this browser. We only support the recent versions of major browsers like Chrome, Firefox, Safari, and Edge.

Cyhoeddiadau

Sta/Medr/02/2025: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2016/17 i 2022/23

Pwyntiau Allweddol

  • Mae cyfran y myfyrwyr ag anabledd wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 2016/17 a 2022/23. Mae’r gyfran wedi cynyddu o 13% yn 2016/17 i 17% yn 2022/23.
  • Mae cyfran y myfyrwyr o gefndir ethnig leiafrifol wedi cynyddu ym mhob blwyddyn rhwng 2016/17 a 2022/23. Mae’r gyfran wedi cynyddu o 10% yn 2016/17 i 14% yn 2022/23.
  • Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn fenywaidd. Mae maint y mwyafrif hwn wedi cynyddu o 55% yn 2016/17 i 57% yn 2022/23.
  • Fe gynyddodd cyfran y staff ag anabledd bob blwyddyn rhwng 2016/17 a 2022/23. Ar gyfer staff academaidd fe gynyddodd y gyfran o 4% i 7% ac ar gyfer staff anacademaidd fe gynyddodd y gyfran o 6% i 10%.
  • Mae cyfran y staff o gefndir ethnig leiafrifol wedi cynyddu bob blwyddyn rhwng 2016/17 a 2022/23. Ar gyfer staff academaidd fe gynyddodd y gyfran o 11% i 17% ac ar gyfer staff anacademaidd fe gynyddodd y gyfran o 4% i 6%.
  • Mae’r mwyafrif o staff academaidd yn wrywaidd, er bod maint y mwyafrif hwn wedi lleihau ychydig o 53% yn 2016/17 i 52% yn 2022/23. Roedd y mwyafrif o’r staff anacademaidd yn y cyfnod hwn yn fenywaidd. 62% yw maint y mwyafrif hwn yn 2022/23, sydd yr un fath ag yn 2016/17.

Gwybodaeth am y fethodoleg

Daw’r data ar gyfer y datganiad hwn o gofnodion Myfyrwyr a Staff yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) a gesglir gan Jisc.

Yn 2022/23 fe gasglwyd data myfyrwyr gyda’r casgliad data diwygiedig a gyflawnwyd gan y rhaglen Dyfodol Data. Cynhaliodd Jisc asesiad cynhwysfawr o ansawdd y set ddata hon ac fe fanylir ar hwn yn eu hadroddiad ansawdd data myfyrwyr 2022/23. Mae crynodeb o’r broses o gasglu data Myfyrwyr ar gyfer 2022/23 sy’n cwmpasu graddfeydd amser, rheolau busnes a dilysu a phrosesau gwirio wedi’i gynnwys ar wefan HESA. Mae gwybodaeth am ddata myfyrwyr ar gyfer y blynyddoedd cynharach i’w chael ar wefan HESA.

Ceir crynodeb o’r broses o gasglu data Staff a rheolau ansawdd cysylltiedig ar dudalen casglu data staff HESA.

Mae’r ystadegau’n cynnwys myfyrwyr sy’n rhan o boblogaeth gofrestru safonol addysg uwch HESA. Ceir rhagor o wybodaeth am y boblogaeth hon yn y diffiniadau myfyrwyr ar wefan HESA.

Mae pob defnydd o ‘myfyrwyr’ yn y bwletin hwn yn cyfeirio at ‘gofrestriadau myfyrwyr’. Cyfrif o bob cofrestriad ar gyfer cwrs yw hyn. Mewn achosion prin lle mae myfyriwr wedi cofrestru mewn dau gwrs gwahanol yn yr un flwyddyn, byddai’r myfyriwr hwnnw’n cael ei gyfrif ddwywaith.

Mae’r ystadegau hyn yn cynnwys staff sydd ym mhoblogaeth contractau staff HESA, sy’n cynnwys yr unigolion hynny sydd ag un neu fwy nag un contract (nad ydynt yn annodweddiadol) sy’n weithredol ar 1 Rhagfyr yn y cyfnod adrodd HESA perthnasol. Staff ar gontract annodweddiadol yw’r aelodau hynny o staff y mae eu contractau’n cynnwys trefniadau gweithio nad ydynt yn barhaol, yn cynnwys perthnasoedd cyflogaeth cymhleth a/neu’n cynnwys gwaith i ffwrdd o oruchwyliaeth y darparwr gwaith arferol.

Y ffigyrau cyfwerth â pherson llawn (FPE) yw’r holl ffigyrau ar staff. Gall unigolion fod â mwy nag un contract gyda darparwr a gall pob contract gynnwys mwy nag un gweithgaredd. Mewn dadansoddiadau mae cyfrifau staff wedi cael eu rhannu ymhlith y gweithgareddau yn gymesur â’r ffigwr cyfwerth ag amser llawn a ddatganwyd ar gyfer pob gweithgaredd. Cyfrifau FPE yw canlyniad hyn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y boblogaeth hon yn y diffiniadau staff ar wefan HESA.

Mae’r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn dilyn egwyddorion Methodoleg Talgrynnu Safonol HESA. Mae’r strategaeth wedi’i bwriadu i atal gwybodaeth bersonol am unrhyw unigolyn rhag cael ei datgelu.

Mae hyn yn golygu:

  • Bod cyfrifau myfyrwyr a staff wedi’u talgrynnu i luosrif agosaf 5.
  • Bod canrannau wedi’u cyfrifo yn seiliedig ar y cyfrifau heb eu talgrynnu a heb gynnwys gwerthoedd anhysbys. Ni chyhoeddir canrannau os mai ffracsiynau o grŵp bach o bobl (llai na 22.5) ydynt.
  • Defnyddir y fethodoleg dalgrynnu hon ar gyfer cyfansymiau hefyd. O ganlyniad, efallai na fydd swm y rhifau ym mhob rhes neu golofn yn cyfateb yn union i’r cyfanswm a ddangosir.

Gwybodaeth am ansawdd

Rheoleiddir ein hymarfer ystadegol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Mae OSR yn pennu’r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai holl gynhyrchwyr ystadegau swyddogol ymlynu wrtho.

Mae ein holl ystadegau’n cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Nodir y rhain yn Natganiad Cydymffurfio Medr â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y ffyrdd canlynol.

Mae’r ystadegau hyn wedi cael eu cyhoeddi yn unol â Datganiad Cydymffurfio Medr a’r polisi ar weld ystadegau swyddogol cyn eu rhyddhau.

Mae’r adran hon yn darparu crynodeb o wybodaeth am y datganiad ystadegol hwn yn erbyn pum dimensiwn ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymharedd a Chydlyniad. Mae’r rhain hefyd yn cwmpasu’r agweddau ar y conglfaen Gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

  1. Perthnasedd
    Mae’r data yn yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o rai o nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Gellir defnyddio hyn i adnabod pa mor effeithiol yw polisïau penodol sy’n ymwneud â nodweddion cydraddoldeb mewn addysg uwch, neu i adnabod a yw’r rhai â nodweddion penodol heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch.
  2. Cywirdeb
    Cyfrifiadau yn hytrach nag arolygon yw data myfyrwyr a staff HESA, a chan hynny nid oes anghywirdeb oherwydd amcangyfrif. Fodd bynnag, gall gwallau yn y data a gyflwynwyd effeithio ar gywirdeb y data. Caiff hyn ei liniaru â set gynhwysfawr o wiriadau ansawdd, lle cyflwynir ymholiadau i ddarparwyr ynghylch materion posibl er mwyn gallu cael esboniad addas ar gyfer y data, neu gywiro’r data os oes angen.
    Y ffactor arall sy’n effeithio ar gywirdeb yw lle cofnodwyd nodweddion personol fel gwerthoedd anhysbys. Yn ystod y broses casglu data cyflwynir ymholiadau i ddarparwyr AU ynghylch lefelau uchel o werthoedd anhysbys i leihau hyn i’r eithaf lle y bo’n bosibl. Caiff niferoedd y myfyrwyr a staff a gofnodwyd â gwerthoedd anhysbys eu cynnwys yn y daenlen a’r dangosfwrdd PowerBI fel bod graddfa’r rhain yn eglur i ddefnyddwyr.
  3. Amseroldeb a phrydlondeb
    Mae’r data yn y datganiad hwn yn cyfeirio at ddata myfyrwyr a staff hyd at flwyddyn academaidd 2022/23. Gan bod casgliadau data myfyrwyr a staff HESA yn gasgliadau ôl-weithredol ceir oediad rhwng y flwyddyn academaidd a’r adeg pan ellir trefnu bod y data ar gael. Roedd yr oediad hwn yn fwy estynedig ar gyfer y cyhoeddiad hwn o ganlyniad i ddau ffactor:
    * Oedi cyn casglu data myfyrwyr o ganlyniad i roi’r rhaglen Dyfodol Data ar waith. Y canlyniad oedd bod data ar gael yn hwyrach nag arfer.
    * Sefydlu Medr. Cyn y datganiad hwn, roedd yr ystadegau hyn yn cael eu cyhoeddi gan CCAUC. Yn wahanol i CCAUC, mae Medr yn gynhyrchydd Ystadegau Swyddogol ac fe wnaeth sefydlu prosesau priodol ar gyfer hyn, yn ogystal â sefydlu Medr yn gyffredinol, gyfrannu at yr angen am fwy o amser i gynhyrchu’r dadansoddiad hwn.
    Ni fydd yr ail o’r ffactorau hyn yn effeithio ar fersiynau o’r datganiad hwn yn y dyfodol, a bydd yr oedi a oedd yn gysylltiedig â’r rhaglen Dyfodol Data’n lleihau wrth i’r broses casglu data newydd ymsefydlu’n fwy.
  4. Hygyrchedd ac eglurder
    Cyhoeddwyd rhag blaen fod y datganiad ystadegol hwn ar ddod a hynny ar galendr datganiadau ystadegol Llywodraeth Cymru.
    I gyd-fynd â’r adroddiad hwn ceir dangosfwrdd PowerBI a thaenlen y ceir mynediad atynt ill dau ar wefan Medr.
  5. Cymharedd a chydlyniad
    Gan bod casgliadau data myfyrwyr a staff HESA yn gasgliadau data ledled y DU gyfan, gellir cymharu’r ystadegau hyn â dadansoddiad tebyg o ddata cydraddoldeb ar gyfer darparwyr Addysg Uwch ledled y DU sydd ar gael ar wefan Data Agored HESA.

Sta/Medr/02/2025: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch: 2016/17 i 2022/23

Dogfen gyfeiriol ystadegau swyddogol: Sta/Medr/02/2025

Dyddiad: 30 Ionawr 2025

Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru o flwyddyn academaidd 2016/17 i flwyddyn academaidd 2022/23.

Cyswllt: [email protected]

Sta/Medr/02/2025: Nodweddion cydraddoldeb myfyrwyr a staff mewn darparwyr AU 2016/17 i 2022/23

Dogfennau eraill

Dangosfwrdd Power Bi

Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd. 

Tanysgrifio