Cyhoeddiadau
Medr/2025/24: Cronfa Datblygu Strategol ôl-16 – galwad am geisiadau
17 Oct 2025
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn gwahodd ceisiadau i Gronfa Datblygu Strategol Medr ac ynddi £5m sydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
2. Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r themâu y dylai prosiectau eu trafod er mwyn bod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer cyllid, ac yn disgrifio’r prosesau a’r amserlenni ar gyfer cyflwyno ceisiadau a’u hasesu, yn ogystal â threfniadau i fonitro ceisiadau llwyddiannus.
Y cefndir
3. Mae’n annhebygol y bydd y cyllid hwn ar gael yn rheolaidd, felly rydym yn creu cronfa untro i’w ddosbarthu drwy broses ymgeisio.
4. Diben y cyllid hwn yw annog mwy o gydweithio o fewn y sector addysg drydyddol. Bydd y broses dendro hefyd yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth gan y sector am y math o brosiectau a allai fod yn bosibl drwy fuddsoddi’n strategol, fel sail wrth gynllunio i’r dyfodol.
5. Mae £5m wedi’i bennu i’r gronfa fel man cychwyn.
Blaenoriaethau’r gronfa
6. Dylid cyflwyno ceisiadau am brosiectau i ddatblygu datrysiadau neu ymagweddau sy’n ymdrin â’r holl bwyntiau bwled isod, ac o leiaf un o nodau strategol Medr:
- Cydweithio – prosiectau sy’n dangos cydweithio ar draws y sector trydyddol rhwng dau sefydliad o leiaf. Bydd cydweithio ar draws gwahanol rannau o’r sector yn cael ei bwysoli’n uwch yn y matrics sgorio na chydweithio rhwng yr un math o ddarparwyr. Er hynny, byddwn yn croesawu ceisiadau sy’n adlewyrchu pob math o gydweithio.
- Newydd – rhaid i weithgaredd y prosiect fod yn newydd ac ni all unrhyw ran o’r prosiect fod wedi’i dechrau eisoes. Fodd bynnag, efallai y bydd y partneriaid dan sylw wedi cydweithio’n flaenorol, neu’n rhan o drefniant cydweithio sydd wedi’i sefydlu. Gellir cyflwyno ceisiadau hefyd am gyllid i fwrw ymlaen â gweithgaredd sydd eisoes wedi’i gwmpasu, ond ni cheir defnyddio’r cyllid i dalu costau a ysgwyddwyd eisoes.
- Strategol – rhaid i’r prosiect fod yn gysylltiedig ag uchelgeisiau strategol Medr, a nodir isod. Bydd prosiectau sy’n gysylltiedig ag amryw o nodau wedi’u pwysoli’n uwch na phrosiectau sy’n gysylltiedig â mwy nag un nod.
| Nod strategol 1: | Rhoi lle creiddiol i anghenion y dysgwr yn y sector addysg drydyddol. |
| Nod strategol 2: | Creu system drydyddol hyblyg a chydgysylltiedig lle gall pawb ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer economi a chymdeithas newidiol. |
| Nod strategol 3: | Sicrhau bod dysgwyr yn cael darpariaeth o’r safon uchaf mewn sector addysg drydyddol sy’n ymdrechu i wella’n barhaus. |
| Nod strategol 4: | Tyfu ymchwil o fri rhyngwladol a rhoi ysbrydoliaeth i arloesi drwyddi draw yn y sector addysg drydyddol. |
| Nod strategol 5: | Hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, a chynyddu’r galw am ddysgu ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg, a chyfranogiad yn hynny. |
7. Rhaid i’r partner arweiniol sy’n cyflwyno’r cais fod yn brifysgol, yn goleg addysg bellach, awdurdod lleol neu ddarparwr prentisiaethau sy’n cael ei ariannu’n uniongyrchol gan Medr. Gellir cynnwys sefydliadau eraill sy’n gweithio o fewn y sector trydyddol yng Nghymru fel partneriaid cydweithredol. Dylai pob cais fod yn gais am un prosiect sydd wedi’i ddiffinio. Er mwyn rheoli nifer y cynigion a gyflwynir, a’r capasiti o fewn y sector i fwrw ymlaen â gweithgarwch ystyrlon, gall un sefydliad gyflwyno neu fod yn bartner mewn uchafswm o ddau gais.
8. Nid oes terfyn ar y swm fesul cais, ond wrth ddyrannu cyllid byddwn yn ceisio sicrhau bod y gronfa yn ei chyfanrwydd o fudd i bob rhan o Gymru, a sicrhau bod pob prosiect llwyddiannus yn derbyn digon o gyllid i greu effaith. Er mwyn cyflawni hyn, efallai y byddwn yn dyfarnu swm llai o gyllid na’r hyn y gofynnir amdano ar gyfer prosiect unigol.
Proses
9. Dylid cyflwyno ceisiadau drwy ddefnyddio’r templed yn Atodiad A. Dylai ceisiadau gynnwys:
- Nodau’r prosiect.
- Sail resymegol sy’n esbonio sut mae’r prosiect yn mynd i’r afael â’r themâu uchod a strategaeth ymadael y prosiect. Yn ogystal â hyn, bydd yn ofynnol ichi gwblhau gwerthusiad diwedd prosiect, gweler Atodiad C.
- Crynodeb o gyflawniad y prosiect sy’n amlinellu graddfeydd amser a nodiadau ynghylch sut y bydd y prosiect yn ymgysylltu â dysgwyr a’r undebau llafur.
- Ystyriaeth o’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â’r prosiect.
- Disgrifiad o allbynnau a chanlyniadau.
- Cynlluniau i effaith a chanlyniadau’r prosiect fod yn gynaliadwy am y tymor hir.
- Cyfanswm y cyllid sydd ei angen ar gyfer y prosiect a dadansoddiad cryno o’r gwariant arfaethedig, gan gynnwys natur y costau a’r amserlen ar gyfer y gwariant. Bydd angen i holl gostau’r prosiect fod wedi’u hymrwymo erbyn 31 Gorffennaf 2026 fan bellaf.
- Crynodeb i esbonio sut mae asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, gofynion Safonau’r Gymraeg, a’r nodau, yr egwyddor datblygu cynaliadwy a’r ffyrdd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi llywio’r cais.
10. Dylid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i [email protected] erbyn 10 Tachwedd 2025.
11. Bydd panel sy’n cynnwys Cyfarwyddwyr Medr yn asesu’r cynigion ac yn cyflwyno argymhellion i’r Bwrdd ynghylch dyrannu’r cyllid. Bydd y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu pa geisiadau i’w cyllido yn cynnwys:
- Y graddau y mae pob cais yn ymdrin â nodau strategol Medr.
- Cynaliadwyedd tebygol effaith a chanlyniadau’r prosiect.
- Y graddau y bydd rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys yn y broses o greu a gweithredu’r prosiect.
- Yr angen i sicrhau bod y gronfa yn ei chyfanrwydd yn creu budd i bob rhan o Gymru.
- Gwerth am arian.
12. Os na allwn ddyrannu gwerth llawn y gronfa yn y cylch cyntaf hwn, naill ai oherwydd ansawdd neu nifer y ceisiadau a ddaw i law, rydym yn cadw’r hawl i gyhoeddi ail gylch ceisiadau.
Monitro
13. Bydd yn ofynnol i brosiectau gwblhau adroddiad prosiect interim hanner ffordd drwy’r prosiect, ac adroddiad prosiect terfynol ar ddiwedd y prosiect drwy ddefnyddio’r templedi yn Atodiad B.
14. Fel amod yn gysylltiedig â’r cyllid, disgwylir y bydd yr hyn a ddysgir o’r prosiect yn cael ei rannu. O’r gwaith monitro a nodir yn Atodiad B, byddwn yn nodi’r gwersi a ddysgwyd ac yn rhannu hynny ar draws y rhwydwaith. Yn ogystal â hyn, byddem yn croesawu ceisiadau am brosiectau sy’n cynnwys esboniad ynghylch sut y byddech yn disgwyl rhannu’r hyn a ddysgwyd.
Amserlen
15. Bydd Medr yn rhannu amserlen dalu cyn gynted ag y bo’r prosiectau wedi’u cytuno.
| Rhyddhau’r dogfennau | 17 Hydref 2025 |
| Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau | 10 Tachwedd 2025 |
| Rhannu canlyniadau’r asesiad | Rhagfyr 2025 |
Rhagor o wybodaeth
16. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
Medr/2025/24: Cronfa Datblygu Strategol ôl-16 – galwad am geisiadau
Dyddiad: 17 Hydref 2025
Cyfeirnod: Medr/2025/24
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch; Penaethiaid sefydliadau addysg bellach; Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol; Deiliaid contract prentisiaeth wedi’u comisiynu
Ymateb erbyn: 10 Tachwedd 2025
Crynodeb: Mae’r cyhoeddiad hwn yn gwahodd ceisiadau i Gronfa Datblygu Strategol Medr ac ynddi £5m sydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn amlinellu’r themâu y dylai prosiectau eu trafod er mwyn bod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer cyllid, ac yn disgrifio’r prosesau a’r amserlenni ar gyfer cyflwyno ceisiadau a’u hasesu, yn ogystal â threfniadau i fonitro ceisiadau llwyddiannus.
Medr/2025/24 Cronfa Datblygu Strategol ôl-16 – galwad am geisiadauDogfennau eraill
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio