Cyhoeddiadau
Medr/2026/09: Rhaglen brentisiaethau newydd 2027 – dyddiadau allweddol
26 Feb 2026
Cyflwyniad
1. Y camau nesaf allweddol yn y broses o ddatblygu rhaglen brentisiaethau newydd 2027 a’i rhoi ar waith yw:
| Dyddiad | Gweithgaredd |
|---|---|
| 17 Chwefror 2026 | Cyhoeddi’r adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar y rhaglen brentisiaethau newydd |
| 16 Ebrill 2026 and 22 Ebrill 2026 | Sesiynau ymgysylltu â darparwyr addysg drydyddol ynghylch model cyllido’r rhaglen brentisiaethau newydd |
| 13 Mai 2026 14 Mai 2026 20 Mai 2026 | Digwyddiadau rhanbarthol i brofi dyluniad y rhaglen brentisiaethau newydd: Y Gogledd Y Canolbarth Y De |
| 11 Mai 2026 – 19 Mehefin 2026 | Ymgynghoriad ar fodel cyllido’r rhaglen brentisiaethau newydd |
| 3 Mehefin 2026 | Digwyddiad ar-lein ar gyfer yr ymgynghoriad ar fodel cyllido’r rhaglen brentisiaethau newydd |
| w/c 3 Awst 2026 | Cyhoeddi’r adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad ar fodel cyllido’r fframweithiau prentisiaeth newydd |
| 1 Medi 2026 – 31 Rhagfyr 2026 | Cyhoeddi grant y rhaglen brentisiaethau newydd a chyflwyno ceisiadau a chynigion (caiff rhagor o wybodaeth am y broses hon ei chyhoeddi maes o law) |
| Ebrill 2027 | Anfon Llythyrau Dyfarnu Grant |
| 1 Awst 2027 | Y rhaglen brentisiaethau newydd yn dechrau |
Rhagor o wybodaeth
2. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch y cylchlythyr hwn at Heather Davidson, Pennaeth Prentisiaethau ([email protected]).
Medr/2026/09: Rhaglen brentisiaethau newydd 2027 – dyddiadau allweddol
Dyddiad: 26 Chwefror 2026
Cyfeirnod: Medr/2026/09
At: Benaethiaid darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru; Darparwyr prentisiaethau cyfredol yng Nghymru / Deiliaid contract prentisiaeth wedi’u comisiynu; Cyrff cynrychioli cyflogwyr; Cyrff cynrychioli dysgwyr; Cynrychiolwyr addysg awdurdodau lleol
Ymateb erbyn: Nid oes angen ymateb
Crynodeb: Y camau nesaf allweddol yn y broses o ddatblygu rhaglen brentisiaethau newydd 2027 a’i rhoi ar waith.
Medr/2026/09 Rhaglen brentisiaethau newydd 2027 – dyddiadau allweddolRhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio