Cyhoeddiadau
Medr/2024/07: Cyllid llesiant ac iechyd 2024/25 a’r gofynion monitro
20 Nov 2024
Cyflwyniad
1. Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu canllawiau a thempledi monitro Medr ar gyfer dyrannu cyllid o £2m i brifysgolion i weithredu strategaethau llesiant ac iechyd ar gyfer 2024/25 (prifysgolion yn unig) ac ar gyfer dyrannu £2m ychwanegol yn 2024/25 i lesiant ac iechyd, gan gynnwys cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr addysg uwch (prifysgolion a cholegau a gyllidir yn uniongyrchol).
2. Mae’r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar ganllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan CCAUC, i ategu nod Medr i sicrhau proses bontio esmwyth ar gyfer darparwyr a dysgwyr yn y lle cyntaf, wrth i Medr ysgwyddo’i ddyletswyddau a chyfrifoldebau newydd. Nes bod y system gofrestru newydd ar gyfer darparwyr addysg uwch yn cael ei rhoi ar waith, mae Medr wedi etifeddu pwerau CCAUC ar gyfer cyllido a rheoleiddio addysg uwch.
Dyletswyddau a chyfrifoldebau Medr
3. Daeth Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn weithredol ar 1 Awst 2024 ar ôl diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ar 31 Gorffennaf 2024.
4. Mae dyletswydd strategol ar Medr i hybu cyfle cyfartal mewn addysg drydyddol a bydd yn cyflwyno amod cofrestru sy’n gysylltiedig â lles staff a myfyrwyr/dysgwyr. Mae’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru): Memorandwm Esboniadol yn nodi: “Bydd yr amodau cychwynnol a pharhaus yn ymwneud â chefnogaeth ar gyfer a hyrwyddo lles myfyrwyr a staff yn cyflwyno gofynion rheoleiddiol newydd i ddarparwyr y rhagwelwyd y byddent yn cwmpasu materion fel iechyd meddwl, llesiant a diogelwch dysgwyr a staff yn y darparwr. Bydd yn ofynnol i’r Comisiwn nodi a chyhoeddi gofynion y mae’n rhaid i ddarparwyr cofrestredig eu bodloni o ran eu trefniadau mewn perthynas â’r amodau cychwynnol a pharhaus. O ran lles myfyrwyr a staff, rhagwelir y byddai’r ‘trefniadau’ yn cynnwys polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau cymorth ar gyfer llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘llesiant’ yn golygu llesiant emosiynol ac iechyd meddwl ac mae ‘diogelwch’ yn golygu rhyddid rhag niwed gan gynnwys aflonyddu, camymddwyn, trais (gan gynnwys trais rhywiol), a throseddau casineb.
5. Yn 2024, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru eu datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi sy’n cynnwys blaenoriaeth i Medr greu fframwaith cyffredin ar gyfer cymorth gydag iechyd meddwl a llesiant ar draws addysg drydyddol.
6. Mae’n ofynnol i Medr baratoi cynllun strategol sy’n nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau a sut y bydd yn cyflawni’r dyletswyddau strategol a roddwyd iddo dan Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022.
7. Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd Medr ymgynghoriad ynghylch ei Gynllun Strategol. Rhaid cyflwyno’r fersiwn derfynol o’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w chymeradwyo erbyn 15 Rhagfyr 2024. Mae dyletswydd ar y Comisiwn i gyhoeddi ei gynllun cymeradwy a chymryd pob cam rhesymol i’w roi ar waith.
8. Mae’r Cynllun Strategol drafft yn cynnwys ymrwymiad sefydlu i Medr ddatblygu fframwaith cyffredin ar gyfer iechyd meddwl a llesiant erbyn 1 Awst 2026, a hwnnw’n cadarnhau cyfle cyfartal ac yn cael ei gryfhau gan amodau rheoleiddiol i gefnogi lles staff a dysgwyr.
9. Wrth ddatblygu a diwygio eu strategaethau llesiant ac iechyd, eu dulliau prifysgol sy’n fwy diogel rhag hunanladdiad a’u polisïau llesiant, rydym yn disgwyl i brifysgolion ystyried y cyhoeddiadau, a’r datblygiadau polisi a chyllid canlynol a, lle y bo’n briodol, cynnwys camau gweithredu cysylltiedig yn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2024/25.
Diweddariad ar bolisi, cyllid ac ymchwil ym maes llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, mewn prifysgolion a’n disgwyliadau ni sy’n codi ohonynt
10. Ym mis Chwefror 2024, fe ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ynghylch ei strategaeth ddrafft iechyd meddwl a llesiant meddyliol.
11. Ym mis Gorffennaf 2024, fe gyhoeddodd Universities UK ei adroddiad Enabling Student Health and Success: Tackling supply and demand for drugs and improving harm reduction.
12. Yn 2024/25 mae Medr yn parhau i gyllido:
a). y prosiect datblygu model gwasanaeth iechyd meddwl myfyrwyr. Mae Medr yn darparu cyllid ychwanegol yn 2024/25 i roi cymorth i ddatblygu datrysiad storio data, parhau i gyflwyno’r mynegai difrifoldeb ac archwilio a datblygu protocolau rhannu gwybodaeth.
b). Myf Cymru i ddarparu adnoddau a rhwydwaith ymarferwyr llesiant
myfyrwyr cyfrwng Cymraeg.
c). y rhaglen genedlaethol Student Space gyda deunyddiau llesiant myfyrwyr ar-lein ar gael yn Gymraeg.
Ystyriaethau i gydraddoldeb a chroestoriadedd ehangach mewn perthynas â llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl
13. Fe gyhoeddodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Senedd Cymru ei adroddiad Cysylltu’r dotiau: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru gyda 27 o argymhellion. Ym mis Chwefror 2023 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i’r adroddiad.
14. Dylai prifysgolion ystyried argymhellion yr adroddiad wrth ddatblygu eu dulliau llesiant ac iechyd/iechyd meddwl gan gynnwys:
i). Fframwaith
Cymru sy’n Ystyriol o Drawma a
fydd yn elfen allweddol o ymgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n genedl sy’n
ystyriol o drawma.
ii). Fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru.
15. Ym mis Mawrth 2023, fe gyhoeddodd CCAUC gylchlythyr W23/06HE: Addysg uwch ddiogel a chynhwysol: cefnogi addysg cydraddoldeb ac amrywiaeth. Roedd y cylchlythyr yn nodi camau gweithredu penodol yr oedd Llywodraeth Cymru a/neu CCAUC yn disgwyl i brifysgolion a cholegau a reoleiddir eu cymryd ac yn tynnu sylw at:
* Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru Llywodraeth Cymru;
* Strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol 2022 – 2026 a Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint gan Lywodraeth Cymru;
* Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru
* Datblygiadau polisi hil, mynediad a llwyddiant CCAUC; a
* Datblygiadau polisi llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, CCAUC.
16. Yn ystod 2023/24, fe gyhoeddodd TASO yr adroddiadau canlynol:
* What works to tackle mental health inequalities in higher education;
* Student wellbeing over time: analysing Student Academic Experience Survey data for undergraduates and taught postgraduates;
* Student mental health in 2023: Who is struggling and how the situation is changing.
17. Canfu’r adroddiad gan TASO ar lesiant myfyrwyr dros amser dystiolaeth i awgrymu bod y grwpiau canlynol o fyfyrwyr yn wynebu mwy o risg o iechyd meddwl gwael:
* Myfyrwyr o aelwydydd â statws economaidd isel;
* Myfyrwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol;
* Myfyrwyr hŷn;
* Myfyrwyr sy’n lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, cwiar/cwestiynu neu sydd â hunaniaethau rhywiol eraill (LHDTC+); a
* Myfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
18. Ym mis Gorffennaf 2024, fe gyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (CCHD) nodyn cyngor ar gyfer y sector addysg uwch a gododd o achos cyfreithiol Prifysgol Bryste yn erbyn Abrahart. Rhaid i brifysgolion ystyried yr wybodaeth a ddarperir yn y nodyn, yn enwedig mewn perthynas â sut y mae cydymffurfio â’r gyfraith yn edrych bellach yn nhyb y CCHD yn seiliedig ar ganfyddiadau’r llys.
19. Ym mis Medi 2024, fe gyhoeddodd y rhaglen Student Space adnoddau ar-lein ar ymgodymu â bywyd prifysgol fel myfyriwr Du. Fe grëwyd y cynnwys ar y cyd gan arbenigwyr â phrofiad personol a grŵp llywio o Fyfyrwyr Duon.
20. Wrth ddatblygu a diwygio eu strategaethau llesiant ac iechyd, eu dulliau prifysgol fwy diogel rhag hunanladdiad a’u polisïau llesiant, rhaid i brifysgolion ystyried cydraddoldeb a chroestoriadedd, cynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb a, lle y bo’n briodol, cynnwys camau gweithredu cysylltiedig yn eu cynlluniau gweithredu ar gyfer 2024/25.
Cyllid strategaethau a chynlluniau gweithredu strategaethau llesiant ac iechyd 2023/24 (£2m, prifysgolion yn unig)
21. Rydym yn disgwyl i gynlluniau gweithredu yn 2024/25 barhau i ddefnyddio ‘dull prifysgol gyfan’, gan gefnogi ac ymdrin ag anghenion staff a myfyrwyr ac ystyried pob agwedd ar fywyd prifysgol, gan gynnwys byw a bywyd gwaith. Lle mae prifysgolion yn dewis cyllido gweithgarwch a gwasanaethau llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, â chyllid nas darperir gan Medr, cynhwyswch y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn a ffynonellau’r cyllid yn y cynlluniau os gwelwch yn dda.
22. Dylai prifysgolion roi ystyriaeth hefyd i gefnogi pontio, dilyniant a llwyddiant ar gyfer ymgeiswyr a myfyrwyr, fel y mae hyn yn berthnasol i lesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, gan weithio mewn partneriaeth gydag ysgolion, colegau a phartneriaid allanol eraill.
23. Dylai cynlluniau gweithredu 2024/25 ystyried dyraniadau cyllid y brifysgol ar gyfer 2024/25 (£2m o gyllid strategaeth a £2m o gyllid caledi) ac unrhyw adnoddau ychwanegol a ddarperir o ffynonellau heblaw Medr a chynnwys:
i). amcanion/bwriadau’r strategaeth llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, sy’n cael eu blaenoriaethu yn 2024/25;
ii). gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant, ac adnoddau, yn erbyn yr
amcanion/y bwriadau, gan gynnwys dyddiadau i nodi erbyn pryd y bydd
gweithgareddau, gwasanaethau ac adnoddau newydd neu sy’n parhau yn cael eu
sefydlu a/neu eu cwblhau;
iii). gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn
ddwyieithog a/neu ar wahân yn Gymraeg;
iv). gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau gan gynnwys myfyrwyr mewn sefydliadau breiniol/partner;
v). gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer myfyrwyr
ôl-radd;
vi). gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer myfyrwyr
rhyngwladol;
vii). gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau i sicrhau
llesiant ac iechyd staff a myfyrwyr, gan gynnwys iechyd yr effeithiwyd arno gan
aflonyddu, casineb a chamymddwyn a thrais rhywiol, ni waeth beth fo hunaniaeth
yr unigolyn;
viii). gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau a ddarperir yn
benodol ar gyfer, neu ddarparu gwybodaeth am gefnogi, staff a myfyrwyr â
nodweddion gwarchodedig;
ix). gweithgareddau, gwasanaethau, hyfforddiant ac adnoddau sy’n ystyried canfyddiadau ac argymhellion hunanasesiad Stepchange: prifysgolion sy’n iach yn feddyliol Universities UK (UUK);
x). camau gweithredu y gellir eu hadnabod yn glir i fynd i’r afael â bylchau, blaenoriaethau neu argymhellion a adnabuwyd o ganlyniad i adolygiad y brifysgol gan ddefnyddio offeryn hunanasesu UUK;
xi). cadarnhad sut y bydd cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu’n cael ei
fonitro a’i fesur;
xii). eglurhad sut y mae ystod gynrychioliadol o fyfyrwyr, staff a phartïon â
buddiant wedi cael eu cynnwys wrth ddatblygu’r cynllun;
xiii). eglurhad sut y mae canfyddiadau asesiad o’r effeithiau wedi goleuo’r
amcanion/bwriadau a fydd yn cael eu cyflawni, a’r gweithgareddau a’r
gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu;
xiv). eglurhad sut y bwriedir cyflwyno adroddiadau ar fonitro ac adolygu’r cynllun gweithredu i, a thrwy, strwythurau llywodraethu’r brifysgol.
24. Hefyd, rydym yn disgwyl i gynlluniau gweithredu ystyried cydraddoldeb a chroestoriadedd trwy ddefnyddio asesiadau o’r effeithiau ar gydraddoldeb gan gynnwys, ymhlith eraill, y grwpiau canlynol o fyfyrwyr:
* Myfyrwyr anabl a myfyrwyr â chyflyrau iechyd hirdymor
* Myfyrwyr rhyngwladol
* Myfyrwyr LHDTC+
* Myfyrwyr ôl-radd
* Myfyrwyr o gefndiroedd DU, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
* Myfyrwyr o gefndir economaidd-gymdeithasol is
* Myfyrwyr â chyfrifoldebau gofalu / sy’n dychwelyd ar ôl egwyl o fod mewn addysg
* Myfyrwyr sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol i gefnogi caledi myfyrwyr yn 2024/25 (£2m, prifysgolion a darparwyr addysg bellach sy’n darparu addysg uwch)
25. Rydym yn annog prifysgolion a cholegau yn gryf, gan weithio gyda’u Hundebau Myfyrwyr neu gorff cyfatebol, i adeiladu ar fesurau i fynd i’r afael â’r codiadau parhaus mewn costau byw sy’n effeithio ar lesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Dylid ystyried yr holl fyfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr ôl-radd a rhyngwladol, ar gyfer cymorth, yn amodol ar angen.
26. Rhaid i brifysgolion a cholegau sicrhau bod cymorth ariannol i fyfyrwyr yn cael ei oleuo gan asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.
27. Gall cymorth ariannol gynnwys:
i). cynyddu a/neu estyn argaeledd, a’r meini prawf ar gyfer, cymorth ‘caledi’ neu gymorth ariannol arall i’r myfyrwyr sydd fwyaf mewn angen;
ii). sicrhau bod ymgeiswyr posibl a myfyrwyr agored i niwed yn cael eu cefnogi â gwybodaeth, cyngor a chyllid, fel y bo’n briodol, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gofalwyr, y rhai sy’n profi trais, cam-drin domestig, trais rhywiol, a cheiswyr lloches a ffoaduriaid;
iii). sicrhau bod ymgeiswyr posibl a myfyrwyr â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, yn ymwybodol o’r holl gymorth, gwybodaeth a chyngor ariannol sydd ar gael ac yn berthnasol iddynt;
iv). sicrhau bod yr holl wybodaeth, cyngor a gwasanaethau ariannol ar gael ac yn hygyrch yn Gymraeg;
v). cynnwys myfyrwyr sydd â phrofiad o heriau ariannol mewn gwaith i ddatblygu ac adolygu gwasanaethau cymorth ariannol;
vi). darparu gweithgareddau, adnoddau, gwasanaethau a/neu gynhyrchion cynhwysol am gost isel neu am ddim i gefnogi ymgeiswyr posibl a myfyrwyr sy’n profi pwysau ariannol, gan gynnwys lle gall hyn effeithio ar lesiant, iechyd, iechyd meddwl, ymdeimlad o berthyn neu unigrwydd, profiad myfyrwyr, eu cadw a’u llwyddiant.
28. Er y gall cymorth a gweithgareddau ‘untro’ fod o fudd i fyfyrwyr cyfredol yn bennaf, gallai peth darpariaeth gefnogi darpariaeth llesiant, iechyd ac iechyd meddwl yn y tymor hwy. Gallai cynaliadwyedd tymor hwy gynnwys darparu gwybodaeth ac adnoddau ar y we.
Dylai prifysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i:
* roi cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch, trwy estyn cyllid neu adnoddau eraill ar gyfer y rhai sy’n profi pwysau ariannol, sy’n effeithio ar eu profiad fel myfyrwyr, eu llesiant, eu hiechyd, eu cadw a’u llwyddiant;
* adolygu, a defnyddio gwefannau i hyrwyddo, gwasanaethau sylfaenol i gefnogi llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, ymgeiswyr a myfyrwyr;
* gweithio gydag undebau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant staff, gan gynnwys fel y maent yn rhoi cymorth effeithiol i fyfyrwyr fel rhan o ddull sefydliad cyfan o ymdrin â llesiant ac iechyd;
* hyrwyddo a darparu hyfforddiant hygyrch i staff ar iechyd meddwl; a
* darparu hyfforddiant iechyd meddwl yn Gymraeg i staff a myfyrwyr.
Dylai colegau a gyllidir yn uniongyrchol ddefnyddio’r cyllid hwn i:
* wella a hyrwyddo gwasanaethau cyngor a gwybodaeth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch;
* rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch trwy estyn cyllid caledi neu adnoddau eraill i gefnogi’r rhai sy’n profi pwysau ariannol;
* cefnogi ymgeiswyr posibl ac ymgeiswyr sy’n pontio i mewn i ddarpariaeth addysg uwch, yn ogystal â myfyrwyr presennol;
* mesurau i helpu i fynd i’r afael ag effeithiau’r codiadau mewn costau byw ar fyfyrwyr addysg uwch o bob oed a’r rhai sy’n pontio i mewn i addysg uwch;
* estyn, gwella neu ddarparu cymhorthdal ar gyfer cynhyrchion urddas mislif a hylendid personol a/neu wasanaethau golchi dillad i fyfyrwyr;
* cydweithio gydag Undebau Myfyrwyr neu gyrff cyfatebol i sicrhau bod y cymorth a roddir yn diwallu anghenion myfyrwyr addysg uwch; a hefyd
* cynnwys myfyrwyr sydd â phrofiad o heriau ariannol yn y broses o adolygu’r cymorth a roddir.
Dyraniadau cyllid prifysgolion a cholegau a gyllidir yn uniongyrchol
Prifysgolion
29. Bydd cyllid ar gyfer cynlluniau gweithredu strategaethau Llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, yn 2024/25 yn cael ei ddyrannu mewn un taliad, ar sail cyfrifon pennau myfyrwyr, fel a nodir yn Atodiad A.
30. Bydd y cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol i gefnogi caledi myfyrwyr yn 2024/25 yn cael ei ddyrannu mewn un taliad, ar sail cyfrifon pennau myfyrwyr, fel a nodir yn Atodiad B.
31. Yn 2024/25 byddwn yn dyrannu cyllid Atodiad A ac Atodiad B mewn taliad un gyfran ym mis Rhagfyr 2024 yn amodol ar:
i). cyflwyno adroddiadau monitro llesiant ac iechyd gan gynnwys iechyd meddwl 2023/24 gan gynnwys cadarnhau defnydd boddhaol o gyllid 2023/24.
32. Cyflwyno cynlluniau gweithredu strategaethau Llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl, 2024/25 (gweler y templed a ddarperir yn Atodiad C ac Atodiad C1). Y dyddiad cyflwyno ar gyfer yr adroddiadau hyn yw dydd Gwener 31 Ionawr 2025.
33. Rydym yn disgwyl i brifysgolion reoli eu dyraniadau ar gyfer 2024/25 a’u gwario’n llawn yn ystod y flwyddyn.
34. Byddwn yn adhawlio unrhyw danwariant heb ei neilltuo ar ddiwedd 2024/25, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, a byddwn yn adhawlio cyllid/dal cyllid yn ôl yn y dyfodol lle cyflwynir adroddiadau anfoddhaol neu gyfyngedig yn erbyn ein gofynion monitro.
Colegau a gyllidir yn uniongyrchol
35. Bydd y cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol i gefnogi caledi myfyrwyr yn 2024/25 yn cael ei ddyrannu mewn un taliad, ar sail cyfrifon pennau myfyrwyr, fel a nodir yn Atodiad B.
36. Yn 2024/25 byddwn yn dyrannu cyllid Atodiad B mewn taliad un gyfran ym mis Rhagfyr 2024 yn amodol ar:
* gyflwyno adroddiadau monitro cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol i gefnogi caledi myfyrwyr yn 2023/24 gan gynnwys cadarnhau defnydd boddhaol o gyllid 2023/24.
37. Cynllun gweithredu cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol i gefnogi caledi myfyrwyr 2024/25 (gweler y templed a ddarperir yn Atodiad D). Y dyddiad cyflwyno ar gyfer yr adroddiadau hyn yw dydd Gwener 31 Ionawr 2025.
38. Rydym yn disgwyl i golegau a gyllidir yn uniongyrchol reoli eu dyraniadau ar gyfer 2024/25 a’u gwario’n llawn yn ystod y flwyddyn.
39. Byddwn yn adhawlio unrhyw danwariant heb ei neilltuo ar ddiwedd 2024/25, oni bai bod amgylchiadau eithriadol, a byddwn yn adhawlio cyllid/dal cyllid yn ôl yn y dyfodol lle cyflwynir adroddiadau anfoddhaol neu gyfyngedig yn erbyn ein gofynion monitro.
Gofynion monitro prifysgolion a cholegau a gyllidir yn uniongyrchol
40. Byddwn yn monitro’r modd y caiff y cyllid hwn ei wario a’i ddefnyddio. Gellir defnyddio ein gwaith monitro i oleuo ein hadroddiadau i Lywodraeth Cymru neu i rannu arfer diddorol.
University monitoring
41. Rydym yn cyfuno’r broses o fonitro’r cyllid blynyddol o £2m ar gyfer cynlluniau gweithredu strategaethau â’r broses o fonitro’r £2m ychwanegol ar gyfer caledi. Darperir templed monitro cyfunol prifysgolion ar gyfer y ddau ddyraniad yn Atodiad E ac Atodiad E1 wrth y cyhoeddiad hwn. (Gweler yr amserlen isod ar gyfer dyddiadau cyflwyno.)
42. Mae monitro cyfunol wedi’i fwriadu i leihau’r baich sy’n gysylltiedig ag adrodd yn erbyn dyraniadau llesiant ac iechyd ac mae’n cydnabod y bydd cynlluniau gweithredu’r prifysgolion yn llywio’r modd y cynllunnir ac y defnyddir y cyllid yn ei holl agweddau.
Monitro gan golegau a gyllidir yn uniongyrchol
43.Ar gyfer colegau mae templed monitro ac astudiaethau achos wedi’i gynnwys yn Atodiad F ac atodiad F1. (Gweler yr amserlen isod ar gyfer dyddiadau cyflwyno.)
Amserlen
44. Mae Tabl 1 dros y dudalen yn nodi’r dyddiadau cyflwyno ac adrodd ar gyfer
prifysgolion a cholegau a gyllidir yn uniongyrchol.
Tabl 1
Gofynion cyflwyno ac adrodd | Dyddiad cyflwyno |
---|---|
Cynllun gweithredu 2024/25 wedi’i gwblhau gan brifysgolion ar gyfer strategaethau Llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl | Dydd Gwener 31 Ionawr 2025 |
Cynllun gweithredu 2024/25 wedi’u gwblhau gan golegau a gyllidir yn uniongyrchol ar gyfer cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol i gefnogi caledi myfyrwyr | Dydd Gwener 31 Ionawr 2025 |
Templed adroddiad monitro 2024/25 wedi’i gwblhau gan brifysgolion a cholegau a gyllidir yn uniongyrchol | Dydd Gwener 26 Medi 2025 |
Rhagor o wybodaeth / ymatebion
45. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Ryan Stokes ([email protected]).
46. Dylid cyflwyno ymatebion i Ryan Stokes ([email protected]).
Asesu effaith ein polisïau
47. Rydym wedi diweddaru ein hasesiad effaith parhaus i ystyried cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Fe wnaethom hefyd ystyried effaith polisïau ar y Gymraeg, a darpariaeth Gymraeg yn y sector AU yng Nghymru ac effeithiau posibl tuag at y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys ein Hamcanion Llesiant.
48. Mae canfyddiadau ein hasesiad o’r effaith yn cynnwys:
* adnabod effeithiau cadarnhaol tebygol ar y nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol. Nid adnabuwyd unrhyw effeithiau negyddol;
* cadarnhau bod y cyllid yn cefnogi pump o’r saith nod llesiant ac yn ystyried y pum ffordd o weithio;
* nodi bod y canllawiau a’r gweithgarwch monitro mewn perthynas â’r cyllid yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg.
Medr/2024/07: Cyllid llesiant ac iechyd 2024/25 a’r gofynion monitro
Dyddiad: 20 Tachwedd 2024
Cyfeirnod: Medr/2024/07
At: Benaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru | Penaethiaid sefydliadau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol yng Nghymru
Ymatebwch erbyn: Dydd Gwener 31 Ionawr 2025
Dydd Gwener 26 Medi 2025
Ar 1 Awst 2024, fe wnaeth Medr gymryd drosodd yr ystod lawn o ddyletswyddau gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ac ystod o swyddogaethau gan Lywodraeth Cymru sy’n ymwneud ag addysg drydyddol.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn adeiladu ar ganllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan CCAUC ac yn darparu canllawiau a thempledi monitro Medr ar gyfer dyrannu cyllid o £2m i brifysgolion i weithredu strategaethau llesiant ac iechyd ar gyfer 2024/25 (prifysgolion yn unig) ac ar gyfer dyrannu £2m ychwanegol yn 2024/25 i lesiant ac iechyd, gan gynnwys cymorth ariannol ychwanegol i fyfyrwyr addysg uwch (prifysgolion a cholegau a gyllidir yn uniongyrchol).
Medr/2024/07 Cyllid llesiant ac iechyd 2024/25 a’r gofynion monitroDogfennau eraill
- Medr/2024/07 Atodiad C Templed cynllun cyflawni strategaeth llesiant ac iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl 2024/25
- Medr/2024/07 Atodiad C1 Taenlen cynllun cyflawni 2024/25
- Medr/2024/07 Atodiad D Colegau a gyllidir yn uniongyrchol 2024/25 – cynllun cyflawni cyllid llesiant ac iechyd ychwanegol
- Medr/2024/07 Atodiad E Adroddiad monitro 2024/25
- Medr/2024/07 Atodiad E1 Cynllun cyflawni monitro 2024/25
- Medr/2024/07 Atodiad F Monitro dyraniadau ar gyfer colegau bellach a gyllidir yn uniongyrchol 2024/25
- Medr/2024/07 Atodiad F1 Monitro dyraniadau ar gyfer colegau addysg bellach a gyllidir yn uniongyrchol 2024/25
Rhagor o wybodaeth am waith Medr
Gallwch danysgrifio i ddiweddariadau i fod y cyntaf i wybod am ein cyhoeddiadau, ein newyddion a’n cyfleoedd swydd.
Tanysgrifio