Cyhoeddiadau
Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024
12 Mar 2025
Nodyn:
Mae ystadegau dysgu cymunedol awdurdodau lleol wedi’u tynnu o’r datganiad hwn oherwydd problemau’n gysylltiedig ag ansawdd data. Gweler yr wybodaeth am Ansawdd a Methodoleg am fanylion yr ymchwiliad sy’n cael ei gynnal i’r problemau ansawdd data, a’r ymdriniaeth â’r problemau hynny.
Prif bwyntiau
- Cynyddodd cyfradd llwyddo prentisiaethau yn 2023/24 i 74%. Mae’n dal yn is na’r gyfradd cyn pandemig Covid-19.
- Prentisiaethau lefel sylfaen a ddangosodd yr adferiad cryfaf yn 2023/24.
- Mae’r gyfradd llwyddo ar gyfer prentisiaethau uwch yn llawer is nag ar gyfer lefelau eraill, a dyna’r gyfradd lle gwelwyd yr adferiad lleiaf ers y pandemig.
- Ni wnaeth prentisiaid uwch ond pasio ychydig dros hanner y gweithgareddau sgiliau hanfodol cymhwyso rhif a gwblhawyd ganddynt.
- Bu cynnydd yn y gyfradd llwyddo gyffredinol yn y sectorau mwy canlynol:
- Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus;
- Peirianneg;
- Lletygarwch.
- Ymhlith y sectorau mwy, gostyngodd y gyfradd llwyddo mewn:
- Adeiladu;
- Rheolaeth a Phroffesiynol.
- Mae’r bwlch yn y gyfradd llwyddo rhwng dysgwyr yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf amddifadus yn cau.
- Bu cynnydd mawr yng nghyfradd llwyddo dysgwyr ar draws cefndiroedd lleiafrifol ethnig.
- Cafwyd cyfradd llwyddo uwch na’r cyffredin mewn gweithgareddau prentisiaeth a gwblhawyd yn gyfan gwbl yn Gymraeg.
Cyfradd llwyddiant prentisiaethau yn ôl blwyddyn academaidd

Ffigur 1: Awst 2013 I Orffennaf 2024
Disgrifiad: Mae’r gyfradd llwyddo prentisiaethau yn parhau i adfer yn dilyn y pandemig. Ceir bwlch o hyd rhwng y gyfradd llwyddo gyfredol a’r cyfraddau llwyddo cyn y pandemig.
Data ar StatsCymru
Sta/Medr/07/2025: Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2023 i Orffennaf 2024
Cyfeirnod ystadegau: Sta/Medr/07/2025
Dyddiad: 12 Mawrth 2025
Dynodiad: Ystadegau Swyddogol
E-bost: [email protected]
Crynodeb: Ystadegau ar lwyddiant a chwblhau prentisiaethau yn ôl lefel astudio, math o nod dysgu, sector, a nodweddion dysgu
Sta/Medr/07/2025 Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau 2023-24Dogfennau eraill
- Sta/Medr/07/2025 Atodiad A Ansawdd a Methodoleg Prentisiaethau 2023-24
- Sta/Medr/07/2025 Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau 2023-24 tablau
- Sta/Medr/07/2025 Adroddiadau ar ddeilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau Awst 2023 i Orffennaf
- Sta/Medr/07/2025 Rhestr o'r rhai sy'n gweld yr ystadegau cyn eu rhyddhau
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio